Canlyniadau 941–960 o 2000 ar gyfer speaker:Russell George

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Tyfu Economi Canolbarth Cymru (10 Ion 2018)

Russell George: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i dyfu economi canolbarth Cymru? OAQ51513

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 9 Ion 2018)

Russell George: Wel, diolch ichi, Llywydd—ie, yn wir. Mae'n debyg bod arweinydd y Tŷ wedi dyfalu yr hyn yr hoffwn i holi yn ei gylch yn fy natganiad llafar, a hynny yn wir yw band eang, wrth gwrs, gan ein bod eisoes wedi gweld diwedd y prosiect band eang ffeibr Cyflymu Cymru. Rydych chi wedi gwneud ymrwymiad, rwy'n falch o glywed, i gyflwyno datganiad llafar, ond gwnaethoch sôn y bydd hi'n 16 wythnos nes...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ailgylchu Plastig ( 9 Ion 2018)

Russell George: Rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol y bydd penderfyniad Tsieina yn her fawr i ni o ran ailgylchu yma yng Nghymru, o ran plastigau. Trwy gomisiynu gwaith technolegau ailgylchu, a fyddai'n troi plastigau diwedd oes yn olew ysgafn, yn gwyr neu'n olew tanwydd trwm sylffwr isel, gallem greu adnodd delfrydol yma ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau diwydiant, a gallai hwn, wrth gwrs, fod yn...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (13 Rha 2017)

Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd dyraniad y gyllideb ar gyfer CAMHS yn cael ei glustnodi?

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (13 Rha 2017)

Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant gwella addysg i ysgolion?

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Cysylltu Cymru, agwedd strategol tuag at Drafnidiaeth (12 Rha 2017)

Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i roi croeso cyffredinol i ddiweddaru strategaeth trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru? Rwy’n meddwl ei bod yn briodol i ddiweddaru’r strategaeth er mwyn ystyried pwerau newydd a deddfwriaeth ddiweddar. Rwyf hefyd yn cytuno bod seilwaith trafnidiaeth di-dor yn allweddol i dwf economaidd. Wrth gwrs, ers blynyddoedd rydym ni wedi clywed...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd (12 Rha 2017)

Russell George: Diolch, Dirprwy Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn falch eich bod wedi lansio eich cynllun gweithredu economaidd o'r diwedd. Byddwn i'n dweud bod y cynllun wedi cyrraedd 19 mis ar ôl etholiadau'r Cynulliad yn 2016, pryd, wrth gwrs, y gwnaethoch chi ddatgan mai'r economi fyddai prif flaenoriaeth eich Llywodraeth. Dim ond y bore yma y derbyniodd Aelodau'r Cynulliad y ddogfen hon, ond fe...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru (12 Rha 2017)

Russell George: Prif Weinidog, rwyf i wedi derbyn nifer fawr o gwynion gan deithwyr rheolaidd ar reilffordd y Cambrian a weithredir gan Drenau Arriva Cymru. Bu nifer fawr o achosion o ganslo neu ganslo rhannol heb ddarparu unrhyw wasanaeth bws amgen, gan adael teithwyr mewn twll llwyr. Mae'r canslo yn aml yn digwydd funudau cyn bod y trên i fod i adael, sydd, wrth gwrs, yn ei gwneud bron yn amhosibl i...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru (12 Rha 2017)

Russell George: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51454

4. Cwestiynau Amserol: Banc Cyhoeddus ( 6 Rha 2017)

Russell George: A gaf fi gytuno gyda'r cyfraniad gan Mick Antoniw? Buaswn yn dweud nad oes unrhyw Aelod yn y Siambr hon wedi llwyddo i newid meddwl banc pan fyddant wedi gwneud eu penderfyniad. Rwyf wedi siarad yn y Siambr yn flaenorol am y syniad y gallai'r Llywodraeth hwyluso trafodaethau rhwng y banc a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a phartneriaid eraill i archwilio model bancio cymunedol a...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio): Brexit ( 6 Rha 2017)

Russell George: A all arweinydd y tŷ roi gwybod i mi a fu trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â thrwyddedau gwaith tymhorol yn dilyn Brexit, ac wrth gwrs, wrth edrych ar drefniadau yn y dyfodol?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Palmer a Harvey ( 5 Rha 2017)

Russell George: Prif Weinidog, aeth 10,000 o gwmnïau i'r wal yng Nghymru y llynedd. Dim ond 43 y cant yw nifer y cwmnïau sydd dal mewn busnes ar ôl pum mlynedd, sy'n is na chyfartaledd y DU. Nawr, yn ddealladwy, bydd rhai cwmnïau yn mynd i'r wal oherwydd newidiadau yn y farchnad ac am resymau eraill, ond a gaf i ofyn beth yw eich esboniad chi o pam mae busnesau yn fwy tebygol o fynd i'r wal yng Nghymru,...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Inswleiddio waliau ceudod (29 Tach 2017)

Russell George: Rwyf innau hefyd yn falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Diolch i Mick Antoniw ac eraill—Aelodau eraill—am gyflwyno hyn. Mae'n galonogol, i raddau, fod Aelodau eraill yn profi, neu ag etholwyr sydd wedi dioddef yr un problemau â fy etholwr i; nid wyf yn teimlo ar fy mhen fy hun. Rwy'n credu bod Dawn Bowden wedi cyfeirio at hynny yn ogystal. Yn fy nghyfraniad, hoffwn dynnu sylw at...

3. Cwestiynau Amserol: Deuoli'r A465 (29 Tach 2017)

Russell George: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Rydym wedi clywed gan fusnesau, wrth gwrs, a fydd yn wynebu anawsterau ariannol oherwydd oedi. Mae yna rwystredigaethau ac anghyfleustra amlwg i breswylwyr. A gaf fi ofyn: pryd y daethoch yn ymwybodol y buasai'r prosiect yn debygol o wynebu gorwariant? Pa ddarpariaethau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i dalu am orwariant posibl y cynllun? Hefyd,...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Dileu TB Buchol (29 Tach 2017)

Russell George: Yn sicr, croesawaf y cynllun newydd i fynd i'r afael â TB buchol. Credaf fod pob un ohonom yn awyddus i weld y clefyd creulon hwn yn cael ei ddileu mewn bywyd gwyllt ac mewn gwartheg. Fy mhryder i yw na ddylid rhoi pwysau ychwanegol ar ffermwyr sydd, ers llawer gormod o amser, wedi dioddef o ganlyniad i effeithiau TB buchol. Nawr, rydych eisoes wedi ateb cwestiynau ac wedi sôn am y...

3. Cwestiynau Amserol: Deuoli'r A465 (29 Tach 2017)

Russell George: 1. O ystyried y cyhoeddwyd gorwariant o 23 y cant ar y prosiect i ddeuoli'r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau o ble y daw'r adnoddau ychwanegol i gyllido hyn? 73

5. Dadl: Entrepreneuriaeth: Pwrpas Cenedlaethol (28 Tach 2017)

Russell George: Wrth i Ddydd Sadwrn y Busnesau Bychain agosáu, rwyf i a'm cyd-Aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ddadl ar entrepreneuriaeth yng Nghymru, ac yn rhoi croeso gwresog iawn i'r egwyddorion sy'n sail i gynnig y Llywodraeth. Rwy'n cytuno bod rhyddhau entrepreneuriaeth yn hanfodol er mwyn creu economi gref a llewyrchus. Cytunaf hefyd bod gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth allweddol o ran...

5. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Seilwaith Digidol Cymru' (22 Tach 2017)

Russell George: Ac roedd pawb yn dal i wrando ac nid oeddem eisiau ei dawelu. Nid oedd gan neb ddiddordeb mewn tawelu Mr Taylor am ei fod yn ysbrydoliaeth, ac roedd ei stori'n wych. Roedd yn ysbrydoliaeth, ac rwy'n credu, fel pwyllgor, ein bod yn credu bod angen Mr Taylor ar bob cymunedol. [Torri ar draws.] A glywsoch chi Mr Taylor? [Chwerthin.] Rhaid i mi ddweud fy mod yn gwyntyllu fy rhwystredigaethau...

5. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Seilwaith Digidol Cymru' (22 Tach 2017)

Russell George: Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon y prynhawn yma. Carwn wneud sylw ar bob un o bosibl. Nawr, nododd Adam Price yn hollol gywir y gwahaniaeth rhwng cysylltedd yng nghefn gwlad Cymru yn benodol, a soniodd hefyd am Geredigion, sy'n bendant yn llusgo ar ôl rhannau eraill o Gymru a'r DU mewn cymhariaeth. A soniodd Adam am atebion amgen ac wrth...

5. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Seilwaith Digidol Cymru' (22 Tach 2017)

Russell George: Wel, yn sicr, rydym wedi cael cadarnhad gan BT eu bod yn credu y bydd y cytundeb yn cael ei gyflawni, yn ôl y cytundeb, a byddaf yn mynd i'r afael â rhai o'r problemau cyfathrebu rydych wedi'u nodi tuag at ddiwedd fy nghyfraniad mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr hyn y mae Simon Thomas hefyd wedi'i ddweud yn peri pryder i lawer o Aelodau eraill yn ogystal, oherwydd mae'r perygl y...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.