Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mae'r flaenoriaeth sydd angen sylw ar frys yn glir: sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn, er gwaethaf y pandemig. Fe fydd pob penderfyniad y byddaf i'n ei wneud fel Gweinidog yn cael ei lywio gan anghenion dysgwyr a'u lles nhw, gyda ffocws ar leihau anghydraddoldebau addysgol a...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn eto. Mae hi wedi, wrth gwrs, fel y gwnaeth hi sôn yn y cwestiwn, dod â hyn at fy sylw o'r blaen, ac mae'n amlwg yn fater pwysig iawn, iawn yn ei hetholaeth ac ar draws Cymru. Rwy'n credu bod tystiolaeth dda iawn o gydweithio rhwng yr asiantaethau perthnasol yng Nghymru, sydd, rwy'n credu—ac rwy'n gwybod y byddai hi'n cydnabod hyn—wedi cael ei...
Jeremy Miles: Rydym ni'n cymryd troseddau gwledig o ddifrif, a dyna pam y gwnaethom ni sefydlu grŵp bywyd gwyllt a throseddau gwledig Cymru. Er nad yw plismona, wrth gwrs, yn fater datganoledig yn anffodus, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a heddluoedd Cymru i sicrhau bod anghenion diogelwch y cyhoedd yn cael eu diwallu ledled Cymru.
Jeremy Miles: Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn atodol yna, ac roeddwn wrth fy modd, er mwyn trafod cwestiynau am reolaeth y gyfraith gyda phobl ifanc, i fod wedi cymryd rhan yn ddiweddar gyda rhai myfyrwyr o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eu cynhadledd cyfraith a throseddeg, i drafod yr union fath hwn o fater. Ac yn y ffordd yr oedd hi'n awgrymu yn ei chwestiwn, roedd llawer o'r drafodaeth...
Jeremy Miles: Mae ymwybyddiaeth o reolaeth y gyfraith yn rhan annatod o'n gwaith fel Llywodraeth ac i'n hymdrechion i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Mae nifer o fentrau ar y gweill a fydd yn cael eu dwyn ynghyd mewn rhaglen ffurfiol, yn unol â'r ddeddfwriaeth a basiwyd yn y Senedd hon, ar ddechrau tymor nesaf y Senedd.
Jeremy Miles: Wel, rydym ni yn sicr yn disgwyl i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid, o ganlyniad i'r ymrwymiadau gwario a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Lloegr, a bydd hynny, wrth gwrs, yn ein galluogi i baratoi ymateb i lesddeiliaid sydd yn y sefyllfa hon. Mae cyfnod o ymgynghori ar y Papur Gwyn y mae'r Gweinidog wedi'i gyhoeddi tan 12 Ebrill, a byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i annog pobl i ymateb i'r...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru’n edrych ar ddewisiadau i ddiogelu lesddalwyr rhag gorfod talu costau llawn unioni materion diogelwch adeiladau. Mae’n hollbwysig, wrth gwrs, ein bod ni’n sicrhau bod yr holl opsiynau’n cael eu hystyried yn briodol, y cynhelir asesiadau risg ar yr opsiynau a’n bod ni’n deall yr effeithiau’n llawn cyn cyhoeddi modelau ariannu penodol.
Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod yn gwybod mai fy swyddogaeth i yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n gweithio o fewn ei phwerau cyfansoddiadol, ond hefyd sicrhau ein bod ni'n gallu gweithio i'r eithaf pellaf o'n pwerau datganoledig, a hefyd yn ymchwilio am bob cyfle i sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei ddiwygio mewn ffordd sydd yn gweithredu er budd pobl Cymru. Mae'r Gweinidog dros yr amgylchedd wedi...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gweithio’n agos gyda lluoedd yr heddlu, gyda Llywodraeth y DU, y llywodraethau datganoledig eraill a rhanddeiliaid i ystyried beth yw’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r mater difrifol hwn o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw ac atal effeithiau dinistriol hyn.
Jeremy Miles: Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn atodol yna. Drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, mae'n sicr yn wir bod Llywodraeth y DU yn ceisio cyflawni mewn meysydd datganoledig heb unrhyw fewnbwn gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau, a heb unrhyw ymgysylltu â rhanddeiliaid nac ymgynghori â'r cyhoedd. Ac yn ymarferol, byddai hynny'n golygu bod Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ar...
Jeremy Miles: Mae'r goblygiadau'n glir: mae hon yn ymgais i fynd â phethau'n ôl i ddegawdau yn ôl, pan oedd San Steffan yn gwybod orau. Nid sarhad ar bobl Cymru yn unig yw anwybyddu sefydliadau etholedig Cymru, a bydd yn amlwg yn arwain at ganlyniadau gwaeth i Gymru hefyd.
Jeremy Miles: Diolch i Vikki Howells am godi'r cwestiwn gwirioneddol bwysig hwn. Rydym yn rhannu awydd i sicrhau y gall y lleoliadau gwaith hyn ddigwydd mewn ffordd syml iawn sy'n cefnogi eu cyflawniad. Mae ColegauCymru yn gywir i ddweud bod natur y cytundeb masnach a chydweithredu yn golygu bod darparwyr addysg a hyfforddiant yn ymdrin, yn amlwg, â threfniadau fisa a mewnfudo newydd a goblygiadau hynny o...
Jeremy Miles: Yn ogystal â thrafodaethau rheolaidd ar faterion mewnfudo ac Erasmus+ yn is-bwyllgor y Cabinet, yn ddiweddar ysgrifennais at y Gweinidog mewnfudo gan dynnu sylw penodol at effaith y rheolau newydd ar ddysgwyr galwedigaethol o'r UE ar leoliadau gwaith yn y DU fel rhan o raglen Erasmus+.
Jeremy Miles: Rŷn ni wedi bod yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun pum pwynt sydd wedi ffocysu ar y gallu i gymryd camau penodol i geisio ateb rhai o'r problemau hynny y mae'r cludwyr wedi bod yn eu disgrifio wrthym ni i gyd. Rŷn ni'n gobeithio gallu cyhoeddi'r cynllun hwnnw ar y cyd cyn diwedd y mis, felly gobeithio y bydd camau ymlaen yn digwydd yn sgil hynny. Fel y mae'r cwestiwn...
Jeremy Miles: Mae colli cludiant llwythi o'r llwybr rhwng Caergybi a Dulyn i borthladdoedd yng Ngogledd Iwerddon ac i lwybrau hirach ond mwy uniongyrchol o Iwerddon i gyfandir Ewrop yn peri pryder i ni. Canlyniad y cytundeb masnach a chydweithredu yw hwn, ac rŷn ni'n pwyso ar Lywodraeth Iwerddon a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio lleihau'r problemau y mae cludwyr yn eu hwynebu.
Jeremy Miles: Wel, yn sicr, rwy’n rhannu uchelgais unrhyw un sy’n dymuno gweld myfyrwyr o Gymru yn gallu manteisio i'r eithaf ar y mathau o gyfleoedd rhyngwladol a oedd ar gael iddynt o dan Erasmus ac a fyddai ar gael ar sail ehangach fyth o dan y cynllun a fydd yn cymryd ei le. Credaf ei fod yn rhan bwysig iawn o'n diwylliant ac yn rhan bwysig iawn o'n safbwynt rhyngwladol, os caf ddweud. Ond credaf...
Jeremy Miles: Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector addysg. Maent wedi nodi'n glir eu pryderon ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chymryd rhan yn Erasmus+ a diffygion Cynllun Turing fel rhywbeth i gymryd ei le, a'r niwed y bydd hyn yn ei wneud i allu pobl Cymru i astudio dramor.
Jeremy Miles: Wel, Lywydd, diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol hwnnw ac rwy’n cydnabod yr holl waith y mae'n ei wneud i gefnogi'r sector cerddoriaeth a'r sector cerddoriaeth fyw yn enwedig, sydd mor bwysig, yn amlwg, yn ei hetholaeth hi, ond i Gymru yn gyffredinol. Rydym ni fel Llywodraeth yn llwyr gydnabod pwysigrwydd cerddorion a'r diwydiannau creadigol ehangach i Gymru, ac mae effeithiau...
Jeremy Miles: Ni ddylid diystyru’r problemau sy'n wynebu cerddorion a pherfformwyr fel problemau cychwynnol; maent yn ganlyniad i’r cytundeb masnach a chydweithredu a negodwyd gan Lywodraeth y DU. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cymru Greadigol a grwpiau rhanddeiliaid eraill i ddeall yr effeithiau’n iawn ac i ymateb iddynt.
Jeremy Miles: A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiwn pwysig iawn? Credaf ei fod yn nodi mater pwysig iawn ac yn gosod y cyfeiriad teithio cywir yn ei gwestiwn. Drwy'r strategaeth ryngwladol y soniais amdani gynnau, rydym wedi dweud yn glir iawn mai'r hyn rydym yn ei geisio yw buddsoddiad sy'n ychwanegu gwerth, os mynnwch, i economi Cymru, yn y ffordd y soniodd Gweinidog yr economi amdani yn ei...