David Melding: Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn am un peth yn benodol, sef y ffaith y byddai wedi bod yn bosibl cael cynnig heddiw y gallai'r Cynulliad cyfan fod wedi cytuno arno, rwy'n credu, oherwydd rydym o ddifrif yn siomedig gyda'r canlyniad ar y morlyn llanw ac rwy'n gobeithio y bydd yn bosibl i ni ailystyried pethau cyn gynted â phosibl yn y tymor canolig. Mae'n ddyletswydd ar y...
David Melding: Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag aelodau'r cabinet ar yr effaith y gallai toriadau i Llenyddiaeth Cymru ei chael ar lefelau cyrhaeddiad addysgol mewn iaith a llenyddiaeth Saesneg?
David Melding: Ni chywirais fy hun yn gyflym iawn, felly roedd fy nghamgymeriad yn fwy difrifol. A gaf fi ddiolch i Simon Thomas am arwain y ddadl heddiw a chael consensws gwirioneddol dda? Roeddwn yn meddwl fod UKIP hyd yn oed gyda ni, ond oni bai bod eu gwelliant yn pasio, nid yw'n ymddangos y byddant yn llwyddo i'n cefnogi, ond rydym newydd glywed cyfraniad adeiladol i raddau helaeth. Rwy'n credu bod...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn eich llongyfarch ar ba mor gyflym y newidioch chi eich meddwl yno? Ar ddau achlysur, anghofiais alw ar Ann Jones pan oedd yn Gadeirydd pwyllgor perthnasol, ac roeddwn yn teimlo mor ddrwg yr ail dro, prynais focs o siocledi iddi. [Chwerthin.] Nid wyf yn awgrymu bod hwnnw'n gynsail.
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y—
David Melding: Fel pawb arall, rwy'n ystyried bod penderfyniad Barclays yn gwbl annealladwy, ac mae gennyf gydymdeimlad â chi; mae'n anodd iawn meddwl sut y gallwch ragweld penderfyniad mor afreolus. Rwy'n meddwl bod yr hyn a ddywedwch ynghylch cadernid y sector yn allweddol, oherwydd mae swyddi'n parhau i gael eu cynhyrchu, ac efallai yn erbyn y disgwyl gydag awtomatiaeth, mae'r gwasanaeth yn dod yn fwy...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi gefnogi galwad Lee Waters a'ch atgoffa, o dan strategaeth ddigidol y DU, fod ganddynt bartneriaeth sgiliau digidol, sy'n dwyn ynghyd sefydliadau sector cyhoeddus, sector preifat a'r trydydd sector i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau digidol mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol? Onid ydych yn cytuno y dylem fod yn canolbwyntio ar ddull traws-sector o ysgogi...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a ydych wedi cael cyfle i ddarllen adroddiad yr Athro Graeme Reid ar gyllid ymchwil. Daw i'r casgliad, Rwyf wedi nodi cryfderau ac asedau cenedlaethol mawr ym mhrifysgolion Cymru ac mewn canolfannau ymchwil ac arloesi a ddatblygwyd yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf ond nid wyf yn argyhoeddedig fod potensial yr asedau hyn yn cael ei wireddu'n llawn er budd...
David Melding: A gaf i ddweud ein bod yn awyddus iawn i gefnogi'r rheoliadau hyn sy'n gwahardd microbelenni o gynhyrchion hylendid personol. Mae'r rheoliadau hyn wedi'u pasio eisoes, ac yn wir y maen nhw'n dod i rym heddiw yn Lloegr ac yn yr Alban. Felly, rydym ni'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn yr un modd. Felly, o leiaf, yn y DU, bydd gennym ymagwedd gyson. Rwy'n credu bod hwn yn gam...
David Melding: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i groesawu'r datganiad? Rwy'n credu bod yr egwyddor o berchnogaeth gyfrifol a grybwyllir tuag at ddiwedd eich datganiad yn allweddol, ond rwyf yn credu bod angen gwneud mwy â hynny. Mae nifer o'r Aelodau, gan gynnwys Gareth Bennett, wedi sôn am yr angen am addysg, ac wedi'r cyfan, perchnogion anifeiliaid anwes sydd yn mynd i allu...
David Melding: Prif Weinidog, rydym ni eisoes yn gweld, o'r ystadegau poblogaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf ac Aberdâr, sy'n bwysig iawn, bod cynnydd i'r boblogaeth o bobl sydd rhwng 30 a 40, gan fod rhai pobl yn adleoli i'r ardaloedd hynny i brynu tai maint teulu. Mae hyn yn arwain at gymysgedd gymdeithasol fwy o faint a mwy amrywiol, sydd ei hun yn adfywio ardaloedd fel Aberdâr. Ond un rhan hanfodol o...
David Melding: Croesawaf yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn ceisio edrych ar rai o'r meysydd hynny sydd ar hyn o bryd yn arwain at bobl yn cysgu ar y strydoedd a gweld lle y ceir bylchau yn y polisi. Credaf ei fod eisoes wedi cael croeso cyffredinol ar draws y sector, felly llongyfarchiadau ar hynny. Credaf fod yr argymhellion yn adeiladol ac wedi eu hystyried yn drwyadl, ac fel y nodwyd, mae'r...
David Melding: Fel un arall o gyn-fechgyn etholiadol Blaenau Gwent, os mai dyna'r ffordd iawn o'i roi, credaf mai llwyddiant cyfyngedig a gafodd pawb ohonom. Cafodd hynny ei drawsnewid gennych chi yn ddiweddar, ond yn sicr apêl gyfyngedig a oedd i mi a Mr Lee. A gaf fi gymeradwyo gwaith Robert Jones, gŵr yr wyf yn ei adnabod—ac rwyf wedi cael y pleser o gynnal digwyddiad lle roedd yn brif siaradwr yma...
David Melding: Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch ymuno â mi i ganmol gwaith y WWF, sydd wedi edrych ar y maes hwn o bolisi'r Llywodraeth a byddai'n hoffi gweld mwy o weithredu. Maent wedi cyflwyno rhai syniadau penodol iawn, gan gynnwys lleihau'r defnydd o adnoddau drwy gynyddu digonolrwydd adnoddau busnes ac adnoddau gan gynhyrchwyr cynaliadwy ardystiedig. Yn ogystal, mae WWF yn awgrymu y gallem wella...
David Melding: Lywydd, ar yr ochr hon i'r tŷ, a gaf fi estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Martin? Weinidog, i ddangos bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hintegreiddio ar draws y Llywodraeth, mae'n hanfodol fod y nodau cydnerthedd yn cael eu hadlewyrchu yn y contract drwy alw ar fusnesau i ddangos sut y byddant yn cyfrannu tuag at, er enghraifft, y broses o reoli adnoddau...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, fis diwethaf, croesewais y cyhoeddiad y bydd contract economaidd newydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gyflwyno cynigion i ddod yn garbon isel neu di-garbon. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gosod safonau i wella cymwysterau gwyrdd busnesau yng Nghymru, yn enwedig os ydym am fuddsoddi a chefnogi'r cwmnïau hynny gan ddefnyddio...
David Melding: A gaf i ymyrryd—
David Melding: Rydym ni'n gwybod beth yw'r gyfradd gychwynnol y mae'r Llywodraeth yn ei gosod o ran treth trafodiadau tir ac mae hi yn ymddangos yn rhyfedd i gael y ddadl hon ar yr egwyddor hynod o bwysig hon, rwy'n gefnogol iddo ar y cyfan, ond ni allwn ni wneud unrhyw beth i osod y gyfradd wreiddiol. Felly, fe allwch chi ei osod yn uchel, tua'r canol, neu yn isel. Allwn ni ddim dweud dim ynghylch hynny....
David Melding: A gaf i ddechrau drwy led groesawu'r fenter ddeddfwriaethol hon? Mae'n dilyn gweithrediad mesur tebyg yn yr Alban o 2012, a cheir deddfwriaeth arfaethedig yn San Steffan; credaf fod honno wedi'i lansio'r mis diwethaf. Felly, mae angen cyhoeddus eglur i ddiwygio yn y maes cyfreithiol hwn, a bydd y Bil yn ceisio creu sector a marchnad rhentu preifat sy'n fwy tryloyw, ac rydym ni yn cefnogi'r...
David Melding: Prif Weinidog, mae llawer o ddinasoedd ledled y byd yn ymdrechu i fod yn garbon niwtral, rhai erbyn mor gynnar â 2025, ac mae'n amlwg y byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar ansawdd yr aer. Mae maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, wedi symud eu targed nhw ar gyfer niwtraledd carbon ddegawd yn ei flaen. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi cydnabod yr angen am fwy o uchelgais yma ac wedi...