David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai newydd yng Nghymru?
David Melding: Fel y clywsom, maent yn symud tuag at system gymysg—mwy o ymyrraeth y wladwriaeth, ond heb hepgor y sector preifat. Rwy'n hapus i edrych ar y modelau sy'n gweithio, ac fel Tori empiraidd, ni allaf weld bod unrhyw bolisi arall yn briodol heblaw ei fod wedi'i weld yn gweithio'n ymarferol. Fel y dywedais, rwyf o blaid diwygio a chredaf fod hynny'n dangos nad yw'r model presennol a...
David Melding: Credaf mai'r cwestiwn go iawn yw graddau'r hyn y mae Plaid Cymru yn galw amdano: beth y byddai'n ei olygu? A sylwais yn eich cynhadledd wanwyn fod Adam Price ychydig yn fwy gonest, yn galw am Gymru gysylltiedig, a chreu grid ynni cenedlaethol gyda chwmni ynni cenedlaethol i gysylltu cwmnïau cynhyrchu trydan sy'n eiddo lleol ym mhob rhan o Gymru. Nawr, ymddengys i mi y byddai'r cwmni hwn...
David Melding: Rwy'n derbyn hynny, ond rwy'n meddwl y byddai canlyniadau ymarferol yr hyn rydych yn ei gynnig yn mynd yn llawer dyfnach na hynny, ac os bydd gennyf amser, fe soniaf am y rheini. Nid wyf yn siarad yn ysgafn am hyn. Mae prisiau ynni'n uchel ac maent yn anodd eu deall, ac efallai fod lle i sicrhau gwell cydweithredu rhwng y wladwriaeth a'r sector preifat. Felly, mae'n sicr fod angen diwygio...
David Melding: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon. Credaf fod Simon wedi crwydro ymhell ac yn sicr y tu hwnt i eiriad y cynnig, ond rwy'n credu ei fod wedi amlinellu'r holl faes polisi a'r heriau a'r diffygion a wêl ynddo, ac roedd yn ddiddorol iawn, a gallaf gydymdeimlo â pheth ohono. Ond a gaf fi gofnodi'n ddigamsyniol, fel y gwneuthum y llynedd pan gawsom ddadl ar yr union fater...
David Melding: Nid cyhoeddi strategaeth ar gyfer dinasoedd yn unig a wnaethom; mae'n bwysig iawn ein bod yn pwysleisio ardaloedd trefol a gallwch edrych ar ardal Cymoedd de Cymru fel ardal sydd, o bosibl, yn ardal drefol fwy cydgysylltiedig. Os edrychwch ar Abertawe ac ymestyn ar draws i Lanelli a thu hwnt, mae'n bwysig iawn. Rwy'n derbyn bod yna berygl y gallwch sugno gormod i graidd y dinas-ranbarthau...
David Melding: Gwnaf.
David Melding: Wel, mae angen iddi fod yn ganolog i'r weledigaeth honno, ac rwy'n sicr yn credu bod y cwmpas mwy y mae'n ei gynnig ar gyfer cynllunio a datblygu rhanbarthol yn bwysig iawn. Ond mae ein gweledigaeth ni, fel y dywedwch, wedi'i nodi yn y papur hwnnw, ac rydym yn credu ei bod yn hollol gydnaws â'r cydweithrediad rydym yn ei weld rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Ond i dynnu sylw at y...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Yn wir, rwy'n falch iawn o wneud y cynnig ac agor y ddadl hon y prynhawn yma. Am y tro cyntaf mewn hanes, mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn byw mewn cymunedau trefol. Yn 2010, cyfrifwyd bod tua 66 y cant o boblogaeth Cymru yn byw yn ei hardaloedd trefol ac mae'r ganran hon wedi parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn. Ni ddylai hyn fod yn syndod i'r un ohonom mewn...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, sylwaf o adroddiad blynyddol diwethaf Canolfan Cydweithredol Cymru eu bod wedi helpu i ddatblygu pedwar cynllun tai cydweithredol, ac mewn gwirionedd, credaf fod hwn yn sector sydd angen ei ddatblygu ymhellach. Nawr, gwyddom fod cyd-berchenogaeth yn arwain at arloesedd, ac mae 70 y cant o dwf economaidd hirdymor y DU yn seiliedig ar arloesedd, a chredaf y byddai'r...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, efallai yr hoffech ymuno â mi i longyfarch is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin Riordan, a lansiodd eu strategaeth gynaliadwyedd heddiw a'r modd y maent am gynorthwyo staff y brifysgol a'r myfyrwyr i feicio rhwng cyfleusterau—ac fe feiciodd ef at y morglawdd, lle y lansiwyd polisi hwn ganddynt—a dyna sydd ei angen. Hefyd, mae angen i bobl allu beicio o gwmpas a...
David Melding: 8. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y mae cwmnïau cydweithredol yn ei chael ar economi Cymru? OAQ52279
David Melding: A gaf i ddechrau drwy ganmol y Gweinidog am ymagwedd ofalus ac ystyriol tuag at ddatblygu polisi cyhoeddus yn y maes hwn? Mae'n faes cymhleth, fel yr ydych chi wedi awgrymu. Yn amlwg, mae angen model busnes cryf arnom ar gyfer perchnogion cartrefi mewn parciau. Ar eu gorau, mae cartrefi mewn parciau a pherchnogion cartrefi mewn parciau yn creu amgylchedd dymunol i fyw ynddo. Er mwyn buddsoddi...
David Melding: Prif Weinidog, a gaf i groesawu'r ffaith y bydd sir Fynwy yn cael ei dewis fel gwely prawf ar gyfer 5G? Rwy'n credu bod y goblygiadau ar gyfer cysylltedd gwledig yn rhagorol, ac mae'r cyhoeddiad hwn yn enghraifft eglur o Lywodraeth y DU yn cyflawni o ran strategaeth ddigidol i Gymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut yr ydych chi'n mynd i gydweithredu â hi. Rydym ni wedi clywed am yr ystod...
David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ar gyfer teithio llesol yng Nghymru?
David Melding: Wel, fy nealltwriaeth i yw bod yr ymgyrchwyr wedi cydnabod ei fod wedi'i drosglwyddo i'r ymgyrchwyr. Nawr—fel y dywedais, rwy'n deall y problemau. Gwn fod yr amser bellach yn rhuthro yn ei flaen a rhaid imi wneud rhai pwyntiau hanfodol, oherwydd cafwyd trafodaeth am y fethodoleg. Nid wyf yn wyddonydd niwclear—nid wyf yn wyddonydd o unrhyw fath, oni bai eich bod yn cyfrif...
David Melding: Wel, fy nealltwriaeth i o'r dystiolaeth yw y gallai'r fethodoleg honno a dderbynnir yn rhyngwladol fod wedi canfod yr angen i edrych yn benodol am yr halogion eraill y cyfeirioch chi atynt. Ac rydych wedi dweud hynny ar goedd, a mater i eraill yn awr yw tynnu sylw at dystiolaeth os yw'n bodoli. A gaf fi ddweud ein bod eisoes wedi clywed bod y data ar gael i'r ymgyrchwyr? Nawr, rwy'n...
David Melding: Un eiliad. Ond ni ellir herio tryloywder sylfaenol rhannu'r wybodaeth. Unwaith eto, credaf y dylem wneud rhywbeth i sicrhau y gellir ei ddehongli wedyn gan amrywiaeth mor eang o bobl ag sy'n awyddus i edrych ar y mater, ond nid yw'n weithdrefn gaeedig. Gwn fod gennych ddiddordeb mawr iawn yn y mater hwn ac y byddwch yn gwneud eich cyfraniad eich hun, ond os ydych am ymyrryd eto, dyma'r tro...
David Melding: Un eiliad. Rwy'n credu bod gennym broblem ynglŷn â dealltwriaeth y cyhoedd o'r materion hyn a'r ymgysylltiad â'r cyhoedd, ac rwyf am roi sylw i hynny. Ond os ydym yn mynd i sathru ar draws safonau gwyddonol sefydledig a dderbynnir yn rhyngwladol, fel y cânt eu harfer gan wladwriaethau ledled y byd, yna rydym mewn sefyllfa anodd iawn, ac rwy'n annog yr Aelodau i gofio hynny. Fe ildiaf,...
David Melding: Hoffwn ddiolch i David Rowlands a'i Bwyllgor Deisebau am eu diwydrwydd yn eu gwaith ac am gynhyrchu'r adroddiad hwn? Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Tim Deere-Jones a aeth i'r drafferth i fy nghyfarfod a darparu gwybodaeth i mi ynglŷn â'r ymgyrch. Fel Mike, rwy'n aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac wrth gwrs, rydym wedi trafod y materion hyn...