Canlyniadau 921–940 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adnewyddu a diwygio: Cefnogi lles a chynnydd dysgwyr (26 Mai 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mae'r flaenoriaeth sydd angen sylw ar frys yn glir: sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn, er gwaethaf y pandemig. Fe fydd pob penderfyniad y byddaf i'n ei wneud fel Gweinidog yn cael ei lywio gan anghenion dysgwyr a'u lles nhw, gyda ffocws ar leihau anghydraddoldebau addysgol a...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Troseddau Gwledig (16 Maw 2021)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn eto. Mae hi wedi, wrth gwrs, fel y gwnaeth hi sôn yn y cwestiwn, dod â hyn at fy sylw o'r blaen, ac mae'n amlwg yn fater pwysig iawn, iawn yn ei hetholaeth ac ar draws Cymru. Rwy'n credu bod tystiolaeth dda iawn o gydweithio rhwng yr asiantaethau perthnasol yng Nghymru, sydd, rwy'n credu—ac rwy'n gwybod y byddai hi'n cydnabod hyn—wedi cael ei...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Troseddau Gwledig (16 Maw 2021)

Jeremy Miles: Rydym ni'n cymryd troseddau gwledig o ddifrif, a dyna pam y gwnaethom ni sefydlu grŵp bywyd gwyllt a throseddau gwledig Cymru. Er nad yw plismona, wrth gwrs, yn fater datganoledig yn anffodus, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a heddluoedd Cymru i sicrhau bod anghenion diogelwch y cyhoedd yn cael eu diwallu ledled Cymru.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Ymwybyddiaeth o Reolaeth y Gyfraith (16 Maw 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn atodol yna, ac roeddwn wrth fy modd, er mwyn trafod cwestiynau am reolaeth y gyfraith gyda phobl ifanc, i fod wedi cymryd rhan yn ddiweddar gyda rhai myfyrwyr o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eu cynhadledd cyfraith a throseddeg, i drafod yr union fath hwn o fater. Ac yn y ffordd yr oedd hi'n awgrymu yn ei chwestiwn, roedd llawer o'r drafodaeth...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Ymwybyddiaeth o Reolaeth y Gyfraith (16 Maw 2021)

Jeremy Miles: Mae ymwybyddiaeth o reolaeth y gyfraith yn rhan annatod o'n gwaith fel Llywodraeth ac i'n hymdrechion i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Mae nifer o fentrau ar y gweill a fydd yn cael eu dwyn ynghyd mewn rhaglen ffurfiol, yn unol â'r ddeddfwriaeth a basiwyd yn y Senedd hon, ar ddechrau tymor nesaf y Senedd.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Diffygion Mewn Adeiladau Uchel Iawn (16 Maw 2021)

Jeremy Miles: Wel, rydym ni yn sicr yn disgwyl i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid, o ganlyniad i'r ymrwymiadau gwario a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Lloegr, a bydd hynny, wrth gwrs, yn ein galluogi i baratoi ymateb i lesddeiliaid sydd yn y sefyllfa hon. Mae cyfnod o ymgynghori ar y Papur Gwyn y mae'r Gweinidog wedi'i gyhoeddi tan 12 Ebrill, a byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i annog pobl i ymateb i'r...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Diffygion Mewn Adeiladau Uchel Iawn (16 Maw 2021)

Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru’n edrych ar ddewisiadau i ddiogelu lesddalwyr rhag gorfod talu costau llawn unioni materion diogelwch adeiladau. Mae’n hollbwysig, wrth gwrs, ein bod ni’n sicrhau bod yr holl opsiynau’n cael eu hystyried yn briodol, y cynhelir asesiadau risg ar yr opsiynau a’n bod ni’n deall yr effeithiau’n llawn cyn cyhoeddi modelau ariannu penodol. 

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Diogelu Da Byw Rhag Ymosodiadau Gan Gŵn (16 Maw 2021)

Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod yn gwybod mai fy swyddogaeth i yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n gweithio o fewn ei phwerau cyfansoddiadol, ond hefyd sicrhau ein bod ni'n gallu gweithio i'r eithaf pellaf o'n pwerau datganoledig, a hefyd yn ymchwilio am bob cyfle i sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei ddiwygio mewn ffordd sydd yn gweithredu er budd pobl Cymru. Mae'r Gweinidog dros yr amgylchedd wedi...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Diogelu Da Byw Rhag Ymosodiadau Gan Gŵn (16 Maw 2021)

Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gweithio’n agos gyda lluoedd yr heddlu, gyda Llywodraeth y DU, y llywodraethau datganoledig eraill a rhanddeiliaid i ystyried beth yw’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r mater difrifol hwn o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw ac atal effeithiau dinistriol hyn.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (16 Maw 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn atodol yna. Drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, mae'n sicr yn wir bod Llywodraeth y DU yn ceisio cyflawni mewn meysydd datganoledig heb unrhyw fewnbwn gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau, a heb unrhyw ymgysylltu â rhanddeiliaid nac ymgynghori â'r cyhoedd. Ac yn ymarferol, byddai hynny'n golygu bod Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ar...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (16 Maw 2021)

Jeremy Miles: Mae'r goblygiadau'n glir: mae hon yn ymgais i fynd â phethau'n ôl i ddegawdau yn ôl, pan oedd San Steffan yn gwybod orau. Nid sarhad ar bobl Cymru yn unig yw anwybyddu sefydliadau etholedig Cymru, a bydd yn amlwg yn arwain at ganlyniadau gwaeth i Gymru hefyd.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Lleoliadau Gwaith Tymor Byr ( 3 Maw 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Vikki Howells am godi'r cwestiwn gwirioneddol bwysig hwn. Rydym yn rhannu awydd i sicrhau y gall y lleoliadau gwaith hyn ddigwydd mewn ffordd syml iawn sy'n cefnogi eu cyflawniad. Mae ColegauCymru yn gywir i ddweud bod natur y cytundeb masnach a chydweithredu yn golygu bod darparwyr addysg a hyfforddiant yn ymdrin, yn amlwg, â threfniadau fisa a mewnfudo newydd a goblygiadau hynny o...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Lleoliadau Gwaith Tymor Byr ( 3 Maw 2021)

Jeremy Miles: Yn ogystal â thrafodaethau rheolaidd ar faterion mewnfudo ac Erasmus+ yn is-bwyllgor y Cabinet, yn ddiweddar ysgrifennais at y Gweinidog mewnfudo gan dynnu sylw penodol at effaith y rheolau newydd ar ddysgwyr galwedigaethol o'r UE ar leoliadau gwaith yn y DU fel rhan o raglen Erasmus+.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Porthladd Caergybi ( 3 Maw 2021)

Jeremy Miles: Rŷn ni wedi bod yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun pum pwynt sydd wedi ffocysu ar y gallu i gymryd camau penodol i geisio ateb rhai o'r problemau hynny y mae'r cludwyr wedi bod yn eu disgrifio wrthym ni i gyd. Rŷn ni'n gobeithio gallu cyhoeddi'r cynllun hwnnw ar y cyd cyn diwedd y mis, felly gobeithio y bydd camau ymlaen yn digwydd yn sgil hynny. Fel y mae'r cwestiwn...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Porthladd Caergybi ( 3 Maw 2021)

Jeremy Miles: Mae colli cludiant llwythi o'r llwybr rhwng Caergybi a Dulyn i borthladdoedd yng Ngogledd Iwerddon ac i lwybrau hirach ond mwy uniongyrchol o Iwerddon i gyfandir Ewrop yn peri pryder i ni. Canlyniad y cytundeb masnach a chydweithredu yw hwn, ac rŷn ni'n pwyso ar Lywodraeth Iwerddon a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio lleihau'r problemau y mae cludwyr yn eu hwynebu.  

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Astudio Dramor ( 3 Maw 2021)

Jeremy Miles: Wel, yn sicr, rwy’n rhannu uchelgais unrhyw un sy’n dymuno gweld myfyrwyr o Gymru yn gallu manteisio i'r eithaf ar y mathau o gyfleoedd rhyngwladol a oedd ar gael iddynt o dan Erasmus ac a fyddai ar gael ar sail ehangach fyth o dan y cynllun a fydd yn cymryd ei le. Credaf ei fod yn rhan bwysig iawn o'n diwylliant ac yn rhan bwysig iawn o'n safbwynt rhyngwladol, os caf ddweud. Ond credaf...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Astudio Dramor ( 3 Maw 2021)

Jeremy Miles: Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector addysg. Maent wedi nodi'n glir eu pryderon ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chymryd rhan yn Erasmus+ a diffygion Cynllun Turing fel rhywbeth i gymryd ei le, a'r niwed y bydd hyn yn ei wneud i allu pobl Cymru i astudio dramor.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Hawliau Cerddorion yng nghyswllt yr UE ( 3 Maw 2021)

Jeremy Miles: Wel, Lywydd, diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol hwnnw ac rwy’n cydnabod yr holl waith y mae'n ei wneud i gefnogi'r sector cerddoriaeth a'r sector cerddoriaeth fyw yn enwedig, sydd mor bwysig, yn amlwg, yn ei hetholaeth hi, ond i Gymru yn gyffredinol. Rydym ni fel Llywodraeth yn llwyr gydnabod pwysigrwydd cerddorion a'r diwydiannau creadigol ehangach i Gymru, ac mae effeithiau...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Hawliau Cerddorion yng nghyswllt yr UE ( 3 Maw 2021)

Jeremy Miles: Ni ddylid diystyru’r problemau sy'n wynebu cerddorion a pherfformwyr fel problemau cychwynnol; maent yn ganlyniad i’r cytundeb masnach a chydweithredu a negodwyd gan Lywodraeth y DU. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cymru Greadigol a grwpiau rhanddeiliaid eraill i ddeall yr effeithiau’n iawn ac i ymateb iddynt.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Busnesau Rhyngwladol ( 3 Maw 2021)

Jeremy Miles: A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiwn pwysig iawn? Credaf ei fod yn nodi mater pwysig iawn ac yn gosod y cyfeiriad teithio cywir yn ei gwestiwn. Drwy'r strategaeth ryngwladol y soniais amdani gynnau, rydym wedi dweud yn glir iawn mai'r hyn rydym yn ei geisio yw buddsoddiad sy'n ychwanegu gwerth, os mynnwch, i economi Cymru, yn y ffordd y soniodd Gweinidog yr economi amdani yn ei...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.