Lee Waters: A wnaiff yr Aelod ildio?
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. Dechreuodd mor dda, ac rwyf am ei achub rhagddo’i hun, oherwydd, wrth gwrs, nid yw’n fater o ‘naill ai / neu, nac ydy? Nid oes angen bwrw iddi ar eich pregeth arferol yn erbyn ynni adnewyddadwy; mae angen y ddau arnom.
Lee Waters: Gweinidog, rwy’n meddwl ei bod yn arwyddocaol fod y 1,100 o swyddi a gymerwyd o Gaerdydd wedi arwain at 250 o swyddi’n unig, yn ôl adroddiadau, erbyn iddynt gyrraedd Dundee. Felly, heb os, roedd nifer o ffactorau ar waith, ond yn amlwg mae awtomeiddio’n digwydd yn awr; yn hytrach na bod yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol, mae’n fyw ac mae’n effeithio ar ein cymunedau. Roeddwn yn falch...
Lee Waters: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r tarfu ar y farchnad sy'n cyd-fynd â’r hyn a elwir yn eang y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn rhoi cyfle i ni ail-ddychmygu economi Cymru a’i gwneud yn fwy cydnerth i'r heriau sy'n cael eu rhyddhau gan rymoedd byd-eang. Mae angen diweddaru strategaeth gyfredol Arloesedd Cymru ac mae angen mwy o uchelgais arni yn wyneb hyn. A wnaiff y Prif Weinidog...
Lee Waters: 7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o strategaeth ‘Arloesi Cymru’? OAQ(5)0660(FM)
Lee Waters: O ystyried y gwahaniaeth y mae’n ei wneud rhwng ein rôl ni fel seneddwyr a’r Llywodraeth yn y trefniadau rhyngsefydliadol, fel y mae’n eu galw, a oes ganddo unrhyw farn ar yr argymhelliad yn yr adroddiad, cyn iddo roi sêl ei fendith i gymeradwyo penodiad BBC Cymru i’r bwrdd, fod pwyllgor diwylliant y Cynulliad yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i’r cyfryw enwebai?
Lee Waters: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Lee Waters: Diolch, Llywydd, ac nid wyf am ddilyn esiampl fy nghyd-Aelodau a chanu clodydd gwaith ein pwyllgor ein hunain—mater i eraill ffurfio barn yn ei gylch yw hwnnw. Mae’n werth atgoffa ein hunain pam ein bod wedi cychwyn ar y gwaith hwn a’r cefndir braidd yn ddigalon pan aethom ati i ddechrau ar ein gwaith. Mae toriad o 22 y cant wedi bod dros y 10 mlynedd diwethaf yn nifer yr oriau o...
Lee Waters: Rydych yn chwarae i’r galeri yn awr.
Lee Waters: Ond beth am unrhyw gyflwr arall?
Lee Waters: A gaf i ychwanegu fy niolch i Paul Davies am ddod â’r ddeddfwriaeth hon gerbron, ac am ei ffordd gydsyniol o ddatblygu’r cynnig hyd yma? Rwy’n credu bod consensws yn y Cynulliad Cenedlaethol fod angen gwneud mwy i helpu teuluoedd ag awtistiaeth. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â llawer o’r hyn a ddywedodd Leanne Wood? Gobeithio y gall pawb ohonom ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn...
Lee Waters: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n wirioneddol gynhyrfus am botensial y strategaeth hon, nid yn unig fel ymyriad iechyd, ond fel ymyriad economaidd, hefyd. Genomeg yw un o'r diwydiannau sy’n datblygu gyflymaf yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol y ceir cymaint o sôn amdano. Rydym ni wedi trafod rhai o'r manteision iechyd heb eu hail—mae sôn y gallwn ni ddisgwyl triniaethau canser, er...
Lee Waters: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr, rwy’n croesawu eich datganiad am y buddsoddiad mewn codio yn y dyfodol. Rwy'n credu bod hynny'n galonogol iawn ac rwy'n gobeithio, o ystyried y cyfleoedd sydd ar gael oherwydd codio, bod y cyhoeddiad yn ddigon mawr i allu manteisio ar y cyfleoedd hynny. Rwyf hefyd yn cydnabod eich sylwadau bod y DCF a Hwb yn cael eu canmol ar draws y byd a...
Lee Waters: Ysgrifennydd y Cabinet, dywedasoch ar y dechrau fod hwn yn amgylchedd sy'n newid yn gyflym a fu’n agored i rywfaint o aflonyddwch yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r adroddiad yn penderfynu mai Cyngor Llyfrau Cymru yw'r corff gorau—yn y sefyllfa orau—i arwain trwy'r cyd-destun ansicr hwn, ond mae hefyd yn dweud bod angen i Gyngor Llyfrau Cymru ddatblygu gwahanol lefelau o barodrwydd...
Lee Waters: Fe wnes i ragflaenu fy sylwadau, Llywydd, i sôn am ffordd osgoi'r Drenewydd, y cyfeiriwyd ati gynnau.
Lee Waters: Yn wir. Rwy'n sôn am y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu a dehongli’r Ddeddf hon, a pha un a wnaiff y Prif Weinidog, a Llywodraeth Cymru, gyhoeddi canllawiau cryf i awdurdodau lleol, i wneud yn siŵr bod y pwyslais ar deithiau byr, teithiau ymarferol, ac nid ffyrdd osgoi.
Lee Waters: Onid rhan o'r broblem, Prif Weinidog, yw ei bod yn ymddangos bod rhai Aelodau yn meddwl bod ffyrdd osgoi yn rhan o rwydweithiau teithio llesol? Mae chwe deg y cant o'r holl deithiau car yn deithiau o lai na phum milltir, ac mae pwyslais ar deithiau bob dydd yn un o'r ffyrdd allweddol o wneud i’r Ddeddf teithio llesol wireddu ei photensial. Yn Sir Gaerfyrddin, mae strategaeth ddrafft y...
Lee Waters: A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i adolygiad o'r strategaeth Arloesi Cymru?
Lee Waters: Iawn, mi wnaf fy ngorau glas. Diolch i chi am ildio. Mewn ymateb i’r pwynt ynglŷn â’r methiant i adeiladu tai’n organig dros y blynyddoedd fel bod angen adeiladu gormod ohonynt bellach, a fyddech yn derbyn mai methiant Llywodraethau Ceidwadol yn yr 1980au i adeiladu tai yn lle’r tai a werthwyd i denantiaid cyngor, yn ddigon cywir, ond yna ni chafodd tai amgen eu hadeiladu i wneud...
Lee Waters: A wnaiff yr Aelod ildio?