Alun Davies: Rwyf wedi dweud mewn ymateb i'r cwestiwn cynharach nad yw'r materion hyn yn faterion datganoledig, ond mae'r rhain yn amlwg yn faterion y mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr ynddynt. Rydym yn sicrhau, fel y dywedais eisoes, fod gennym ryddhad ardrethi busnes a chymorth busnes i alluogi busnesau bach i gael cymorth Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd....
Alun Davies: Rydw i’n ymwybodol bod yr Aelod wedi ysgrifennu ataf i ar y mater yma ac rydw i wedi ymateb ar hynny. Mae’n bosibl, wrth gwrs, i swyddfeydd post elwa o business rate relief ac rydw i’n gobeithio y bydd swyddfeydd post yn ceisio am hynny ac yn sicrhau eu bod nhw’n cael hynny. Ar ben hynny, mae £1.3 miliwn wedi cael ei roi i awdurdodau lleol ar gyfer eu defnydd nhw os ydyn nhw’n...
Alun Davies: Nid yw materion yn ymwneud â’r Swyddfa Bost wedi’u datganoli, fel y gwyddoch. Er hynny, rwy’n ymwybodol iawn o’r gwasanaethau gwerthfawr iawn mae swyddfeydd post yn aml yn eu darparu yn ein cymunedau lleol. Mae eu swyddogaeth nhw yn arbennig o bwysig wrth i gynifer o ganghennau banciau gau ar draws Cymru.
Alun Davies: Lywydd, rydym yn hapus iawn i ystyried y ddau awgrym. Buaswn yn edrych ar bleidleisio electronig, pleidleisio ar ddiwrnodau gwahanol, megis dros y penwythnos, gorsafoedd pleidleisio symudol, pleidleisio electronig, a chyfrif electronig yn ogystal. Mae'r pwynt y mae'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe wedi'i wneud am ddiogelwch y bleidlais yn un da ac rwy'n ei dderbyn. Rydym yn gweithio'n agos...
Alun Davies: Lywydd, mae'r Aelod Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi ateb y cwestiwn o'i sedd mor gynhwysfawr ag y gallwn i o'r fan hon. Rydych chi, wrth gwrs, yn cymharu canran o'r pleidleiswyr ni waeth beth yw nifer y pleidleiswyr yn yr etholiad hwnnw'n digwydd bod. Felly, mae'n parhau i fod yn hollol ac yn gwbl gymaradwy. Ni wn a yw fy ffrind da o ran arall o sir Fynwy yn ceisio dadlau...
Alun Davies: Mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, bwrdd cydlynu etholiadol Cymru, bwrdd y rhaglen diwygio etholiadol, a hefyd yn cynnal gweithdai ledled Cymru gydag awdurdodau lleol i drafod y materion hyn a newidiadau etholiadol eraill.
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gynnig gohebu ar y mater hwn. Ymddengys i mi fod honno'n ffordd well o ymdrin â materion cyflogaeth na'u codi yn y Siambr.
Alun Davies: Dylech fod wedi dweud hynny felly.
Alun Davies: Lywydd, nid wyf yn siŵr ble i ddechrau. Mae'r canlyniad yn sir Drefaldwyn y llynedd yn amlwg wedi poeni fy nghyfaill o'r rhan honno o'r byd. Rwyf am ddweud wrtho'n garedig iawn fod arnaf ofn fod y Prif Weinidog wedi deall y cwestiwn roedd yn ei ofyn ddoe yn iawn, ac mae arnaf ofn fy mod am ailadrodd ymateb y Prif Weinidog y prynhawn yma.
Alun Davies: Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod nad oes unrhyw ran o lywodraeth leol wedi awgrymu'r materion hynny i mi, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â hi. Fel hithau, cytunaf â system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a dyna yw fy hoff system innau hefyd. Rwy'n tybio y bydd y ddau ohonom yn dadlau dros y datganiad hwnnw yn ystod ymgynghoriad Plaid Lafur Cymru dros y misoedd nesaf....
Alun Davies: Yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd, gwneuthum ddatganiad llafar ar y materion hyn ym mis Ionawr. Byddaf yn cynnwys darpariaethau diwygio etholiadol o fewn Bil llywodraeth leol rydym yn ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf. Byddaf yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol ac eraill er mwyn cynyddu gwybodaeth y cyhoedd am y diwygiadau a gynlluniwyd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.
Alun Davies: A gaf fi ddweud fy mod yn cydnabod yr anawsterau y mae'r Aelod yn eu disgrifio? A chredaf fod yna broblemau lle mae gennym setliad sy'n aneglur ac wedi torri, ac rwyf wedi gwneud yr achos hwnnw ar sawl achlysur. Nid yw'r ffordd y caiff plismona yn arbennig, a'r gwasanaethau cosbi eu darparu ar hyn o bryd yn rhoi'r ateb gorau i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau, fel y mae'n disgrifio, i...
Alun Davies: Rwyf am ddweud yn garedig iawn wrth yr Aelod: nid y Llywodraeth sydd wedi drysu ar y mater hwn. Serch hynny, mae'r materion a ddisgrifiwyd yn amlwg yn bwysig ac yn effeithio ar nifer fawr o bobl. Rwyf wedi cyfarfod â llywodraethwyr carchardai yng Nghymru i drafod rhai o'r materion y mae'n eu codi o ran effaith camddefnyddio sylweddau ar y rhai sy'n cael eu cadw mewn sefydliadau diogel yng...
Alun Davies: Nid ydych wedi clywed yr ateb eto. [Chwerthin.] Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar y mater hwn. Rwyf wedi cyfarfod â swyddogion sy'n ymdrin â throseddau difrifol a chyfundrefnol yng Nghymru i drafod y materion a nododd. Maent yn faterion difrifol iawn, wrth gwrs, sy'n effeithio ar bob un o'n lluoedd ar draws y...
Alun Davies: A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod wedi gweld rhai o'r adroddiadau hyn fy hun, ac nad yw fy nghasgliad yn annhebyg i'ch un chi? Credaf ei bod yn ofnadwy fod pobl yn yr oes sydd ohoni yn gorfod gwneud y pethau hyn er mwyn cynnal eu hunain. Credaf y bydd pawb yn cytuno â'ch casgliadau ar hynny ac yn awyddus i gytuno â chi o ran eich ymagwedd tuag at hynny. Darllenais yr un adroddiad â chi...
Alun Davies: A gaf fi ddweud wrth ateb y cwestiwn, Lywydd, os oes gan Aelodau unrhyw faterion penodol ynghylch ffrydiau ariannu penodol a grwpiau penodol yn eu hetholaethau neu eu rhanbarthau, rydym bob amser yn fwy na pharod i fynd i'r afael â'r problemau arbennig hynny a'r materion penodol hynny, ni a'r awdurdodau lleol perthnasol? O ran y grant integredig newydd, rwy'n dweud wrth yr Aelod y bydd yn...
Alun Davies: Mae awdurdodau lleol yn cynnig ystod o gynlluniau grant i ddarparu cymorth a gwasanaethau yn lleol.
Alun Davies: Responsibility for effective delivery of services rests with local authorities. Local authorities must consider how they can best use their resources and work with others to deliver longer term efficiencies so that they can continue to deliver services to their citizens.
Alun Davies: The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 requires public bodies to think and act differently, putting collaboration at the heart of how they work. This includes, but extends far beyond, their work on public services boards.
Alun Davies: I will be making a statement on the future of local government on 17 July.