Jeremy Miles: Fe geisiaf gysylltu fy ymateb â rhywfaint o'r dystiolaeth, sy'n debyg o fod yn ffordd ddefnyddiol o edrych ar hyn yn fy marn i. Y gwir amdani yw y bu dirywiad sylweddol mewn mewnfuddsoddiad yn dilyn refferendwm 2016. Drwy ymdrechion da llawer iawn o bobl, rwy'n falch o ddweud y bu cynnydd o'r lefel is honno y llynedd, felly mae hynny'n gadarnhaol ac rydym yn croesawu hynny'n llwyr. Ond mae'n...
Jeremy Miles: Mae’r cytundeb masnach a chydweithredu wedi mynd i’r afael â rhywfaint o’r ansicrwydd sydd wedi atal buddsoddiad ers y refferendwm yn 2016. Ond nid yw Cymru a’r DU bellach yn cynnig mynediad di-rwystr at farchnad sengl o 450 miliwn o bobl, a gallai hynny amharu, i ryw raddau, ar fewnfuddsoddiad o dramor.
Jeremy Miles: Rwy'n cytuno'n llwyr na ddylid diystyru'r rhain fel problemau cychwynnol. Maent yn broblemau i'w hystyried o ddifrif, ac rydym yn gwneud hynny fel Llywodraeth oherwydd y rhesymau y mae'r Aelod yn eu hamlinellu yn ei gwestiwn. Rydym yn glir iawn fod y bont dir rhwng Iwerddon a thir mawr Ewrop yn bwysig iawn i ni yn strategol, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i ddatrys hyn. Fel y gŵyr yr...
Jeremy Miles: Fel y soniais yn gynharach, rydym wedi mynegi gweledigaeth wahanol iawn ar gyfer sut y dylai cyllid rhanbarthol weithio yng Nghymru, ac mae honno'n ddadl rydym yn parhau i'w gwneud. Credwn fod honno'n ffordd lawer mwy rhesymegol o gefnogi economi Cymru ar lefel Cymru gyfan ond rhanbarthau Cymru hefyd, a datganoli'r broses o wneud penderfyniadau mewn ffordd gynhyrchiol a mwy effeithiol. Bydd...
Jeremy Miles: Rwy'n cytuno â Dai Lloyd, o ran maint y cyllid a'r ffaith nad yw wedi'i neilltuo i Gymru, fod y syniad mai cronfa codi'r gwastad yw hon yn ddisgrifiad anghywir. Mae ffordd well o wneud hyn. Mae arian sylweddol ar gael yn amlwg, ond mae yna ffordd o'i wneud sy'n adlewyrchu anghenion busnesau a chymunedau yng Nghymru mewn gwirionedd ac fel y dywedais yn gynharach wrth ateb cwestiynau...
Jeremy Miles: Nid wyf yn siŵr fy mod yn cydnabod bydolwg yr Aelod, lle dylai pobl Cymru fod yn ddiolchgar am gael buddsoddiad o'u trethi eu hunain yng Nghymru, ond mae'n debyg ei bod hi'n fydolwg. Mae'n well gennyf fi sicrhau bod dau beth yn digwydd. Yn gyntaf, ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli, fod Llywodraeth y DU yn rhoi'r gorau i wneud cam â Chymru, felly boed yn seilwaith ynni neu seilwaith...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n falch ei bod wedi aros gyda thema porthladdoedd. Ni ddeallais o'i rhesymeg pam ei bod yn credu y byddai'n briodol i borthladdoedd Cymru gael eu hariannu ar gyfradd is na phorthladdoedd mewn rhannau eraill o'r DU, felly rwyf am ofyn iddi fy helpu gyda hynny pan fydd yn gofyn ei chwestiwn nesaf. Rwy'n credu ei fod yn rhan bwysig o sefyll dros borthladdoedd Cymru. O ran allforion...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am nodi anghenion porthladdoedd, a'r economïau sy'n agos at borthladdoedd, fel rhai sydd angen cymorth penodol o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n sicr yn wir, ac yn sicr ddigon, ein dull gweithredu fel Llywodraeth yw'r un a ddisgrifiodd yn ei chwestiwn, sef gweithio gyda phorthladdoedd, awdurdodau porthladdoedd, cludwyr a...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am roi cyfle arall imi ddisgrifio diffygion y gronfa, ond mae'n disgrifio parhad ymgysylltiad fel pe bai ymgysylltu o sylwedd wedi bod. Holl bwynt y broses hon yw na fu unrhyw ymgysylltiad o'r fath. A phan ofynnwch—. Pan fo'r Aelod yn gofyn imi beth a wnawn gyda llywodraeth leol yng Nghymru, byddwn yn parhau â'r gwaith partneriaeth cydweithredol sydd wedi arwain at...
Jeremy Miles: A gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn hwnnw? Fe fydd yn cofio, wrth gwrs, fel finnau, pan ddigwyddodd yr adolygiad o wariant ym mis Tachwedd, fod swm canlyniadol Barnett wedi'i addo i Gymru mewn perthynas â'r gronfa codi'r gwastad, fel y gellid ei gweinyddu yn y ffordd y mae hi'n ei disgrifio, yn unol ag atebolrwydd democrataidd Llywodraeth Cymru i'r Senedd hon. Nid dyna sydd...
Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod yn iawn. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn mynd ati'n fwriadol i danseilio'r math o ddull cynlluniedig, strategol, wedi'i gyd-ddatblygu o weithredu datblygu rhanbarthol a ffafriwyd gennym yma yng Nghymru o blaid disgresiwn gwleidyddol i bob pwrpas. Ac rydym wedi gweld effaith hynny yng nghronfa'r trefi yn Lloegr, sydd wedi cael ei beirniadu'n llym am amrywiaeth o...
Jeremy Miles: Llywydd, dwi'n deall eich bod chi wedi rhoi'ch caniatâd i gyfuno cwestiynau 2 ac 8.
Jeremy Miles: Nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi unrhyw fanylion o hyd am y gronfa ffyniant gyffredin, bedair blynedd ar ôl ei chrybwyll am y tro cyntaf. Ond yr hyn sy'n amlwg yw ei bod yn bwriadu anwybyddu datganoli, yn ogystal ag anwybyddu gwaith caled rhanddeiliaid ledled Cymru yn creu ein fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol.
Jeremy Miles: Lywydd, hoffwn ddweud fy mod wedi gweld yr arolwg yn cael ei lansio ar-lein gan Dawn Bowden yn gynharach heddiw. Ac rwy'n credu ei fod yn enghraifft o'r union fath o ymgysylltiad â busnesau mewn etholaethau y credaf ei fod yn hanfodol yn fy ardal i o ganlyniad i adael y cyfnod pontio. Felly, cymeradwyaf y fenter honno'n gryf iawn. Ac rwy'n cytuno â Dawn Bowden fod yr amodau i'n busnesau...
Jeremy Miles: Cyhoeddais ddadansoddiad yn ddiweddar o oblygiadau'r cytundeb masnach a chydweithredu. Mae'r berthynas newydd â'r Undeb Ewropeaidd a negodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi ein busnesau dan anfantais, yn cyfyngu ar hawliau ein dinasyddion i fyw a gweithio dramor, a gallai ei gwneud yn anos recriwtio gweithwyr ar gyfer ein gwasanaethau hanfodol, ac mae'n bygwth buddsoddiad yn ein...
Jeremy Miles: The UK Government failed to protect our seafood industry in the deal it negotiated with the EU and it is now in a critical state. We are focusing efforts on immediate support for the sector, as well as what options there are for the sector in the medium and long terms.
Jeremy Miles: We continue to work with the UK Government to ease the pressures on businesses and hauliers trading through Welsh ports. In December, we published a new export action plan setting out the support available to Welsh exporters and we regularly update our Business Wales and Preparing Wales websites.
Jeremy Miles: Byddwn ni’n gweithio’n agos gydag Awdurdod Dyroddi Unigol y DU ac mae swyddogion o Lywodraeth Cymru ar ei fwrdd lywodraethu. Mae’n rhaid i bob cais y mae’r Awdurdod Dyroddi Unigol yn ei dderbyn gan gwch neu long o aelod-wladwriaeth o’r UE i bysgota yn nyfroedd Cymru gael ei asesu a’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru cyn y gellir rhoi trwyddedau.
Jeremy Miles: Ie, yn wir. Rwy'n cefnogi'r uchelgais hwnnw. Roeddwn i wedi gobeithio erbyn hyn gallu sicrhau y byddai gwefan Cyfraith Cymru, yn ei fformat newydd, yn fyw, a hefyd wneud mwy o gynnydd o ran cyhoeddi deddfwriaeth yn ddwyieithog ar wefan legislation.gov.uk. Cafodd y ddau brosiect hynny eu gohirio i raddau yn ystod yr ymateb i COVID, os dymunwch chi. Ond rydym ni wedi gwneud cynnydd o ran...
Jeremy Miles: Mae'r Senedd wedi gweld y Llywodraeth yn datblygu ei huchelgeisiau ar gyfer mwy o gynnwys ynghylch cyfraith Cymru, gan gynnwys camau i wella nodiadau esboniadol, i ddatblygu gwefan newydd Cyfraith Cymru ac i ddechrau'r gwaith o drefnu a chyhoeddi cyfraith fesul pwnc, yn hytrach nag yn gronolegol.