Lee Waters: Na, hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd, os caf—mae llawer o bwyntiau rwyf am eu cynnwys mewn amser byr. Ceir rhai pryderon gwirioneddol ym mhentref Llangennech ynglŷn â’r ffordd y mae hyn wedi cael ei weithredu. Mae i Simon Thomas ddweud nad oes lle i gwestiynu’r penderfyniad yn anghywir yn fy marn i. Mae’r broses a nododd yn un anghyflawn, gan mai’r un peth sydd ar goll gennym yma...
Lee Waters: Rhowch gyfle i mi ddatblygu fy nadl a byddaf yn hapus i fynd i’r afael â hynny, ond yn syml iawn, nid wyf yn derbyn y syniad fod pobl sy’n pryderu am y ffordd y mae’r polisi hwn yn cael ei weithredu yn Sir Gaerfyrddin yn gwrthwynebu’r polisi. Un o’r pethau roeddwn yn ddig iawn yn eu cylch yn y ddadl dros y misoedd diwethaf yw bod pobl sy’n mynegi pryderon dilys ynglŷn â’r...
Lee Waters: Wel, rwy’n herio Leanne Wood i roi enghraifft o’r hyn a wneuthum i ddwysau’r ddadl hon. Roeddwn yn ystyried ei bod yn wirioneddol ddi-fudd fod Neil Hamilton wedi ymuno â’r llinell biced yn Llangennech, a theimlwn ei fod yn amharchus iawn o’r pentref, yr ysgol, yr athrawon a’r disgyblion yn y pentref hwnnw. Cafwyd—
Lee Waters: Leanne Wood, byddwn yn hapus i dderbyn ymyriad, ond mae arnaf ofn nad wyf yn gallu eich clywed.
Lee Waters: Codaf i gefnogi gwelliant y Llywodraeth ac i gefnogi uchelgais y polisi o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Yn benodol, rwy’n canmol uchelgais polisi Llywodraeth Cymru, ac ni ddylem fod dan unrhyw gamargraff ynglŷn â pha mor radical yw’r polisi hwn. Rydym wedi cael dirywiad yn yr iaith Gymraeg ers canrif neu fwy, ac rydym yn cynnig, o fewn y 30 mlynedd nesaf, nid yn unig ein bod yn atal...
Lee Waters: Cyn i mi ddechrau fy sylwadau, a gaf fi fynegi fy nghydymdeimlad a fy meddyliau gyda’n cydweithwyr yn San Steffan y prynhawn yma, lle y mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel un terfysgol ar hyn o bryd ac mae ein cydgefnogaeth a’n dymuniadau gorau gyda phawb ohonynt? A gaf fi longyfarch Jeremy Miles am gyflwyno’r ddadl hon? Rwy’n credu bod dadleuon Aelodau unigol yn profi’n ddyfais...
Lee Waters: Diolch yn fawr, Weinidog. Dangosodd yr adroddiad blynyddol diweddaraf gan y prif arolygydd ysgolion fod llawer gormod o amrywiaeth o ran safonau addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth mewn ysgolion ledled Cymru. O ystyried hynny, a yw’r Gweinidog yn bryderus nad yw Estyn yn cynllunio neu’n arolygu awdurdodau addysg lleol yn y cylch arolygu nesaf? Yn lle hynny, mae’n bwriadu canolbwyntio ar y...
Lee Waters: 4. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael ag Estyn ynghylch y cylch nesaf o arolygiadau? OAQ(5)0093(EDU)
Lee Waters: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn bresennol, gydag Aelodau eraill, yn amser cinio lobïo preswylwyr cartrefi mewn parciau ac rwy’n cydnabod eu pryder, gan fod llawer ohonynt ar incwm isel, wedi ymddeol, y byddent yn hoffi gweithredu ar y taliadau hyn, ac rwy’n croesawu’n gryf eich awgrym eich bod yn bwriadu naill ai leihau neu ddiddymu’r ffi. Yn amlwg, mae angen gwneud...
Lee Waters: Yn anffodus, nid oes gennyf amser.
Lee Waters: Cael eithriad—. Fel y mae’n digwydd, Dai Lloyd, rwyf wedi ildio i Adam Price lawer mwy o weithiau nag y mae ef wedi ildio i mi.
Lee Waters: Ydw. Caniatawyd eithriad i ffordd osgoi Llandeilo fel na fyddai angen i’r comisiwn annibynnol ei hystyried, gan wybod yn iawn, ar sail elw o £1.16 ar y buddsoddiad, na fyddai’n ddigon da. Rwyf wedi fy syfrdanu gan ei sinigiaeth wrth iddo fynnu bod yn rhaid i gynlluniau eraill basio prawf tebyg. Rydym oll wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’n rhaid i bawb ohonom...
Lee Waters: Mae’n bleser dilyn fy ffrind Jeremy Miles, ac adleisio ei alwad am unigolion creadigol i ymroi i’r drafodaeth ynglŷn â’n hanghenion seilwaith ar gyfer y dyfodol. Rwyf ychydig yn betrus ynglŷn â’r pwyslais ar bwysigrwydd seilwaith. Fel rydym wedi’i drafod o’r blaen yn y Siambr hon, bydd angen ymateb ailadroddol mwy ystwyth a chyflym i fynd i’r afael â’r pwysau economaidd y...
Lee Waters: A wnaiff yr Aelod ildio?
Lee Waters: Rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnewch. Onid dadl yw honno, fodd bynnag, dros well gorfodaeth, a dros weithio gyda theuluoedd i'w helpu i newid eu hymddygiad, yn hytrach na dim ond dweud y dylem roi'r gorau i'r ymgyrch am fwy o ailgylchu?
Lee Waters: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'r BBC, wrth iddynt ddweud mai Dr Carol Bell oedd yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth y DU, wedi dyfynnu ffynhonnell o Lywodraeth y DU yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gweld yn dda i atal ymgeisydd dewisedig yr ysgrifennydd gwladol. A wnewch chi egluro i'r Cynulliad Cenedlaethol swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y broses o gael aelod dros Gymru o fwrdd y...
Lee Waters: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y methiant i benodi cynrychiolydd o Gymru ar fwrdd y BBC? EAQ(5)0095(EDU)
Lee Waters: Diolch, Lywydd. Fel y cawsom ein hatgoffa yr wythnos diwethaf gan y dyfalu am ddyfodol Ford ym Mhen-y-bont, a’r mis cynt gan y ddadl ynglŷn â dyfodol Tata Steel, mae ein heconomi mewn sefyllfa fregus iawn—yn fregus yn wyneb penderfyniadau corfforaethau rhyngwladol sy’n eiddo i gwmnïau tramor, yn fregus yn wyneb ergydion allanol fel Brexit neu amrywiadau ym mhris olew, ac yn fregus,...
Lee Waters: Rydym wedi bod yn rhoi cynnig ar amrywiadau ar yr un thema ym mholisi economaidd Cymru bellach ers nifer o genedlaethau, ac rydym yn rhedeg er mwyn sefyll yn llonydd. Prin y mae ein lefel cyfoeth cenedlaethol, neu werth ychwanegol gros y pen wedi newid yn yr 20 mlynedd ers i ni addo y byddai ffurfio Cynulliad Cenedlaethol yn creu pwerdy economaidd i Gymru. Ddau ddegawd yn ddiweddarach, rydym...
Lee Waters: Hyd at ryw 10 mlynedd yn ôl, roeddwn i'n arfer cael fy nhalu i sefyll ar y stryd a stopio pobl a gofyn eu barn ar faterion y dydd. Byddai rhai pobl yn stopio, byddai rhai yn gweiddi sarhad. Yn wir, wrth feddwl am y peth, nid yw fy mywyd wedi newid cymaint â hynny o gwbl. Rwy'n eithaf ffyddiog, pe byddwn i’n gofyn barn pobl ar y stryd heddiw ac yn gofyn am beth yr oedden nhw’n pryderu...