Canlyniadau 941–960 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

3. Cwestiynau Amserol: Adroddiad y Fonesig Judith Hackitt (23 Mai 2018)

David Melding: A gaf fi groesawu'r ymateb cychwynnol hwnnw? Fel y gwyddoch, daeth yr adolygiad i'r casgliad fod difaterwch ac anwybodaeth wedi arwain at ras i'r gwaelod mewn perthynas ag arferion diogelwch adeiladu, gyda chostau yn cael blaenoriaeth dros ddiogelwch. Dywedwyd hefyd y dylai rheoleiddiwr safonau newydd fod yn ganolbwynt i system ddiwygiedig, ond roedd y sefyllfa mewn perthynas â defnyddio...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Salwch Anadlol (23 Mai 2018)

David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethom ni, y Ceidwadwyr Cymreig, lansio ein strategaeth drefol yr wythnos diwethaf, a rhoesom rai mesurau ar waith i wella ansawdd aer, megis y gofyniad i bob ysgol a meithrinfa fonitro ansawdd yr aer ar eu safle. Tybed pa fath o sgyrsiau rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, i ddechrau mynd i'r...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ad-drefnu Ysgolion ym Mro Morgannwg (23 Mai 2018)

David Melding: Rwyf innau'n falch hefyd fod y penderfyniad hwn yn cael ei ailystyried, a gwneuthum innau sylwadau ysgrifenedig a thrwy gyfarfod â'r uwch ffigurau yng Nghyngor Bro Morgannwg. Credaf fod rhywfaint o ddryswch wedi bod yn lleol ynglŷn â'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, a amlinellwyd gennych yn yr ymgynghoriad ar y cod trefniadaeth ysgolion diwygiedig, a phwysleisiais wrth y...

3. Cwestiynau Amserol: Adroddiad y Fonesig Judith Hackitt (23 Mai 2018)

David Melding: 2. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad terfynol ar adolygiad annibynnol y Fonesig Judith Hackitt o reoliadau adeiladu a diogelwch tân? 180

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ynni Niwclear (22 Mai 2018)

David Melding: Prif Weinidog, mae rheoli gwastraff ymbelydrol yn fater datganoledig, ac nid oes gennym ni unrhyw safle gwaredu gwastraff lefel uchel yng Nghymru ar hyn o bryd. Nawr, lansiwyd ymgynghoriad ym mis Ionawr i weld a fyddai unrhyw le yng Nghymru yn gwirfoddoli i fod yn gartref i safle gwaredu gwastraff niwclear. A ydych chi wedi cael unrhyw ymatebion ac a allwch chi hysbysu'r Siambr am unrhyw gynnydd?

11. Dadl Fer: Rhent sefydlog — pam mae angen mesurau rheoli rhent i sicrhau bod rhentwyr preifat yn cael bargen deg. (16 Mai 2018)

David Melding: Diolch i Jenny am dynnu ein sylw at y pwnc pwysig hwn y prynhawn yma. Mae gennym ymagwedd glir iawn, rwy'n credu, o ochr chwith gwleidyddiaeth ac rydych yn gwneud rhai pwyntiau diddorol a phwerus. Rwy'n cytuno â chi ar rai materion. Mewn rhai mannau, mae'r farchnad dai yn sicr yn gamweithredol a cheir nifer o resymau am hynny. Mae gennym y ffenomen hon o genhedlaeth rent, lle mae pobl a...

8. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canser y coluddyn (16 Mai 2018)

David Melding: A wnaiff yr Aelod ildio?

8. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canser y coluddyn (16 Mai 2018)

David Melding: Mae'n ddiddorol mai hanner y bobl gymwys yn unig sy'n cael eu sgrinio, ond rwyf hefyd wedi cael etholwr sydd wedi cael ei sgrinio'n rheolaidd, neu wedi gwneud y prawf sgrinio, ac yna, yn 75 oed, mae'n dod i ben, ac mewn gwirionedd mae'n achosi llawer iawn o bryder. Tybed a oes unrhyw dystiolaeth yn dod i'r amlwg fod parhau i sgrinio y tu hwnt i 75 yn fuddiol hefyd.

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil cynllunio gwefru cerbydau trydan (16 Mai 2018)

David Melding: Cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedwyd yn awr gan Lee Waters, ond diolch i Rhun am gyflwyno hyn fel cynnig deddfwriaethol, ac yn sicr, rwy'n cytuno â'r amcan cyffredinol. Nid wyf yn siŵr a oes angen cyfrwng deddfwriaethol arnom, ond mae'n dda ein bod yn trafod y materion hyn. Fel y dywedodd Lee Waters, mae angen inni gofio bod y ffordd rydym yn cynhyrchu ynni yn allweddol yma, ac mae...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cyllid ar gyfer Undebau Credyd (16 Mai 2018)

David Melding: A gaf fi ychwanegu ein cefnogaeth i'r ymdrechion i gynyddu capasiti undebau credyd? Ar hyn o bryd, yn ôl y Money Charity, rydym yn gwario £139 miliwn y dydd ar ad-daliadau a dyledion personol. Mae'n gwbl anghredadwy. Ac mae undebau credyd yn rhan allweddol, yn fy marn i, yn sicr i bobl mewn amgylchiadau ariannol anodd, ond yn fwy cyffredinol hefyd, o bosibl. Felly, mae angen ehangu rôl...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (16 Mai 2018)

David Melding: Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i lywodraeth leol wrth ddyrannu cyllid yn y gyllideb?

7. Dadl: Rôl y System Gynllunio wrth Greu Lleoedd (15 Mai 2018)

David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n falch o gynnig y gwelliannau, ac rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Dydw i ddim yn siŵr ein bod ni'n trafod cynllunio yn aml iawn, ond mae'n bwysig iawn, iawn. Er mwyn ad-dalu haelioni'r Gweinidog wrth gyflwyno hwn y prynhawn yma, hoffwn ddechrau mewn maes lle y mae yna gytundeb diamheuol, sef bod cynllunio da a datblygu lleoedd cydlynol yn hanfodol...

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Treth Tir Gwag (15 Mai 2018)

David Melding: Rwyf i o'r farn fod y dull o reoli cyflenwad tir yn fater pwysig iawn; nid wyf wedi fy argyhoeddi y bydd hon yn ffordd arbennig o gynhyrchiol o wneud hynny, ond rwy'n agored i dystiolaeth yn sicr. Mae diddordeb cyhoeddus gwirioneddol yma—yr arian annisgwyl mwyaf, dylwn ddweud wrthych chi, Gweinidog, wrth gwrs, yw pan gaiff tir ei roi ar gyfer parthau i adeiladu pan fu defnydd blaenorol...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: Ni fyddai UE wedi bodoli yn y lle cyntaf oni ailaseswyd y dehongliad penodol hwnnw o sofraniaeth. Fel y dywedodd Monnet, mae angen inni oresgyn y rhwystr o sofraniaeth genedlaethol gul, ac mae angen inni greu, yn y DU, rhywbeth sy'n cyfateb i'r llywodraethiant cyffredin yn yr UE. Mae'r ffordd yr ydych chi'n mynd ati yn gwyrdroi hynny a dyna'r holl broblem yma y prynhawn yma.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: Iawn, fe wnaf i dderbyn un yn rhagor.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: A gaf i ddweud, Rhun, rwy'n wirioneddol falch eich bod wedi gwneud y sylw hwnnw oherwydd rwyf eisiau symud yn awr at fy nghasgliad, sydd yn faes, rwy'n credu, efallai, y byddwn yn fwy unedig yn ei gylch? Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn bwysig iawn. Dim ond y dechrau yw, fodd bynnag, o'n cysyniad o gyd-lywodraethu ac mae angen ailwampio hyn a dyna fydd y prawf...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: Os yw hyn yn wir yn gam yn ôl o ddatganoli, fel mae Plaid a'r SNP yn honni, mae'r cyhoedd yn ymddangos yn hyderus iawn. Fe wnaf ildio. 

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: Wel, dyna'r holl bwynt, welwch chi, ynte? Rydych chi'n dadlau, 'Oes, mae eu hangen nhw arnom ni', ond wnewch chi ddim cytuno ar unrhyw broses neu roi cydsyniad rhesymol i'w ffurfio. Rydych chi eisiau pleidlais atal genedlaethol. Rydych chi eisiau cadw'r hyn a welwch chi fel eich sofraniaeth absoliwt.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Fel y noda adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ganolog i'r argymhelliad i gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwyf eisiau dychwelyd at hynny yn ddiweddarach. Hyn, ynghyd â'r gwelliannau i'r cymal 11 gwreiddiol. Fel y noda adroddiad y pwyllgor:...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Gwasanaeth Ambiwlans (15 Mai 2018)

David Melding: Prif Weinidog, dros dri mis y gaeaf, bu'n rhaid i 1,860 o bobl a ddosbarthwyd yn ambr, a byddwch yn gwybod bod hyn yn cynnwys pobl sy'n dioddef strôc neu drawiad ar y galon, aros dros chwe awr am eu hambiwlans. Nawr, does bosib bod hyn yn annerbyniol ac mae angen i ni sicrhau, y gaeaf nesaf, bod rhai o'r safonau sylfaenol iawn hyn yn cael eu bodloni.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.