Russell George: Gwnaf.
Russell George: Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â seilwaith digidol yng Nghymru. I lawer o bobl, nid rhywbeth 'braf i'w gael' yw cysylltedd mwyach ar gyfer byw a gweithio yng Nghymru, gan gynnwys rhai o'r busnesau y siaradwyd â hwy fel rhan o'n hymchwiliad. Caiff ei ystyried yn wasanaeth hanfodol fel dŵr neu drydan bellach— hyd yn oed mewn rhai...
Russell George: Er y cannoedd o filiynau o bunnoedd a fuddsoddwyd yn yr ardaloedd, mae economi Cymru, yn fy marn i, yn parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu â'r rhan fwyaf o rannau eraill y DU. Roedd gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn 2015 yn £18,000, ar waelod tabl cynghrair y gwledydd cartref o ran gwerth ychwanegol gros y pen, ac mae wedi bod ar waelod y tabl hwnnw am 20 mlynedd yn olynol....
Russell George: Rwy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd o ran bod y darlun yn gymysg mewn perthynas ag ardaloedd menter. Rwy'n cydnabod hefyd ei bod yn bwysig diogelu swyddi, er bod yn rhaid i mi ddweud, mewn dogfen gennych yma, mae'n dweud, 'Nod yr Ardaloedd Menter yw: meithrin twf yn yr economi leol a darparu swyddi newydd'. Felly, dengys y data fod llai na thraean o'r swyddi a gefnogwyd gan ardaloedd...
Russell George: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl blynyddoedd lawer o geisio cael y wybodaeth hon gennych, rydych o'r diwedd wedi darparu dadansoddiad o niferoedd y swyddi a grëwyd, a ddiogelwyd ac a gynhelir gan wyth ardal fenter Cymru, a diolch ichi am y ffigurau hynny. Mae'r ardaloedd menter wedi dangos mai dim ond—mae'r ffigurau gennyf yma—2,998 o swyddi newydd a grëwyd ers i'r...
Russell George: Prif Weinidog, rwyf newydd glywed eich ymateb blaenorol. A ydych chi'n cytuno â mi y dylem ni fod yn ystyried penodi cynrychiolwyr masnach i roi hwb i allforion i wledydd y tu allan i'r UE? Bydd hynny, wrth gwrs, yn cynyddu presenoldeb masnachol a phroffil rhyngwladol Cymru.
Russell George: Prif Weinidog, mae diweithdra yn y canolbarth yn isel iawn, ond mae gwerth ychwanegol gros fesul pen ar ei hôl hi o'i gymharu â dinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe, a cheir bwlch sylweddol pan ddaw i gyflogau cyfartalog y rheini yng nghefn gwlad y canolbarth. Nawr, mae cytundeb twf posibl i'r canolbarth yn un o'r ffyrdd o sicrhau ein bod ni'n meithrin y sgiliau a'r hyfforddiant priodol i...
Russell George: A gaf fi groesawu'r Gweinidog i'w swydd newydd? Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Sir Powys yn dilyn adroddiad damniol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wrth gwrs, ar y ffyrdd y mae gwasanaethau plant yn cael eu darparu ym Mhowys. Mae darparu gwasanaethau ar draws ardal fawr a phrin ei phoblogaeth yn heriol iawn. A gaf...
Russell George: Prif Weinidog, ers creu ardal fenter Glynebwy, gwariwyd £94.6 miliwn i greu, diogelu neu gynorthwyo dim ond 390 o swyddi. Ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yw'r rhain. Felly, mae hynny'n gost o tua £0.25 miliwn fesul swydd. O gofio mai creu swyddi yw elfen allweddol ardaloedd menter, mae'r ffigurau hyn yn dangos i mi bod lefel enfawr o fuddsoddiad nad yw wedi bod yn werth da am...
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae pawb ohonom yn gwybod am yr argyfwng sy’n ein hwynebu o ran recriwtio meddygon teulu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Yr wythnos diwethaf, cawsom adroddiadau yn y cyfryngau nad ymgeisiodd unrhyw un am swydd wag i weithio fel meddyg teulu mewn meddygfa yn Sir Benfro yn y naw mis diwethaf. Ceir digon o enghreifftiau pellach o fy etholaeth o swyddi’n cael eu...
Russell George: Pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi yn y flwyddyn newydd, rwy’n gobeithio y bydd y cynnig hwn yn cael ei dynnu’n ôl. Yr hyn y buaswn yn galw arno i wneud yw gofyn iddo sicrhau bod y cynnig hwn yn cael ei dynnu’n ôl dros weddill y tymor Cynulliad hwn, oherwydd dyna yw’r sicrwydd sydd ei angen ar y sector twristiaeth a busnesau ledled Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Russell George: [Yn parhau.]—y bydd hyn yn cael ei dynnu’n ôl am weddill y tymor Cynulliad hwn.
Russell George: Diolch i chi, Llywydd. Rwyf wedi ceisio fy ngorau dros y funud olaf i gyfrannu at y ddadl hon, ond ceisiwyd rhoi taw arnaf, ond diolch i chi, Llywydd.
Russell George: Dirprwy Lywydd, rwy’n mynd i gytuno â Steffan Lewis y prynhawn yma. Mae Steffan Lewis wedi dweud y buasai treth dwristiaeth yn faich ychwanegol ac nid yn rhywbeth y gall Plaid Cymru ei gefnogi ar hyn o bryd. Felly, rwy’n cytuno â sylwadau Steffan Lewis. Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi sylwadau y prynhawn yma ar ein dadl. Hoffwn ddweud mai un peth rwy’n falch fod...
Russell George: Os yw hi eisiau—ewch amdani, felly. Brysiwch.
Russell George: Na, ni allaf weld hynny; rydym yn cael y drafodaeth hon y prynhawn yma, Joyce Watson. Nododd Caroline Jones hefyd fod cadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Prydain sydd hefyd yn digwydd bod yn rheolwr gyfarwyddwr Lake Vyrnwy Hotel and Spa yn fy etholaeth i, wedi mynegi ei farn y bydd treth dwristiaeth yn rhoi mantais annheg i’n cystadleuwyr yn Lloegr, ac mae hyn, wrth gwrs, wedi cael ei adleisio...
Russell George: Wel gadewch i ni edrych—. [Chwerthin.] Gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei ddweud. Felly, dywedodd y Prif Weinidog, wrth siarad am dreth dwristiaeth—. Dyma a ddywedodd y Prif Weinidog ar 10 Hydref: ‘Credwn fod honno’n ffordd o rannu’r baich. Credwn fod honno’n ffordd dda o sicrhau bod mwy o arian ar gael ar gyfer twristiaeth.’ Ac wrth ymateb i Darren...
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl y prynhawn yma. Wrth agor, amlinellodd fy nghyd-Aelod, Nick Ramsay, yn gynhwysfawr pam y buasai’r cynnig annoeth hwn yn amhriodol ar gyfer Cymru, ac wrth gwrs, buasai’r diwydiant twristiaeth yn cael ei effeithio’n sylweddol, fel y clywsom mewn cyfraniadau heddiw gan Aelodau ar yr ochr hon i’r Siambr. Nawr,...
Russell George: Prif Weinidog, roeddwn innau hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, a gadeiriwyd gan Hefin yn gynharach, a chlywsom sut mae Cymru wledig yn ddibynnol iawn ar gyfraniad hunangyflogaeth i’r economi. Nododd Hefin fod 23 y cant o'r rhai sydd ym Mhowys yn hunangyflogedig, ac mae hynny’n cymharu â chyfartaledd Cymru o 13 y cant. Nawr, mae adroddiad FSB Cymru wedi canfod bod y rheini sy'n...
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn enw Paul Davies sy’n galw ar y Cynulliad i ymestyn y cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim a breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Rwy’n credu ei bod yn addas iawn fod ein dadl y prynhawn yma’n dilyn ymlaen o’r ddadl flaenorol. Fel y bydd yr Aelodau’n derbyn, ni allwn gefnogi gwelliant...