Mike Hedges: Gwnaf, yn sicr.
Mike Hedges: Os yw Mark Isherwood yn gofyn, 'Allwn ni roi'r un faint yn union o gyllid y pen i bob awdurdod lleol?', ar ran Abertawe, rwy'n dweud, 'Gallwch, os gwelwch yn dda.' Ac rwy'n credu y byddai pobl yng Nghaerdydd yn gorfoleddu yn ei gylch, ond byddai problemau mewn rhannau eraill o Gymru lle byddai pobl yn llai hapus. Mae'r fformiwla yn golygu ei fod yn seiliedig ar boblogaeth a demograffeg...
Mike Hedges: O, diolch, Llywydd. [Chwerthin.] Roedd hynny'n dipyn o syndod. Dau o brif feysydd gwariant Llywodraeth Cymru yw iechyd a llywodraeth leol. Yr anfantais o roi arian ychwanegol ar gyfer iechyd, mae'n amlwg, yw llai o arian ar gyfer llywodraeth leol. Mae cyllid llywodraeth leol o dan bwysau. Mae cynghorau lleol wedi bod yn flaengar ac yn arloesol wrth ymdrin â thoriadau mewn termau real i'w...
Mike Hedges: Wel, pe byddem wedi gweld ethol Jeremy Corbyn a John McDonnell yn 2017, nid wyf yn credu bod yna unrhyw un yn yr ystafell hon nad yw o'r farn y byddai gennym gyllideb hollol wahanol. Mae'r grant bloc gan y Torïaid yn San Steffan yn annigonol. Wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi, rwy'n disgwyl gweld y Ceidwadwyr yn galw am fwy o arian ar gyfer iechyd, mwy o arian ar gyfer addysg, ac yn gwrthwynebu...
Mike Hedges: Er fy mod yn cefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru, rwy'n cydnabod mai annigonol yw'r gyllideb ar gyfer anghenion Cymru. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod ei araith, mae rhwng £1.1 biliwn a £4 biliwn yn llai o wariant gennym nag a ddylai fod gennym pe byddem hyd yn oed wedi aros ar y gwastad yn unig, ar y naill law o ran arian parod, ac ar y llaw arall o ran cynnydd termau real yn...
Mike Hedges: Y cyfan fyddwn i'n ei ddweud, wrth gwrs, yw fod Franklin Delano Roosevelt wedi gwneud yn union felly: y Fargen Newydd ddaeth ag America allan o'r dirwasgiad.
Mike Hedges: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i David Melding, Simon Thomas, Joyce Watson, Neil Hamilton, John Griffiths, ac Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd rhan yn y ddadl hon—a Paul Davies am gymryd rhan yn y ddadl hon? Ac rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol—. Credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig fod gennym nifer o bobl nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor sydd â diddordeb yn yr adroddiad...
Mike Hedges: Bydd Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid yn gweld yn yr ohebiaeth fod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â nifer fach o bryderon niferus y pwyllgor, ond mae’r rhan fwyaf o'n cwestiynau yn dal i fod heb eu hateb. Ond rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â’r rheini heddiw. Mae ein hadroddiad, 'Y Llanw’n troi?', yn mynd i'r afael â nifer o bethau, gan...
Mike Hedges: Diolch, Lywydd. Credaf fod trafodaethau morol yn debyg i fysiau—rydych yn aros yn hir iawn am un ac mae dau'n cyrraedd yn gyflym iawn. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae angen i mi ddiolch i Gadeirydd blaenorol y pwyllgor, Mark Reckless, ac aelodau o'r pwyllgor...
Mike Hedges: A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu gweithredu Llywodraeth Cymru yn fawr? Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gorbwysleisio pwysigrwydd y morlyn llanw i ddinas-ranbarth bae Abertawe. Gwn fod Aelodau ar draws y Siambr hon yn cefnogi'r morlyn llanw, ac mae Aelodau rwy'n anghytuno â hwy ar bron bob mater arall yn gwbl gytûn ynglŷn â pha mor bwysig yw hwn i Abertawe a dinas-ranbarth bae...
Mike Hedges: Rydym wedi bod yn aros yn hir am gynllun i Gymru. Dechreuodd gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn ôl yn 2009, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ei dull gweithredu cychwynnol o gynllunio morol. Nid wyf yn mynd i feirniadu hynny. Mae bob amser yn well cael polisi yn iawn na chael polisi yn gyflym, felly nid wyf yn beirniadu’r amser hir; credaf ei bod yn bwysig ein bod wedi llwyddo i gael hyn yn...
Mike Hedges: Rwyf i ar yr ochr gadarnhaol. Mae dyfodiad y cynllun morol cyntaf erioed ar gyfer Cymru, rwy'n credu, yn foment arwyddocaol yn hanes Cymru fel cenedl forol. Er bod system gynllunio defnydd tir wedi bod ar waith ers 70 o flynyddoedd, ni chafwyd dull gofodol a arweinir gan gynllun strategol i reoli amgylcheddau morol y DU—gan gynnwys Cymru. Nid yw hynny'n golygu bod cynllunio defnydd tir...
Mike Hedges: O ran prentisiaethau, mae adeiladu angen gweithwyr medrus. Mae angen prentisiaid i ddod drwodd yn lle crefftwyr sy'n ymddeol. Aethom drwy gyfnod o amser heb ddigon o brentisiaid. Mae angen datrys hyn. Rwy'n ymwybodol iawn ac yn gwerthfawrogi'r gwaith a wneir gan CITB, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio gyda chyflogwyr. Mae pob prentisiaeth yn cynnwys cymhwyster cymhwysedd...
Mike Hedges: Rwyf am ddweud hyn: adolygiad Hendry, y credai llawer ohonom sy'n besimistaidd ei fod yn ei wthio i'r naill ochr, yw'r mwyaf cadarnhaol a glywais erioed. Rwy'n dyfynnu: 'mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir, yn fy marn i, bod môr-lynnoedd llanw yn gallu bod yn rhan gost-effeithiol o gymysgedd ynni'r Deyrnas Unedig.' Yn y pen draw, mae Llywodraeth y DU yn wynebu '[p]enderfyniad strategol,...
Mike Hedges: Bydd yr ehangu hwn yn cael ei ysgogi gan amrywiaeth o brosiectau seilwaith mawr. Mae bron fel pe baem yn aros amdanynt, onid yw? Prosiectau seilwaith fel Wylfa—rydym yn dal i aros. Y morlyn llanw—rydym yn aros. Mae'r gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol ar ysgolion a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr ac wedi cael cefnogaeth enfawr ar draws y...
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gobeithio dangos pwysigrwydd y diwydiant adeiladu, pwysigrwydd prentisiaethau a chael gweithlu adeiladu medrus, pwysigrwydd cefnogi a thyfu cwmnïau adeiladu yng Nghymru a hefyd, pwysigrwydd prosiectau mawr fel y morlyn llanw yn Abertawe. Pe bawn wedi bod yn gwneud yr araith hon ddwy flynedd yn ôl, y peth trist yw y buaswn yn dal i fod wedi dweud 'pwysigrwydd...
Mike Hedges: Roeddwn yn meddwl eich bod am ddweud hynny.
Mike Hedges: Nid yw'n beth da cael eich dewis ar gyfer yr wythnos olaf o'r tymor.
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i David Melding, Simon Thomas, David Rowlands, Vikki Howells, Jayne Bryant, Mark Isherwood ac i'r Gweinidog am gymryd rhan yn y ddadl hon, ac yn bwysicaf oll, rwy'n credu, am y ffordd gadarnhaol a chydsyniol rydym wedi ei symud yn ei blaen? Credaf y gallwn eistedd yn awr a dweud, 'Wel, rydym i gyd yn cytuno, onid ydym?' Ond mae yna...
Mike Hedges: Yn gyffredinol, canfu'r ymchwiliad fod rhanddeiliaid yn teimlo bod cyfeiriad polisi strategaeth 'Coetiroedd i Gymru' Llywodraeth Cymru yn briodol. Fodd bynnag, roeddent i gyd yn galw am ei adnewyddu ar frys er mwyn cynyddu'r cyfraddau plannu yn sylweddol. Rydym wedi gwneud 13 o argymhellion. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 12 o'r argymhellion hynny naill ai yn llawn neu...