Canlyniadau 941–960 o 2000 ar gyfer speaker:Nick Ramsay

7. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datganiad yr Hydref ( 7 Rha 2016)

Nick Ramsay: Mae’r Aelod yn gwneud pwynt da a phwysig, ac nid wyf yn anghytuno â chi fod rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon yma, Huw. Rwy’n credu y byddai pob un ohonom yn cytuno â hynny. Rydym yn gwybod ers rhai blynyddoedd yn ôl y gall rhagolygon fod yn anghywir. Dyna yw eu natur. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ein bod, at ei gilydd, ers 2010, yn gwybod bod yna leihad wedi bod yn y diffyg....

7. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datganiad yr Hydref ( 7 Rha 2016)

Nick Ramsay: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gynnig y cynnig hwn heddiw yn nodi datganiad yr hydref Llywodraeth y DU—datganiad sy’n rhoi cynnydd sylweddol yn y cyllid cyfalaf i Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Er bod yn rhaid cyfaddef ei bod yn adeg anodd iawn yn ariannol o hyd, mae Cymru mewn sefyllfa gyllidol gryfach nag o’r blaen. Nid ein barn ni’n unig ar y meinciau hyn yw...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: <p>Anhwylderau Cysgu nad ydynt yn Ymwneud ag Anadlu</p> ( 7 Rha 2016)

Nick Ramsay: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n falch iawn fod Llyr Gruffydd wedi gofyn y cwestiwn hynod o bwysig hwn. Ceir cysylltiadau cryf rhwng anhwylderau cysgu ac iechyd meddwl, felly wrth ddelio â chyflyrau anhwylderau cysgu, rydych yn darparu mesur ataliol gwerthfawr o ran iechyd meddwl a meysydd eraill o’r gwasanaeth iechyd. Rwy’n credu eich bod newydd sôn am ganolfan gwsg Aneurin Bevan, sydd...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: <p>Datganiad yr Hydref y Canghellor</p> ( 7 Rha 2016)

Nick Ramsay: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd datganiad yr hydref yn darparu dros £400 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer prosiectau seilwaith yng Nghymru. Gwyddom fod pryderon wedi bod ynghylch cyllid ar gyfer y metro, yn enwedig yn sgil y refferendwm ar Ewrop. Pa gynlluniau sydd gennych i ddefnyddio peth o’r arian ychwanegol hwn i gefnogi’r metro, yn enwedig...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: <p>Datganiad yr Hydref y Canghellor</p> ( 7 Rha 2016)

Nick Ramsay: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith yn sgil Datganiad yr Hydref y Canghellor? OAQ(5)0083(EI)

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ( 7 Rha 2016)

Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl yn Sir Fynwy?

8. 6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18 ( 6 Rha 2016)

Nick Ramsay: Diolch. Nid wyf am ddweud wrthych chi pa bosteri oedd gennyf i ar wal fy ystafell wely yn fy arddegau, ond yn sicr nid oedden nhw’n economegwyr. Rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud, Adam, ond a ydych chi wirioneddol yn dweud nad ydych chi’n credu bod unrhyw doriadau yn angenrheidiol o gwbl? Oherwydd os ydych chi’n dweud hynny, yna mae hynny'n hollol hurt. Mae'n rhaid i...

8. 6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18 ( 6 Rha 2016)

Nick Ramsay: Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn croesawu cronfa driniaethau; rwy’n credu ei bod hi’n drueni ein bod ni ar ei hôl hi ers llawer o flynyddoedd, pan oedd ein etholwyr—ac nid dim ond fy etholwyr i; rwy'n siŵr yr oedd etholwyr yn eich ardal chi, Rhun, yn Ynys Môn hefyd yn galw am gronfa triniaethau canser. Mae'n un o’r prif bethau sy’n achosi marwolaeth yng Nghymru ac rwy’n credu...

8. 6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18 ( 6 Rha 2016)

Nick Ramsay: Mewn eiliad, gwnaf. Roedd gennyf i etholwyr a oedd ar ben eu tennyn yn ystyried symud dros y ffin o’m hetholaeth i er mwyn cael gafael ar feddyginiaeth a fyddai’n ymestyn bywyd.

8. 6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18 ( 6 Rha 2016)

Nick Ramsay: Diolch. Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ac i gynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. Nid yw’n welliant sydd union yr un fath â’r gwelliant i gyllideb ddrafft y llynedd, Ysgrifennydd y Cabinet— fe wnes i newid y flwyddyn. [Chwerthin.] Mae rhai o'r problemau yr aeth y gwelliant hwnnw i’r afael â nhw yn dal i fodoli, ond mae'n welliant diweddar. A...

4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2016)

Nick Ramsay: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Yn gyntaf oll, yn gynharach, wrth ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog, gofynnodd Gareth Bennet i'r Prif Weinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch metro de Cymru. A allwn i ailadrodd y galwadau hynny am ddiweddariad ar hynny, yn enwedig o ran y cam nesaf? Fel y gwyddoch chi o’m pryderon yn ystod y Cynulliad diwethaf, mae tref Trefynwy...

12. 8. Dadl Fer: Byw gyda Cholli'r Golwg: Sut y Gallwn Wella Hygyrchedd yng Nghymru i Bobl Ddall a Rhannol Ddall (30 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch i chi, arweinydd y tŷ, dylwn ddweud, am ildio ar hynny. Ar gyfer y cofnod, fe wnes nodi un maes lle roedd gwasanaeth iechyd Cymru ar y blaen i’r hyn a geir ar draws y ffin yn Lloegr, ond mae yna feysydd eraill hefyd lle rydym yn colli tir braidd, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ar y blaen ym mhob dim. Rwy’n siŵr eich bod yn cytuno.

12. 8. Dadl Fer: Byw gyda Cholli'r Golwg: Sut y Gallwn Wella Hygyrchedd yng Nghymru i Bobl Ddall a Rhannol Ddall (30 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch; gallwch agor eich llygaid yn awr. Y synau a glywsoch yw’r synau y mae pobl ddall a rhannol ddall yn eu clywed yn ddyddiol. Heb y gallu i weld, fel y gallwch ddychmygu, gall y synau hyn beri anesmwythdod mawr. Yn ddiweddar, euthum ar daith gerdded gyda mwgwd dros fy llygaid gyda chlwb i bobl sydd â nam ar eu golwg yn Nhrefynwy, a chefais brofiadau hynod o ddwys. Mae’r daith...

12. 8. Dadl Fer: Byw gyda Cholli'r Golwg: Sut y Gallwn Wella Hygyrchedd yng Nghymru i Bobl Ddall a Rhannol Ddall (30 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Mark Isherwood. Ceir cyflwyniad agoriadol byr go wahanol ar ddechrau’r ddadl fer hon. Felly, a gaf fi ofyn yn gyntaf i bawb ohonoch gau eich llygaid am funud neu ddwy?

9. 5. Dadl Plaid Cymru: Busnesau Bach (30 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch i chi am ildio. Rwy’n deall yr hyn rydych yn ei ddweud am broblem cymhlethdod ychwanegol, ac nid oes rhinwedd mawr mewn system syml. Ond serch hynny, mae pobl allan yno mewn busnesau yn fy etholaeth ac mewn etholaethau eraill yn poeni’n ddirfawr am hyn, felly mae angen sicrwydd arnynt. Rwy’n deall bod system yn mynd i gael ei rhoi ar waith ar gyfer rhyddhad ardrethi, ond nid yw...

9. 5. Dadl Plaid Cymru: Busnesau Bach (30 Tach 2016)

Nick Ramsay: Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am ildio ar hynny. Fe wnes i ddweud yn fy nghyfraniad fod gostyngiad, ar gyfartaledd, yn yr ardrethi ar draws Cymru. Felly, fe wnes i gydnabod hynny. Fy mhwynt oedd bod y busnesau yn y rhannau hynny o Gymru yr effeithiwyd arnynt wedi cael eu heffeithio’n arbennig o wael. Rwy’n credu mai bod yn hunanfodlon fyddai peidio â chydnabod hynny a rhoi mesurau...

9. 5. Dadl Plaid Cymru: Busnesau Bach (30 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon ac i gynnig gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn enw Paul Davies. Fel y mae ein gwelliannau yn nodi, Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o siopau gwag ar y stryd fawr yn y DU, ac mae nifer yr ymwelwyr wedi gostwng 1.4 y cant, o’i gymharu â Hydref 2015. Iawn, un o nifer o ystadegau, ond ystadegyn pwysig serch hynny. Rwy’n credu ein bod...

7. 3. Datganiad: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) (29 Tach 2016)

Nick Ramsay: A gaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw? Efallai nad yw’r dreth dirlenwi yn destun sgwrs mewn tafarndai a chlybiau ledled Cymru, ond mae'n dreth bwysig, a gall fod yn arf pwysig i Lywodraeth Cymru i roi polisi amgylcheddol ar waith yng Nghymru. Byddaf yn cyfrannu at waith craffu’r Pwyllgor Cyllid ar y dreth tirlenwi, felly rwyf am gadw fy sylwadau a fy nghwestiynau yn fyr...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: <p>Cyllid Ychwanegol i Gymru</p> (29 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch. Brif Weinidog, bydd datganiad yr hydref yn darparu dros £400 miliwn dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer seilwaith—newyddion da. A wnewch chi sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa ar yr arian ychwanegol hwn, gan gynnwys ardaloedd gwledig fel Sir Fynwy, fy etholaeth i, sy'n derbyn un o'r setliadau llywodraeth leol isaf ond a fyddai wir yn elwa ar fuddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: <p>Cyllid Ychwanegol i Gymru</p> (29 Tach 2016)

Nick Ramsay: 7. Sut y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu defnyddio cyllid ychwanegol i Gymru sy'n deillio o Ddatganiad yr Hydref? OAQ(5)0296(FM)


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.