Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod yn iawn i bwysleisio pa mor greiddiol yw rôl athrawon yn y system sydd gyda ni ar gyfer yr haf hwn, yn dilyn yr hyn glywsom ni haf diwethaf—pa mor bwysig mae hynny i ymddiriedaeth dysgwyr a'r system yn gyffredinol yn y canlyniadau. Felly, rwyf eisiau rhoi ar goedd fy niolch i i athrawon ledled Cymru am y gwaith maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod hynny'n bosib eleni. Yn y...
Jeremy Miles: Yn gryno. Wel, yn sicr roedd fy ngyrfa chwaraeon yn fyr iawn, Lywydd [Chwerthin.] Roeddwn yn chwaraewr anhygoel o aneffeithiol pan oeddwn yn yr ysgol, ac rwy'n edifar am hynny mewn sawl ffordd. Rwy'n credu bod y rhinweddau a amlinellwyd gan yr Aelod yn ei chwestiwn yn hollol gywir o ran datblygiad pobl ifanc, ac rwy'n rhannu'r gofid y mae hi'n ei deimlo nad ydym dros y flwyddyn ddiwethaf...
Jeremy Miles: Rwy'n cytuno'n llwyr â'r awgrym yn y cwestiwn na ddylem fod mewn sefyllfa lle rydym yn creu'r argraff, drwy'r math o bolisi y mae'n cyfeirio ato, mai merched sy'n gyfrifol am y mathau o ddigwyddiadau y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt. Nid wyf yn meddwl am eiliad mai dyna'r bwriad y tu ôl i unrhyw un o'r polisïau y credaf ei bod yn cyfeirio atynt. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn ein...
Jeremy Miles: Diolch, Lywydd. Fe geisiaf wneud cyfiawnder â'r cwestiynau, oherwydd mae'n bwnc sensitif iawn, o ran y ffordd y gofynnir y cwestiynau. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi'n croesawu'r datganiad a gyhoeddwyd y bore yma. Teimlaf fod hon yn flaenoriaeth ar draws y Llywodraeth, yn yr ystyr ei bod yn ymwneud â nifer o bortffolios. Oherwydd mae rhai o achosion sylfaenol yr ymddygiadau rydym...
Jeremy Miles: Wel, mae darparu'r math yna o adnoddau yn rhan o'r gwaith sydd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Rwy'n derbyn yn llwyr beth mae'r Aelod yn ei ddweud ynglŷn â'r cyd-destun er mwyn dysgu a chynnal ymwybyddiaeth a chynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc yn ein hysgolion ni, nid yn unig am impact newid hinsawdd ond hefyd, fel mae hi'n dweud, yn bwysig iawn, y syniad yna o agency personol—y...
Jeremy Miles: Bydd dysgu am heriau amgylcheddol a’r hinsawdd yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r datganiadau ar yr hyn sy'n bwysig ym meysydd dysgu a phrofiad y dyniaethau a gwyddoniaeth a thechnoleg yn cynnwys cyfeiriadau penodol at yr hinsawdd a'r amgylchedd, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn ymdrin â heriau fel newid hinsawdd.
Jeremy Miles: Wel, diolch i Joyce Watson am ei hadolygiad cadarnhaol o'r cyhoeddiad y bore yma. Fel yr awgrymai ei chwestiwn, un o'r meysydd allweddol i’r Llywodraeth ganolbwyntio arnynt yn yr argymhellion 'Adnewyddu a diwygio', a gyhoeddwyd gennyf y bore yma yn dilyn fy natganiad yn y Siambr cyn y toriad hanner tymor, yw ffocws, yn wir, ar ddysgwyr agored i niwed a difreintiedig, gan fod popeth a wyddom...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hynny. O safbwynt gorchudd wynebau, mae gyda ni ganllawiau gweinyddol sydd yn cynghori ysgolion a lleoliadau addysg i edrych yn ofalus ar effaith gwisgo gorchudd wyneb ar bobl sydd yn drwm eu clyw, ac i sicrhau eu bod nhw'n deall yn glir bod effaith hynny'n gallu bod yn sylweddol ar bobl sydd yn dibynnu ar weld wyneb pobl yn glir er mwyn gallu...
Jeremy Miles: Mae ystod o fesurau ar waith i gefnogi dysgu. Rydym wedi ymrwymo dros £150 miliwn mewn buddsoddiadau ychwanegol i gefnogi dysgwyr ac ymarferwyr yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn ychwanegol at oddeutu £130 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae'r cyllid hwn yn cefnogi ein rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, gan gynyddu'r capasiti i gefnogi dysgwyr.
Jeremy Miles: Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Ond mae gosod y sylfeini i ehangu mynediad at addysg Gymraeg yn ymgyrch tymor hir. Rydym ni’n torri tir newydd gyda chynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg 10 mlynedd, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ffrwyth y llafur hynny.
Jeremy Miles: Our national mission is to raise standards for all children and young people regardless of where they live in Wales. We will continue to do this through our wide-ranging reform programme and unprecedented investment, as well as targeted support for specific cohorts and disadvantaged and vulnerable learners.
Jeremy Miles: The Welsh Government is committed to achieving equity and inclusion so all learners, including those with hearing impairment, have access to an education that enables them to reach their potential. The new additional learning needs system puts learners at the centre and will ensure support is properly planned and protected.
Jeremy Miles: The South Wales West region benefited from a total investment of £218.2 million during the first wave funding of the twenty-first century schools and colleges programme. A further £304.5 million investment, with a 65 per cent Welsh Government intervention rate, is planned for the second wave of funding, which began in 2019.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Wel, byddwn ni'n sicrhau bod ein hysgolion ni'n cael eu hariannu er mwyn gallu parhau â'r gwaith da y maen nhw'n ei wneud nawr ac i allu cyflwyno'r cwricwlwm mewn ffordd sydd o fudd i ddysgwyr ledled Cymru. Fel y gwnes i sôn yn fy ateb i'r cwestiwn cynharach, rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n...
Jeremy Miles: Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau y mae hi wedi'u gofyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod angen i ni ystyried o'r newydd cwestiwn y fiwrocratiaeth neu rai o'r beichiau o ran gweinyddu yr ydym ni'n eu rhoi ar y proffesiwn ac ystyried hynny'n greadigol a gweld beth y gallwn ni ei dynnu o ran y fiwrocratiaeth ddiangen honno, os hoffech chi. Mae yna grŵp rheoli llwyth gwaith a...
Jeremy Miles: Diolch i Darren Millar am y cwestiwn pwysig yna. Y pwynt yn ei gwestiwn sy'n fy nharo i'n hanfodol, rwy'n credu, yw gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc y mae hyn yn effeithio arnyn nhw, a gwnes i gyfarfod â'r comisiynydd plant yn ddiweddar, ac, yn amlwg, dyma un o'r materion yr oeddem ni wedi'u trafod. Rhoddodd grŵp ffocws diweddar o ddysgwyr a gafodd ei gynnal ar ein rhan gan Plant yng...
Jeremy Miles: Diolch i Rhianon Passmore am hynna ac am barhau i hyrwyddo anghenion a buddiannau pobl ifanc ledled Cymru, yn ogystal ag yn ei hetholaeth ei hun, sef Islwyn. Rwy'n ymuno â hi i longyfarch y gweithlu addysg yn yr ysgol y soniodd hi amdani ac ar draws Islwyn, yn wir, ledled Cymru, am yr ymdrechion eithriadol y maen nhw wedi'u dangos yn ystod y 12 i 15 mis diwethaf, sydd, yn amlwg, wedi bod yn...
Jeremy Miles: Diolch i Siân Gwenllian am ei chwestiynau a diolch am y cynnig i gydweithio. Rwy'n sicr yn frwd fy hunan i gydweithio ac yn bwriadu danfon gwahoddiad i lefarwyr y gwrthbleidiau ar y maes addysg a'r Gymraeg i gwrdd yn rheolaidd er mwyn i ni allu datblygu patrwm o gyfathrebu agored ynglŷn â'r sialensiau rŷn ni'n sicr i gyd eisiau cydweithio arnyn nhw er mwyn eu datrys. O ran dyfodol patrwm...
Jeremy Miles: Diolch am eich geiriau yn fy llongyfarch, ac am wneud eich sylwadau yn y fath gywair. Yn sicr, byddaf i eisiau gweithio'n adeiladol gyda'r holl bleidiau yn y Siambr hon i gyflawni dros ein plant a'n pobl ifanc, ledled Cymru. Rwy'n credu, os byddwn ni'n canolbwyntio ar les a dilyniant dysgwyr, gan gefnogi lles y proffesiwn, yn y ffordd y cyfeiriodd yr Aelod ato ar ddiwedd ei chwestiwn, y...
Jeremy Miles: Nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth bod gan ein cwricwlwm newydd y potensial i drawsnewid dysgu, ond dim ond os ydym ni'n cefnogi ein hathrawon ni i'w wneud yn llwyddiant. Rhaid i ni wella a diwygio, ac rwy'n benderfynol ein bod yn adeiladu ar y pwyslais ar les a hyblygrwydd a welwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn agos â'r cwricwlwm newydd. Mae ein system addysg...