Russell George: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol i Gymru?
Russell George: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn rheoli’r broses o gaffael masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a’r gororau. Goruchwylio’r broses o ddyfarnu’r contract hwn, byddwn yn dadlau, yw’r prosiect trafnidiaeth pwysicaf y mae Llywodraeth Cymru wedi’i reoli hyd yma. Wrth symud ymlaen, mae...
Russell George: Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth, sy'n ei gwneud yn bwysicach fyth i'm hetholwyr bod gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau rhagorol. Caiff y gwasanaeth y tu allan i oriau presennol ei redeg gan Shropdoc, ac mae'r bwrdd iechyd wedi dweud ei fod eisiau rhoi terfyn ar y gwasanaeth hwnnw a'r contract gyda Shropdoc a'i...
Russell George: O'r hyn a ddeallaf, Prif Weinidog, mae gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru yn defnyddio gwahanol ddulliau talu, sydd weithiau'n achosi problem pan fo plant yn newid ysgol. Tybed a ydych chi'n credu bod sail resymegol i safoni dulliau talu ar draws Cymru.
Russell George: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir i bobl Powys gan Shropdoc? OAQ51594
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth gwrs, mae cynnwrf dealladwy ynghylch y penderfyniad—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ie.
Russell George: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—roeddwn wedi cynhyrfu gormod wrth ofyn fy nghwestiwn. Wrth gwrs, mae'r bri sydd i fathodyn TVR yn un peth, ond wrth gwrs, nid hynny yw'r unig beth y dylid ei ystyried. Mae £2.5 miliwn yn fuddsoddiad sylweddol, ac mae'r cyhoedd, wrth gwrs, yn awyddus i weld tystiolaeth fod arian trethdalwyr yn cael ei ddiogelu'n...
Russell George: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a ymatebodd i lythyr ar y cwestiwn hwn ychydig ddyddiau yn ôl yn unig? Efallai bod eich ateb yn methu'r pwynt i raddau, gan fod hyn yn ymwneud ag amseriad adroddiad panel annibynnol Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol ar lwfansau ar gyfer aelodau etholedig. Mae'n rhaid i gynghorau lleol, wrth gwrs, bennu eu cyllidebau erbyn canol mis Ionawr....
Russell George: Weinidog, fis Medi diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi comisiynu ymchwil i'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno cyfrifoldeb estynedig ar gynhyrchwyr. Nawr, wrth gwrs, gallai hyn annog cynhyrchwyr i lunio eu cynnyrch mewn ffordd wahanol. A gaf fi ofyn pryd rydych yn disgwyl y byddwch yn adrodd ar ganlyniadau'r gwaith ymchwil hwn?
Russell George: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr amserlen ar gyfer adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar lwfansau ar gyfer aelodau etholedig o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru? OAQ51544
Russell George: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn TVR? 103
Russell George: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o brosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru?
Russell George: Prif Weinidog, a gaf i ddweud fy mod i'n credu bod rhaglen Cyflymu Cymru wedi bod yn drychineb cyfathrebu cyhoeddus? Yn sicr addawyd band eang ffibr i'm hetholwyr dro ar ôl tro dim ond i gael eu hysbysu bod yr uwchraddio wedi ei oedi, ar sawl achlysur. Ac maen nhw'n canfod nawr eu bod nhw wedi cael eu gadael mewn twll gan fod Openreach wedi rhedeg allan o amser. Mewn llythyr i mi ar 11...
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn ichi am unrhyw waith yr ydych chi wedi'i wneud neu yr ydych chi'n bwriadu ei gomisiynu ar ganlyniadau y cwmni hwn yn mynd i'r wal o ran amodau economaidd ehangach y bydd hyn yn eu hachosi i economi Cymru, ac yn enwedig i fusnesau bach? Mae Adam Price wedi codi cwestiynau am y fasnachfraint rheilffyrdd, ond a gaf i bwyso arnoch chi ychydig mwy am y...
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng nghanolbarth Cymru?
Russell George: Diolch i chi, Lywydd. Cyflwynaf y cynnig yn enw Paul Davies. Rwy'n dweud hefyd na fyddwn yn cefnogi gwelliant 'dileu popeth' y Llywodraeth, ond byddwn yn cefnogi gwelliant 2 gan Blaid Cymru. Ar hyn o bryd, rwy'n bwriadu ymatal ar welliant 3 Plaid Cymru, ond edrychaf ymlaen at glywed gan lefarydd Plaid Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater penodol hwnnw. Rwy'n tybio ei bod yn anodd i...
Russell George: Ysgrifennydd Cabinet, diolch am eich ymateb. Cawsom ymrwymiad calonogol iawn gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chyllideb Llywodraeth y DU tua diwedd y llynedd, o ran cefnogi bargen twf i ganolbarth Cymru. Yn wir, croesawaf eich ymrwymiad hefyd i fargen twf i ganolbarth Cymru wrth ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am fargen twf ar gyfer...
Russell George: Wel, rwy'n gwerthfawrogi eich ateb, ond wrth gwrs, mae'r targedau yn ein cynorthwyo ni fel Aelodau yn y Siambr hon i graffu ar gynlluniau'r Llywodraeth, a heb dargedau, mae'n gwneud ein gwaith ni, wrth gwrs, yn anos. Nawr, mae rhan olaf yr hyn rwyf am ei godi yn ymwneud â chaffael. Mae caffael, wrth gwrs, yn rhan allweddol, yn arf allweddol y gall y Llywodraeth ei ddefnyddio i gefnogi twf...
Russell George: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, fy nghwestiwn oedd pam na chafodd unrhyw beth ei grybwyll, pam na chafodd unrhyw dargedau eu crybwyll, yn y cynllun gweithredu economaidd. Yma, mae gennyf gopi o adroddiad a gynhyrchwyd gan PricewaterhouseCoopers y llynedd—eitem arall ar fy rhestr ddarllen dros y Nadolig. Nawr, noda hwn fod nifer enfawr o swyddi mewn perygl...
Russell George: Diolch, Lywydd. Blwyddyn newydd dda, Ysgrifennydd y Cabinet. Dros doriad y Nadolig, bûm yn darllen eich cynllun gweithredu economaidd gyda'r nos—[Torri ar draws.] Gwneuthum lawer o bethau cyffrous eraill hefyd. Ond nid yr hyn a oedd ynddo a'm synnodd, ond yr hyn nad oedd ynddo. Felly, hoffwn siarad am rai o'r eitemau hynny heddiw. Nawr, mae enillion yng Nghymru yn is na gweddill y...