David Lloyd: Yn naturiol, yn dilyn o hynny, mae yna bryder ar yr ochr hyn i’r ffin am safon gwasanaethau rheilffyrdd hefyd, gan bobl Cymru. Fel sydd wedi cael ei gyfeirio ato eisoes, rydym wedi gweld y pedwar cwmni yma’n bidio am fasnachfraint Cymru a’r gororau ac, yn naturiol, rydych chi, i fod yn deg, wedi ateb cwestiynau ysgrifenedig gennyf i yn y gorffennol ynglŷn â sut yn hollol fydd y...
David Lloyd: Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Roedd nifer ohonom mewn cyfarfod o’r BMA yma yr wythnos diwethaf, a oedd yn lansio ‘Rhagnodiad brys: Arolwg o feddygaeth teulu yn 2016’. Darlun oedd hynny o’r pwysau anferthol sydd ar feddygon teulu, o gofio bod meddyg teulu’n gweld tua 50 o gleifion bob dydd ar gyfartaledd, a hynny i gyd yn cynnwys problemau cymhleth, dyrys, dwys, achos...
David Lloyd: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y galw ar wasanaethau gofal sylfaenol? OAQ(5)0213(FM)
David Lloyd: Nid oes tystiolaeth i dderbyn hynny ar hyn o bryd, iawn, Hefin. A byddaf yn datblygu’r dadleuon, gobeithio, a fydd yn helpu eraill i weld hynny. Because, essentially, the problem is when a patient and a family come to me and they believe that their child has autism, or even that an adult has autism—there have been huge delays in diagnosis of autism over the years. Sometimes, we don’t...
David Lloyd: Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma fel cadeirydd cyntaf un o’r grwpiau amlbleidiol cyntaf yn y Cynulliad hwn nôl yn y flwyddyn 2000, a grŵp amlbleidiol ar awtistiaeth oedd hwnnw. Roedd yna ddiffyg gwasanaethau nôl yn 1999 ac rydym yn cael yr un dadleuon nawr. Nid oes yna ddim byd wedi newid. Rwy’n darllen cynnig y Torïaid yn fan hyn, sy’n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol...
David Lloyd: Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl arbennig o bwysig yma, a diolch yn fawr i Lee Waters am agor y ddadl mewn ffordd liwgar fel yna ac am esbonio hanfodion y ddadl, yn enwedig ynglŷn â phwysigrwydd y Ddeddf teithio llesol, a hefyd yr angen i ni feddwl nid jest bod y ddeddfwriaeth yna, ond bod angen i ni i gyd weithredu arni hi, achos mae e i gyd i lawr i ni fel cymdeithas i ddilyn yr...
David Lloyd: Ymhellach i’r ateb hwnnw, ac ar yr un trywydd â John Griffiths, a dweud y gwir, a allaf eich gwthio ymhellach, a dweud y gwir, achos mae’r mater hwn yn hanfodol bwysig yn nhermau iechyd? Rwy’n gwybod ein bod ni’n sôn am faterion amgylcheddol yn fan hyn, ond yn naturiol mae croestoriad yn fan hyn a bydd yna fudd pellgyrhaeddol i’r gwasanaeth iechyd. Fel meddygon, rydym ni wastad yn...
David Lloyd: A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad? Yn naturiol, mater pwysig iawn—band eang cyflym iawn. Mae wedi bod yn destun nifer o sylwadau gan bobl yn fy ardal i. Yn naturiol, rydym ni’n croesawu bod yna gynnydd yn y gwaith gerbron, ac wrth gwrs rydym ni wedi cael darpariaeth gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r sefyllfa fesul sir yn ogystal. Wrth gwrs, fel y mae’r Gweinidog wedi...
David Lloyd: O gofio’r bleidlais Brexit, ac, yn deillio o hynny, yr angen efallai i wella gwybodaeth pobl Cymru o beth sy’n digwydd yn y lle yma, beth sy’n digwydd yng Nghymru, gwella portread Cymru, a beth yn union y gallwn ni ei wneud yn y lle yma a beth nad ydym ni’n gallu ei wneud, pa drafodaethau, felly, ydych chi wedi eu cael gyda phwysigion y BBC ac eraill ynglŷn â’r angen dybryd i...
David Lloyd: Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn naturiol, rydym i gyd yn deall cymhlethdodau’r fformwla gyllido, ond a allaf ofyn beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau ariannu digonol i ysgolion llai eu maint?
David Lloyd: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau cyllido ysgolion yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)203(FM)
David Lloyd: Wel, diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl yma, er rwyf mewn cryn benbleth, y mae’n rhaid i mi ddweud, achos nid yn aml rwy’n sefyll i siarad am rywbeth sydd yn ddim byd i’w wneud efo ni yma yng Nghymru. Rydym ni’n sôn am brosiect seilwaith i Loegr yn unig. Dyna beth yw HS2. Wrth gwrs, os bydd y peth yn cael ei basio, byddwn ni i gyd yn talu amdano fe, ond...
David Lloyd: Diolch yn fawr am yr ateb yna, Weinidog. Wrth gwrs, fel rydw i wedi crybwyll eisoes yn y pwyllgor, mae bod yn heini a bod yn ffit yn golygu gostyngiad yn eich pwysau gwaed chi o ryw 30 y cant, gostyngiad yn lefel y siwgr yn eich gwaed eto o ryw 30 y cant, gostyngiad yn lefel y colesterol o ryw 30 y cant a hefyd colli pwysau ryw 30 y cant. Nid oes yna ddim tabled ar wyneb daear sy’n gallu...
David Lloyd: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi ffitrwydd corfforol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0047(HWS)
David Lloyd: Diolch, Lywydd, ond mae’n rhaid i mi ddweud, nid yw hwn yn newyddion da. Fel rŷch chi wedi cyfeirio ato eisoes, rŷch chi’n hynod siomedig—a allaf i jest ddatgan fy mod i’n hynod, hynod siomedig? Fe wnaethoch chi gyfeirio yn eich ateb blaenorol nad oedd rhai ohonom ni yma yn y Cynulliad diwethaf—roeddwn i yma yn y Cynulliad cyn diwethaf, a gallaf eich sicrhau chi, roeddem ni’n...
David Lloyd: Mae hwn yn gyfle priodol i ni allu gwyntyllu rhai pryderon sydd wedi dod i law ynglŷn â’r cwestiwn yma o dreftadaeth Cymru. Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o nifer ohonyn nhw. Rwy’n siŵr ei fod o’n cael yr un un math o e-byst ag yr wyf i’n eu cael. A allaf i jest ddatgan yn y lle cyntaf fy mod i’n credu bod amgueddfa genedlaethol Cymru yn hanfodol i’n diffinio ni fel cenedl?...
David Lloyd: Rydym ni’n cael ein hysbysu gan dîm y cytundeb dinas bod y sefyllfa'n anwadal iawn, ac mai 50/50 yw’r rhagolygon presennol o lwyddiant ar hyn o bryd. Felly, o ystyried hynny, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, a beth mae'n bwriadu ei wneud i gynorthwyo tîm y cais a chynyddu’r tebygolrwydd o lwyddiant o 50/50.
David Lloyd: A gaf fi ddiolch i Eluned Morgan am ddadl hynod o addysgiadol a heriol? Rwy’n llwyr gefnogi’r syniad o wasanaeth gofal cenedlaethol. Rydym yn gorfod ymdrin ag enillion llwyddiant—llwyddiant ein gwasanaeth iechyd—ond sut rydym yn mynd i ymdrin â hynny? Yn 1950, llofnododd y Brenin Siôr VI 250 o gardiau i bobl a oedd yn 100 oed. Erbyn 1990, roedd yn rhaid i’r Frenhines Elizabeth...
David Lloyd: Diolch, Lywydd. Mae’n braf cymryd rhan yn y ddadl yma a hefyd croesawu Bethan i’w rôl arloesol fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant sy’n gweithredu mewn modd arloesol fel rydym newydd ei glywed, hynny yw y cyfathrebu yma. Gan fod cyfathrebu mor ganolog i waith y pwyllgor yma, mae ein cyfathrebu hefyd yn arloesi yn y maes, drwy’r ffordd mae Bethan newydd ei hamlygu efo’r ffordd yr...
David Lloyd: Diolch i’r Gweinidog am ei datganiad. Yn bellach i hynny, a allaf ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros fusnes am ddadl lawn, yn amser y Llywodraeth, ar Dreftadaeth Cymru—Historic Wales? Hwn ydy’r bwriad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant i ad-drefnu gweithgaredd yn y maes pwysig yma a sefydlu corff newydd i gymryd drosodd gweithgaredd ar yr ochr fusnes sefydliadau fel Amgueddfa...