Llyr Gruffydd: 6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd gofal iechyd yn y gymuned yng Ngogledd Cymru? OAQ53018
Llyr Gruffydd: Rwyf i am bigo i fyny ar yr hyn yr oedd Helen Mary Jones yn ei ddweud, ac eraill, yn cyfeirio at y cydbwysedd grym—y power balance yma—a sut mae yna anghydbwysedd nid yn unig o fewn y diwylliant sydd yn bodoli yn y maes yna, ond o fewn rhai o'r rheolau sydd gennym ni yma yn y maes yma hefyd, a sut mae angen newid rhai o'r rheolau hynny er mwyn rhoi neges glir ein bod ni'n mynd i'r afael...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, ar ben y pwysau tymhorol cynyddol a'r pwysau arferol rŷm ni'n eu gweld ar ddoctoriaid a'r gwasanaeth iechyd, mae yna broblemau eraill yn deillio yn uniongyrchol o rai o bolisïau y Llywodraeth yma hefyd. Mae cynllun datblygu lleol Wrecsam, er enghraifft, yn rhagweld y bydd angen 10 meddyg teulu ychwanegol oherwydd y cynnydd sydd yn cael ei yrru yn y...
Llyr Gruffydd: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysau cynyddol ar feddygon teulu yng Ngogledd Cymru? OAQ52965
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am newidiadau yn y drefn arholiadau TGAU?
Llyr Gruffydd: Jest i ymateb—wel, mi wnes i ymateb i'r gwelliant cyntaf rhyw bythefnos yn ôl. Nid ydw i'n gweld bod dim byd wedi newid ers hynny, felly gwnaf adael hynny. O ran yr ail welliant, ar Wylfa, wel y peth olaf rydym ni eisiau yw bod niwclear yn rhan o'r mix ynni hirdymor. Yr holl bwrpas yw ein bod ni'n symud oddi wrth y model hub and spoke, fel roeddwn i'n ei ddweud gynnau, ac nid...
Llyr Gruffydd: Dangosodd y Sefydliad Materion Cymreig yn ei brosiect Ail-egnïo Cymru bod angen mwy o uchelgais a gweithredu ymarferol ar unwaith er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer 100 y cant o ynni adnewyddadwy, ac mae'r camau hyn yn cynnwys uwchraddio effeithlonrwydd ynni. Wrth gwrs, fe gofiwch chi ein haddewid maniffesto ar gyfer cynllun ôl-ffitio gwerth biliynau o bunnau yma yng Nghymru. Mae...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch bod y cynnig ac anerchiad yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio at adroddiad 'Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017', oherwydd mae hynny yn dweud llawer o'r stori wrthym ni: yn amlwg, bod 48 y cant o'r trydan yr ydym ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru yn dod o ynni adnewyddadwy, a bod hynny wedi cynyddu 5 y cant. Mae hynny'n ddigon positif, wrth gwrs. Beth...
Llyr Gruffydd: Nid wyf yn amau eich didwylledd o ran peidio â bod eisiau peryglu lles anifeiliaid, ond wrth gwrs, mae perygl y bydd holl broses Brexit yn tanseilio hynny. Oherwydd rydym ni ym Mhlaid Cymru eisiau gweld Cymru'n un o arweinwyr y byd ym maes lles anifeiliaid ac rydym am weld hynny'n parhau ar ôl yr heriau sylweddol y mae Brexit yn eu creu i les anifeiliaid, oherwydd mae rheoliadau'r UE, wrth...
Llyr Gruffydd: A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd i'r hyn y teimlwn ei bod yn ddadl ardderchog? Pe bai gennyf geiniog am bob tro y clywais rywun yn dweud na ddylem fod geiniog ar ein colled, mae'n siŵr y gallwn dalu am beth o hyn fy hun. Ond mae'n tanlinellu'r ffaith mai dyma un o'r agweddau canolog mae'n debyg: y byddem yn hoffi gweld y difidend Brexit a addawyd i ni. Er mai annhebygol iawn y...
Llyr Gruffydd: Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd cronfeydd strwythurol yn cael eu disodli gan gronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig. Ac er bod ymgynghoriad i fod i ddechrau ar y gronfa cyn diwedd y flwyddyn, ychydig iawn o fanylion a gafwyd ynglŷn â sut y bydd hwnnw yn gweithio. Bu ffynhonnell y cyllid sy'n dod i Gymru yn newid yn sgil Brexit, ond, wrth gwrs, rŷm ni ddim wedi...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser eto cael cyfrannu i'r ddadl yma fan hyn prynhawn yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac i edrych ar ein hymchwiliad ni i'r paratoadau, wrth gwrs, ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru. Er nad oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad, rydw i wedi edrych ar y dystiolaeth â chryn ddiddordeb ac...
Llyr Gruffydd: Un o'r meysydd sydd wedi denu beirniadaeth mewn blynyddoedd blaenorol yw'r dull o ariannu prosiectau, fel rydym newydd glywed mewn gwirionedd, drwy ddefnyddio tanwariant o'r dyfarniad i ychwanegu at gyllideb y Comisiwn. Eleni, mae'r Comisiwn wedi newid y ffordd y mae'n cyllidebu, gyda rhaniad clir rhwng cyllideb y Comisiwn a'r dyfarniad. Felly, yn hytrach na defnyddio'r tanwariant o'r...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma y prynhawn yma. Fel aelod newydd, a Chadeirydd newydd, y Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, dyma'r tro cyntaf i mi gyfrannu at y gwaith o graffu cyllideb Comisiwn y Cynulliad yn y ffordd yma, ond rwy'n deall bod y Comisiwn wedi bod yn destun gwaith craffu trylwyr gan y Pwyllgor Cyllid dros y blynyddoedd diwethaf. Ac mi...
Llyr Gruffydd: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gogledd Cymru mewn perthynas â dyrannu arian ychwanegol sy'n debygol o ddod i Gymru yn dilyn cyhoeddiadau Llywodraeth y DU ar y gyllideb?
Llyr Gruffydd: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad—datganiad braidd yn wasgaredig, rwy'n credu. Cyfeiriasoch at tua 15 neu 16 maes polisi gwahanol o fewn maes pwnc lles anifeiliaid. Rwy'n awyddus i sôn am y cyfraniad £500,000, hefyd, i elusennau gwledig, oherwydd mae llawer ohonom wedi cefnogi elusennau gwledig dros y blynyddoedd, drwy gyfraniadau neu gymryd rhan mewn gweithgareddau...
Llyr Gruffydd: Rwy'n credu fy mod yn eich clywed yn dweud bod yr amser wedi dod i gael arolygiaeth annibynnol yng Nghymru. A wnewch chi gadarnhau hynny?
Llyr Gruffydd: Rhagorol.
Llyr Gruffydd: Ond beth mae hynny'n ei ddweud am y berthynas sydd gan y Llywodraeth yma, a'r partneriaid eraill o fewn yr Arolygiaeth Gynllunio, fod y fath benderfyniad yn gallu cael ei ystyried heb fod yna ymgynghoriad digonol â chi fel Ysgrifennydd Cabinet a gyda'r Llywodraeth yma? Mae'n plaid ni, wrth gwrs, wedi bod yn galw ers talwm iawn am arolygiaeth annibynnol i Gymru. Rydym ni'n gweld, yn sgil...
Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Mae'r newyddion bod Arolygiaeth Gynllunio Lloegr a Chymru yn bwriadu cael gwared ar rôl cyfarwyddwr gweithredol Cymru yn amlwg yn mynd i fod yn syndod i nifer o bobl ac yn anfon neges glir o safbwynt y peryg bod Cymru yn cael ei hisraddio oddi fewn i'r arolygiaeth honno. A allaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ba ran a gafodd hi a Llywodraeth Cymru yn y penderfyniad hwnnw?