Canlyniadau 961–980 o 2000 ar gyfer speaker:Nick Ramsay

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi Busnes (23 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma? Mae’n ddadl amserol iawn o ystyried bod canlyniadau ailbrisiad ardrethi mis Ebrill nesaf yn dod yn amlwg bellach—a byddwn yn dweud mai ond yn ddiweddar y daethant yn amlwg, yn sicr i’r busnesau ar lawr gwlad sy’n mynd i wynebu codiadau. Fel y dywedodd Russ George wrth agor,...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Tach 2016)

Nick Ramsay: Arweinydd y tŷ, fel yr amlygodd Huw Irranca-Davies yn ei sylwadau i chi yn gynharach, mae’r dyddiau diwethaf o law trwm wedi arwain at lifogydd ledled y wlad. Mae hefyd wedi arwain at y llifogydd tymhorol arferol a rhagweladwy ar yr A4042 wrth bont Llanelen yn fy etholaeth i. Mae hwn yn llwybr cefnffordd pwysig. Mae'r llifogydd blynyddol yn achosi llawer o anghyfleustra i gymudwyr a...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Ailbrisio Ardrethi Busnes
(22 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae'r ailbrisio ardrethi busnes sydd ar fin digwydd yn parhau i fod yn ffynhonnell o bryder sylweddol i fusnesau, mewn rhai rhannau o Gymru—nid pob rhan, rwy’n derbyn, ond yn sicr yn fy ardal i o Gymru. Cyfarfu siambr fasnach Trefynwy ddoe i drafod y cynnydd i ardrethi y mae llawer o'r aelodau yn ei wynebu, a dim ond y bore yma, derbyniais...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Ailbrisio Ardrethi Busnes
(22 Tach 2016)

Nick Ramsay: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau ag awdurdodau lleol ynghylch ailbrisio ardrethi busnes? OAQ(5)0277(FM)

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Tollau Pontydd Hafren (16 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch i chi am ildio, Mark Reckless. A fyddech yn cytuno â mi mai rhan o’r broblem sydd gennym gyda phont Hafren, wrth gwrs, yw ei bod hi’n ddwy groesfan, nid un. Y costau cynnal a chadw ar gyfer yr hen groesfan yw’r rhan fwyaf o’r costau cynnal a chadw, ac maent yn debygol o gynyddu yn y dyfodol wrth i’r adeiledd heneiddio. Felly, mae angen gwarchod yn erbyn ateb sy’n diogelu...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pobl Hŷn (16 Tach 2016)

Nick Ramsay: Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sefydlu nifer o gymunedau sy’n ystyriol o ddementia, sydd wedi gweithio oherwydd bod barn pobl hŷn wedi cael ei hystyried ar y cychwyn cyntaf fel bod y cymorth sy’n cael ei roi iddynt wedi ei deilwra i’r hyn y maent ei angen a’r hyn y dywedant sydd ei angen arnynt. Felly, rwy’n...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pobl Hŷn (16 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch i chi am ildio, Lynne. Cytunaf yn llwyr â chi ar hynny: ar bapur y mae strategaeth. Holl bwynt cymunedau ystyriol o ddementia yw eu bod yn dibynnu’n agos iawn ar y gymuned leol i ddod at ei gilydd a darparu’r cyfleoedd hynny i bobl yn yr ardal sy’n dioddef o ddementia, felly rhaid i hyn gael ei arwain o’r gwaelod i fyny.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Gofal Plant am Ddim
(16 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod yn croesawu eich cynigion i ymestyn y ddarpariaeth, tybed pa ystyriaeth rydych wedi ei rhoi i alluogi rhieni i ddefnyddio eu horiau am ddim yn fwy hyblyg. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n rhaid gwasgaru’r ddarpariaeth bresennol o 10 awr am ddim bob wythnos, fel y gwyddoch, dros bum niwrnod, felly oddeutu dwy awr y dydd yw hynny. Pwy all deithio...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Gofal Plant am Ddim
(16 Tach 2016)

Nick Ramsay: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymestyn gofal plant am ddim? OAQ(5)0067(CC)

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyn-filwyr a Phersonél y Lluoedd Arfog ( 9 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi gytuno â’r sylwadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ddiwedd ei gyfraniad yno—fod hon wedi dod yn ddadl flynyddol? Credaf fod pob Aelod yn cytuno ei bod yn un y mae’r Aelodau yn dymuno cymryd rhan ynddi bob blwyddyn i ddangos ein cefnogaeth i’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw? Mae mor...

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyn-filwyr a Phersonél y Lluoedd Arfog ( 9 Tach 2016)

Nick Ramsay: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Gwasanaethau Meddygon Teulu y tu Allan i Oriau
( 9 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Daeth etholwr 87 oed i gysylltiad â mi yn ddiweddar. Roedd angen apwyntiad y tu allan i oriau yn sgil problem gyda chathetr yn oriau mân y bore. Gofynnwyd am ymweliad cartref dros y ffôn am 11.00 y bore a threfnwyd ymweliad. Ni ddaeth meddyg yn y diwedd nes 8.00 y nos, naw awr yn ddiweddarach, ar ôl nifer o alwadau ffôn yn y cyfamser. Yna, cynghorodd...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Gofal Sylfaenol ac Eilaidd
( 9 Tach 2016)

Nick Ramsay: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fferyllfeydd cymunedol rôl fawr i’w chwarae yn darparu gofal yn y lle iawn ar yr adeg iawn, fel rydych newydd fod yn siarad yn ei gylch. Cefais gyfle, yn ddiweddar, i ymweld â Fferyllfa Lloyds yn fy etholaeth. Cefais fy nharo gan y datgysylltiad rhwng ysbytai a fferyllwyr cymunedol mewn perthynas â rhyddhau o’r ysbyty. Er bod adolygu meddyginiaethau wrth...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Gwasanaethau Meddygon Teulu y tu Allan i Oriau
( 9 Tach 2016)

Nick Ramsay: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau sydd ar gael yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0059(HWS)

8. 7. Datganiad: Cymru Hanesyddol ( 8 Tach 2016)

Nick Ramsay: Ysgrifennydd y Cabinet, cefais y cyfle yn ystod amser cinio i ymweld â'r llu o gymdeithasau ac ymddiriedolaethau yn yr Oriel i fyny'r grisiau sy'n ymroddedig i warchod ein hamgylchedd hanesyddol; i enwi ond ychydig, Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, y Gymdeithas er Diogelu Adeiladau Hynafol, a hefyd wrth gwrs y Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, a grybwyllir yn aml yn y Siambr hon. Mae...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Bil Cymru
( 8 Tach 2016)

Nick Ramsay: Brif Weinidog, fel y dywedwch, gwnaed rhywfaint o gynnydd, ac ar wahân i rai o'r materion cyfansoddiadol y cyfeiriodd Dafydd Elis-Thomas atynt, bydd y Bil hwn yn rhoi pŵer i'r Cynulliad dros bethau fel yr enw a threfniadau etholiadol. Felly, mae cynnydd wedi ei wneud yn y fan honno. A gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, mae datganoli treth yn rhan o Fil Cymru, ac yn rhedeg ochr yn ochr ag ef...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion
( 2 Tach 2016)

Nick Ramsay: Ysgrifennydd y Cabinet, yn natganiad ysgrifenedig eich rhagflaenydd ar 28 Ionawr eleni, dywedodd Huw Lewis nad oedd y system yn ymwneud â labelu neu greu tablau cynghrair moel. Dywedodd hefyd y byddai unrhyw ysgol sy’n perfformio islaw’r perfformiad y cytunwyd arno o ran prydau ysgol am ddim yn cael dyfarniad melyn ar y gorau. Gallaf weld y rhesymeg sy’n sail i hyn, yn enwedig mewn...

9. 5. Datganiad: Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol ( 1 Tach 2016)

Nick Ramsay: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad heddiw. Rhywfaint o newyddion da, o'r diwedd; mae wedi bod yn amser hir yn cyrraedd. Pan oeddech yn crybwyll rhwystredigaeth rhai Aelodau, rwy’n meddwl bod llawer iawn o'r rhwystredigaeth honno wedi dod gan yr Aelod dros Dorfaen a mi dros yr ychydig wythnosau a misoedd diwethaf. Rydym wedi galw am y datganiad hwn, ac roeddech wedi dweud y...

7. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 1 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch i chi, arweinydd y tŷ, ac yn gyntaf a gaf i groesawu’r ffaith bod y datganiad heddiw am y ganolfan gofal arbenigol a chritigol yng Nghwmbrân wedi ei gyflwyno? Roeddwn yn falch o dderbyn y datganiad dan embargo yn gynharach heddiw mewn da bryd ynghylch hynny. Rydym wedi bod yn galw am amser hir bellach—ACau—yn y Siambr hon am y wybodaeth ddiweddaraf am y ganolfan gofal...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Lefelau Ardrethi Busnes
( 1 Tach 2016)

Nick Ramsay: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi’n ymwybodol o’r lefel newydd enfawr o ansicrwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sydd wedi cael ei lwytho ar fusnesau bach gan y newidiadau cost enfawr sy'n deillio o ailbrisio ardrethi busnes. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi’n gyffredinol ei fod yn niwtral o ran cost ac y bydd enillwyr a chollwyr bob amser, ond mae busnesau yn Sir...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.