Nick Ramsay: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i groesawu eich datganiad heddiw—ac nid dim ond dweud hynny ydw i; fel y gwyddoch, rwyf wir yn croesawu'r potensial y mae’r fframwaith hwn yn ei gynnig i Gymru ac, yn wir, y DU ar gyfer y dyfodol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn gefnogol iawn o fframwaith cyllidol ers peth amser bellach, ac ers iddi ddod yn amlwg ein bod am gael trethi wedi’u datganoli,...
Nick Ramsay: Y mae gennych ddawn dweud, Ysgrifennydd y Cabinet. Blwyddyn newydd dda i chithau hefyd. Byddech yn cael maddeuant am feddwl ei bod hi’n dal yn ‘Ddydd Llun y Felan’ o wrando ar rai o'r cwestiynau llai na chadarnhaol a ofynnwyd i chi heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod ni’n derbyn y byddai llawer ohonom yn hoffi gweld y tollau yn cael eu dileu’n gyfan gwbl ar y croesfannau...
Nick Ramsay: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Gwyddom yn iawn y problemau y mae busnesau mewn rhai rhannau o Gymru yn eu hwynebu gyda'r cynnydd enfawr i ardrethi busnes fis Ebrill eleni. Mae hyn yn arbennig o anodd i fusnesau mwy newydd. Er fy mod i’n croesawu'r ymrwymiad o gymorth ychwanegol yn y gyllideb, ceir diffyg eglurder o hyd ynghylch sut y mae'r arian hwnnw'n mynd i gael ei ddosbarthu, ac mae...
Nick Ramsay: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau newydd yng Nghymru? OAQ(5)0378(FM)
Nick Ramsay: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wella’n anfesuradwy, yn y lle cyntaf, ysgolion cynradd yn Sir Fynwy, ac mae Ysgol Gyfun Trefynwy bellach yn cael ei hailadeiladu, gydag ysgolion cyfun eraill yn gorfod aros. Mae’n dal i fod problem wirioneddol gyda phresenoldeb asbestos mewn ysgolion ledled Cymru. Sut y gwnewch chi...
Nick Ramsay: Mae hynny’n sicr yn newyddion da, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn un o brif fanteision y Bil Cymru presennol wrth iddo fynd rhagddo. Mae’n amlwg fod hwn yn gyfnod cymhleth i’r Cynulliad o ran cyllid, gyda threthi newydd yn cael eu datganoli, yr amrywiant yn y grant bloc yn sgil hynny, dyfodiad pwerau benthyca—fe allwn barhau. Deallaf fod y cytundeb yn caniatáu ar gyfer adolygu’r...
Nick Ramsay: Diolch am eich ymrwymiad i roi datganiad yr wythnos nesaf ac am ymdrechion eich tîm yn hyn o beth. Credaf fod hyn yn enghraifft dda o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fo Llywodraeth Cymru, y Cynulliad yn ei gyfanrwydd, a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd. Nid yw hynny wedi digwydd bob amser yn y gorffennol, ond mae’n dda gweld bod cynnydd wedi’i wneud. A allwch roi eglurhad...
Nick Ramsay: Diolch. Blwyddyn newydd dda, Ysgrifennydd y Cabinet.
Nick Ramsay: Rwyf mewn perygl o ailadrodd, gyda phwyllgor y bore yma, a grybwyllwyd gennych yn barod, ond mae’n fyw yn fy nghof ac yn hynod o bwysig: a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’ch cytundeb gyda Llywodraeth y DU ar y fframwaith cyllidol hirddisgwyliedig?
Nick Ramsay: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ(5)0070(EDU)
Nick Ramsay: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei blaenoriaethau ar wariant addysg yn 2017?
Nick Ramsay: Prynhawn ysgafn i ni, Ysgrifennydd y Cabinet, ynte? Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon. Rwy'n credu ein bod ni ar sawl achlysur, mewn dadleuon a datganiadau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, wedi amlygu mai treth dir y dreth stamp yw’r dreth gyntaf i gael ei datganoli i Gymru mewn sawl can mlynedd, pwynt a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Yn wir, fel y dywedodd y Cadeirydd,...
Nick Ramsay: Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar y gyllideb derfynol. A gaf i yn gyntaf gytuno â'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a hefyd groesawu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i rai o argymhellion y Pwyllgor Cyllid, rai ohonynt a dderbyniais yn gynharach heddiw? Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth agor y ddadl hon, mae hwyrni cyllideb eleni, oherwydd amseriad...
Nick Ramsay: Rwy'n falch bod Adam Price wedi codi’r cwestiwn hwn. Dim ond chi allai wneud i Corbyn a May swnio fel grŵp canu gwerin o’r 1960au, Adam. Byddai'n well gen i ganolbwyntio ar y mater bwyd a diod y soniodd y Prif Weinidog amdano wrth eich ateb. Rwy’n cytuno â chi, Brif Weinidog, fod gan Gymru stori wych i'w hadrodd o ran ein bwyd a diod cartref, ac rydych chi’n iawn i dynnu sylw at...
Nick Ramsay: Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod adnoddau’n brin, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, a bod cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd, o ran cyfalaf, yn ddrud iawn, a refeniw yn ogystal, a ydych yn credu y buasai’n amser da yn awr, gyda’r agenda yn symud at fwy o gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, a datblygiadau ar draws awdurdodau lleol, megis metro de Cymru, a dinas-ranbarthau, i edrych...
Nick Ramsay: A gaf i gytuno â'r sylwadau y mae Adam Price wedi’u gwneud? Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae ailbrisio’r ardrethi busnes yn parhau i fod yn destun pryder aruthrol i'r busnesau hynny sy'n wynebu cynnydd sylweddol yn eu gwerth ardrethol. Mae'r pryder hwn yn ymestyn i'r cynllun rhyddhad y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu arno a’r rhyddhad trosiannol yr ydym yn...
Nick Ramsay: Rwy'n cytuno â safbwyntiau Mark Reckless a hefyd â Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ger ein bron heddiw. Rwyf wedi clywed bod pryderon, os caf ei fynegi mor bendant â hynny, gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, ar ôl edrych ar hyn fy hun, nid wyf yn credu bod cyfiawnhad i’r pryderon hynny yn yr achos hwn....
Nick Ramsay: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae gen i gwestiwn cyflym: beth ydych chi'n ei wneud i leoleiddio’r banc datblygu newydd? Rwy’n deall eich rhesymau dros ei leoli yn y gogledd. Rydym yn croesawu hynny, ac mae Aelodau eraill wedi gwneud hynny. Ond rhan o'r feirniadaeth o Cyllid Cymru bob amser fu ei ddiffyg...
Nick Ramsay: Roedd Steffan yn iawn pan ddywedodd fod y Cynlluniad cyfan yn y ddadl honno wedi cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn. Mae'n bwysig bod pensiynau cyn-lowyr yn cael eu diogelu a bod trefniadau gyda Llywodraeth y DU sy'n dryloyw ac yn deg. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr angen iddi barhau i warantu’r gronfa bensiwn? Ac o ran y gwarged, mae’n...
Nick Ramsay: Rwy’n ddiolchgar i Adam Price am ildio. Anghofiais sôn am y doll teithwyr awyr yn fy araith, ond rydych newydd gyfeirio ati, ac rydych yn gwneud pwynt dilys iawn, a byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru ar y doll teithwyr awyr. Rwy’n credu y byddai’n adnodd pwysig iawn yng nghasgliad adnoddau Llywodraeth Cymru.