Mark Reckless: Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet ac yn cefnogi’r fargen ddinesig, gan ein bod yn credu y dylai datganoli ymestyn y tu hwnt i Fae Caerdydd. A gaf fi ofyn, lle y bo’r posibilrwydd o unrhyw gyfraniad gan Lywodraeth y DU mewn unrhyw drafodaethau ynglŷn â bargeinion dinesig, a oes perygl y gallai’r fframwaith cyllidol a’r cyllid gwaelodol, a fuasai fel arall yn ddefnyddiol,...
Mark Reckless: A gall yr Aelodau weld y datganiad clir hwnnw, fel y gall aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, ym mharagraff 14 yn y ddogfen honno. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthyf fy mod wedi camddeall y broses gyfan, a do, rwyf wedi dod at hyn â llygaid ffres. Ac efallai oherwydd hynny, bu’n rhaid i mi ddibynnu i raddau ar ddogfennau cyhoeddus ac ar sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i...
Mark Reckless: Ni chredaf y byddai David Gauke, Gweinidog y DU, yn arbennig o falch o glywed ateb Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei fod yntau, fel y gwnaethoch chi, wedi arwyddo datganiad sy’n dweud ‘bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys...yn y pen draw’ cyn mynd ati i restru gwahanol elfennau, sy’n cynnwys cyfraddau treth incwm Cymreig. Nid oes unrhyw gyfeiriad at gynllun wrth gefn neu amodau...
Mark Reckless: Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma nad oedd yn anochel y byddai pwerau codi treth incwm yn cael eu datganoli ac y byddai ei grŵp yn pwyso a mesur hynny dros y penwythnos ac yn penderfynu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ddydd Llun. Tybed a allai fy helpu i ddatrys anghysondeb ymddangosiadol rhwng y datganiad hwnnw a’r fframwaith cyllidol a arwyddodd ar ran Llywodraeth Cymru,...
Mark Reckless: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei gyfrannu at Fargeinion Dinesig? OAQ(5)0067(FLG)
Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Mark Reckless: Rwy'n ddiolchgar. Hoffwn egluro ein bod ni i gyd yn erbyn osgoi talu trethi, ond eto yn amheus o fân newidiadau i ddeddfwriaeth a allai arwain at fwy o ansicrwydd biwrocrataidd a chyfreithiol, a dylem osgoi hynny. Ond rwy'n credu mewn gwirionedd ei fod tawelu fy meddwl i i raddau helaeth o ran yr hyn y mae'n ei wneud, a bod yna gyfnerthu sylweddol a bod y gyfundrefn yn debygol o fod yn...
Mark Reckless: Rwy'n credu ei bod yn wir dweud nad oes gan fy mhlaid i yr un frwdfrydedd a chyffro tuag at ddatganoli'r dreth gyntaf yng Nghymru ers 800 mlynedd ag Aelodau eraill efallai, yn enwedig ar ochr Plaid Cymru y Siambr, ond rydym yn parchu’r rhai sy'n gweld ac yn pwysleisio arwyddocâd hynny. Ar ein taith ein hunain tua’r cyfeiriad hwn, gwnaethom wrthwynebu y mesur o ddatganoli a aeth i...
Mark Reckless: Rhoddodd yr Aelod enghraifft: dywedodd fod y cyllid pellach yn y dyfodol ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd yn un o'r gwobrau y byddai'n ei amddiffyn drwy'r broses hon. A dweud y gwir, mae rhywfaint o gynnydd yn y gyllideb amddiffyn rhag llifogydd rhwng y gyllideb derfynol a'r gyllideb ddrafft, ond mae'r gyllideb gyffredinol, rwy’n credu, ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd yn dal i fod...
Mark Reckless: Mae'n bleser cael dilyn Adam Price ac mae gen i ddiddordeb mawr ym mhersbectif a naws yr hyn a ddywed. Ymddengys i mi ei bod yn amlwg bod amrywiaeth o safbwyntiau o fewn ei blaid ef, a'r rhai a oedd gynt yn rhan ohoni, o ran y graddau priodol o gydweithio â Llywodraeth Lafur a'r graddau y mae Plaid yn cymryd cyfrifoldeb am y gyllideb hon. Pan oeddem yn dechrau ar y broses, roeddwn i o leiaf...
Mark Reckless: Mae ein polisi ar ysgolion gramadeg yn un o nifer o bolisïau. Credaf ei bod yn wirioneddol annerbyniol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio adroddiad na fydd yn ei rannu fel amddiffyniad yn erbyn yr hyn sydd—rwy’n meddwl bod pawb yn cytuno—yn set hynod o anfoddhaol o ganlyniadau PISA. Sut y gallwn ymateb yn synhwyrol i’r datganiad, neu gymryd rhan yn y ddadl ar delerau teg gyda’r...
Mark Reckless: Oscar—cafodd hwyl arni y prynhawn yma. Wrth ymuno â’r ddadl hon, pan gawsom y datganiad PISA, mae’n debyg fy mod braidd yn swil o fod yn or-feirniadol oherwydd y ffordd y cafodd y datganiad ei fframio. Oedd, roedd y canlyniadau’n wael, oedd, roedd y duedd ar i lawr, ond roedd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi cyhoeddi’r adroddiad hwn a oedd yn dweud...
Mark Reckless: Yn ddiweddar, ymwelodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â phrosiect trydan dŵr cymunedol yng ngogledd Cymru, a chefais sgwrs bellach gydag Ofgem am y mater a godwyd, sef bod yn rhaid i gostau cysylltu â’r grid, lle nad oes digon o gapasiti yn yr ardal eisoes, gael eu talu gan y datblygwr yn gyffredinol, ond y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban ar gyfer ynni...
Mark Reckless: Rwyf hefyd yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y mesur hwn. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei alwad ffôn ddoe yn egluro rhywfaint o gefndir hyn, er, wrth gwrs, rwyf i hefyd yn ymwybodol o'n gwaith ar y Pwyllgor Cyllid. Os nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried bod angen cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol, nodaf ei methiant i atal troseddau efadu trethi rhag...
Mark Reckless: Mae'r Aelod dros Dorfaen yn cymharu Brexit â chwymp Iwgoslafia. Ydy hi'n wir yn gwneud cymhariaeth â’r tywallt gwaed hwnnw a’r cannoedd o filoedd o farwolaethau? Pan mae hi'n siarad am gymdeithas sifil, onid yw hi'n ymwybodol fod y rhan fwyaf o'r gymdeithas wedi pleidleisio dros hyn?
Mark Reckless: Ie, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac eraill ar hynny. Rwy'n credu y dylai’r cynnig bod unrhyw newid i linell wariant a fyddai’n cael ei gyflwyno fel cynnig, ar yr un pryd gael gwelliant o ran naill ai cynnydd mewn trethi neu leihad mewn gwariant, a fyddai'n atal hynny. Ond, yn amodol ar hynny, rwy’n meddwl y byddem yn elwa o gael y broses...
Mark Reckless: Gwnaf, rwy’n hapus iawn i wneud hynny.
Mark Reckless: Mae saith mlynedd wedi bod ers dechrau’r cyfnod o adfer economaidd, er bod yr adferiad hwnnw o ddirwasgiad hollol ofnadwy. Bu twf sylweddol yn economïau cyffredinol Cymru a’r DU. Mae diweithdra yn wirioneddol isel iawn yn ôl cymariaethau hanesyddol, o leiaf yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, a hynny yng Nghymru a’r DU. Mae'r diffyg yn y gyllideb ar lefel y DU yn dal i fod yn agos at...
Mark Reckless: Nodaf ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid yw’r cofnod cyflawn ar gael. Fel llawer o rieni eraill, hoffwn edrych ar ganlyniadau cyfnod allweddol 2 gwahanol ysgolion ledled Cymru, a chymharu’r duedd yn hynny o beth a pha welliannau a wnaed, a gwneud cymariaethau, wedi eu haddasu’n briodol, rhwng ysgolion. Mae’r system wedi ei sefydlu ar ei chyfer hi ac ar gyfer y proffesiwn, ac eto,...
Mark Reckless: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb, ac wrth gwrs y flwyddyn nesaf ac wedi hynny mae’n bosibl na chawn gyfle i wneud cymariaethau o’r fath ar draws y ffin gan fod y system raddio TGAU yn newid yn Lloegr o A i G i 9 i 1, ac ni fydd Cymru yn dilyn y llwybr hwnnw. Fel rhiant sy’n ceisio cymharu ysgolion cynradd, a safonau ar draws ysgolion gwahanol, rwyf wedi gweld hynny’n llawer...