Caroline Jones: Gwnaf.
Caroline Jones: Gobeithiaf weld proses erthygl 50 yn cael ei dechrau yn weddol fuan, er mwyn i bawb allu—[Torri ar draws.] Bydd ychydig o ddyfalu yn ei chylch. Rydym i gyd yn dyfalu ar hyn o bryd, ac mae yna amrywiadau sy’n mynd i ddigwydd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs ei fod yn bwysig i mi, rwy’n byw yng Nghymru. Beth ydych chi’n ei feddwl sy’n bwysig i mi? [Chwerthin.] Brensiach. O ble rydych...
Caroline Jones: Yn y dyddiau a’r wythnosau cyn y bleidlais ar adael yr UE a’r dyddiau a’r wythnosau a ddilynodd hynny, cawsom rybuddion enbyd o fethiant economaidd o ganlyniad i’n penderfyniad i adael yr UE. Ond yn yr wythnosau diwethaf, mae data economaidd wedi profi nad oedd y rhybuddion yn fawr mwy na chodi bwganod. Ond yr wythnos hon, mae Siambrau Masnach Prydain wedi adolygu eu ffigurau twf...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon. Mae i’w chroesawu’n fawr. Hefyd, hoffwn ganmol staff y GIG am y gwaith y maent yn ei wneud, yn aml o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae problemau gyda recriwtio a chadw staff rheng flaen, clinigwyr yn arbennig, wedi cael llawer o sylw yn y blynyddoedd diwethaf. Mae prinder staff wedi arwain at fwy o lwyth gwaith nag y gall...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan Aberafan rai o’r lefelau uchaf o dlodi plant yng Nghymru. Mewn un ward, mae bron i 46 y cant o’r plant yn byw mewn tlodi. Roedd adroddiad blynyddol Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU ar Gyflwr y Wlad yn feirniadol o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan nodi nad oeddent yn cael y lefel gywir o effaith. O ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i...
Caroline Jones: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd aer yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Rwy’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar bob rhan o'n cymdeithas a’n cymunedau. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, yfodd tri deg pedwar y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod fwy na'r terfynau a argymhellir ar o leiaf un diwrnod. Mae oedolion sy'n byw mewn aelwydydd yn y grŵp incwm uchaf ddwywaith yn fwy tebygol o yfed yn drwm...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, erbyn hyn mae angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth ar dros hanner yr holl fyrddau iechyd lleol. Mae fy mwrdd iechyd i yn derbyn ymyrraeth wedi’i thargedu oherwydd perfformiad gwael mewn gofal heb ei drefnu a gofal canser. Mae'r perfformiad gwael hwn yn rhoi bywydau pobl mewn perygl ac yn arwydd damniol o'n polisïau iechyd. Mae'n gwbl amlwg...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, er ei fod yn siomedig bod y buddsoddiad arfaethedig ym Mhen-y-bont yn cael ei leihau, mae'n galonogol clywed Ford yn ailddatgan eu hymrwymiad i ffatri Pen-y-bont ar Ogwr a'i gallu gweithgynhyrchu hyblyg. Mae Ford a'r undebau yn gwrthod yr honiad bod y penderfyniad hwn unrhyw beth i wneud â Brexit. Cafwyd straeon codi braw arall yn y dyddiau diwethaf, gan ddweud bod...
Caroline Jones: Brif Weinidog, mae dur Cymru a diwydiannau ynni-ddwys eraill yn dioddef o ganlyniad i bolisïau lleihau carbon a orfodwyd gan yr UE, sydd wedi arwain at filiau ynni uwch. Er mwyn sicrhau dyfodol dur Cymru, ac yn enwedig gwaith Tata ym Mhort Talbot yn fy rhanbarth i, mae'n rhaid i ni ddiddymu deddfwriaeth yr UE sy'n cynyddu ein costau ynni. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi mai’r...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru hefyd am y cyfle i drafod y cyfleoedd ar gyfer ariannu Cymru yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym yn ymuno â’r pleidiau eraill i alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n elwa o’r penderfyniad i roi’r gorau i atal y gwaedlif o biliynau o bunnoedd y flwyddyn i’r UE. Fodd bynnag, yn wahanol i rai o’r Aelodau yn y Siambr, mae...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn gyfeirio at hyfforddiant ein meddygon. Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, mae’n costio dros £0.75 miliwn i hyfforddi cofrestrydd, a thros £500,000 i hyfforddi meddyg teulu—buddsoddiad sylweddol gan y GIG yng Nghymru. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i ofyn am leiafswm cyfnod gwasanaeth yn y GIG cyn bod y meddygon hynny’n...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai y gallwn symud ymlaen at gadw meddygon. Mae cynnydd aruthrol mewn llwyth gwaith a’r straen o reoli mewn system ofal sylfaenol wedi’i gorlwytho wedi cael y bai gan lawer o feddygon teulu fel y rheswm dros eu penderfyniad i symud dramor neu i ymddeol o ymarfer cyffredinol yn gyfan gwbl. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae recriwtio a chadw meddygon mewn gofal sylfaenol ac eilaidd wedi’i ddisgrifio gan lawer, gan gynnwys llawer o’r colegau brenhinol, fel bom yn tician. Mewn gofal sylfaenol, mae gennym y broblem ddeuol o fethu â recriwtio digon o feddygon teulu ac oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio, nifer cynyddol o feddygon teulu yn ymddeol. Dywedodd Coleg...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog, ac am eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn goroesi a ffynnu. I’m learning Welsh. Mae dweud na fydd hi'n dasg hawdd cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn danddatganiad. Mae amcangyfrifon yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos, yn ystod y...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch am y ffordd yr ydych yn ymdrin â'r adolygiad o broses yr IPFR. Ar faterion fel y rhain, mae'n bwysig ein bod yn codi uwchlaw gwleidyddiaeth plaid ac yn gweithio’n adeiladol gyda'n gilydd i gyflenwi triniaethau achub bywyd i gleifion yng Nghymru. Er y bu llawer o...
Caroline Jones: Diolch. Aelodau, ar ôl gadael yr UE, bydd gan Tata Steel yn fy rhanbarth obaith gwell o oroesi ac fe’ch anogaf i gefnogi’r cynnig. Gan symud at y gwelliannau, rwy’n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Nid ydym yn anghytuno â’r pwyntiau rydych yn eu gwneud a phe baech wedi penderfynu ychwanegu’r pwyntiau hynny at ein cynnig, byddem wedi eich cefnogi. Fodd...
Caroline Jones: Iawn, fe wnaf.
Caroline Jones: Pleidleisiodd Aelodau Seneddol Ewropeaidd UKIP yn erbyn gwelliant grŵp Llafur yr oedd Llafur yn honni y byddai’n arwain at fesurau gwrth-ddympio uwch. Ond nid oedd llawer o dystiolaeth o hyn ac ymataliodd UKIP—ymatal—fel rhan o egwyddor. Tariffau UE o 16 y cant yn unig—o ganlyniad, cododd mewnforion dur o Tsieina i’r UE dros 50 y cant. Mae hyn wedi cael effaith ddinistriol ar ddur...
Caroline Jones: Iawn. Diolch i chi—diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig yn ffurfiol y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Neil Hamilton a minnau. Mae’r cynnig UKIP ger eich bron heddiw yn adlewyrchu ein cred fod yr Undeb Ewropeaidd wedi llyffetheirio busnes Prydain â phentwr o fiwrocratiaeth a pholisi diwydiannol nad yw wedi ei gynllunio ar gyfer ein diwydianwyr yn sector gweithgynhyrchu Prydain. Mae’r...