Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu ei bod bob amser yn well, fel y mae cwestiwn David Melding yn ei awgrymu, i ddeddfu mewn ffordd sydd mor hygyrch â phosibl, ond weithiau mae'n wir, pan fydd diwygio mewn maes penodol yn arbennig o ddwys, gall hynny fod y pwynt lleiaf cyfleus weithiau i atgyfnerthu'r gyfraith. Ond rwy'n ei sicrhau bod o leiaf ddau Fil cydgrynhoi, a fydd, er nad ydyn nhw wedi cyrraedd y Senedd...
Jeremy Miles: Mae'r Senedd wedi gweld cyhoeddi adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar ffurf a hygyrchedd cyfraith Cymru, ymrwymiad y Llywodraeth hon i raglen atgyfnerthu a chodio, a chyflawni Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, sy'n creu dyletswyddau newydd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo bellach ar y ddau Fil cydgrynhoi cyntaf, a fyddai ar gael i'r Llywodraeth yn y Senedd nesaf eu...
Jeremy Miles: Wel, gallaf sicrhau'r Aelod fy mod i a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ym mis Ebrill y llynedd, rwy'n credu, wedi cyfarfod am y tro cyntaf â'r ABI—Association of British Insurers—i drafod y mater penodol hwn, cyn ystyried ymgyfreitha. Ac mae i'w groesawu bod y 21 math o gymal polisi sydd wedi'u samplu gan y Goruchaf Lys wedi bod yn destun y canlyniad clir hwn. A'r effaith...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru—[Anghlywadwy.]
Jeremy Miles: Yw hynny'n well, Dirprwy Lywydd?
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r eglurder y mae'r dyfarniad yn ei ddarparu ar gyfer busnesau a chwsmeriaid unigol. A byddwn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraethau datganoledig, a'r diwydiant, i fonitro effaith y dyfarniad llys hwn ar fater hawliadau yswiriant dilys.
Jeremy Miles: Mae'r rheoliadau yn gymesur, yn wahanol i'r hyn a awgrymir yng nghwestiwn yr Aelod—
Jeremy Miles: Mae'r rheoliadau yn gymesur, yn wahanol i'r hyn a awgrymir yng nghwestiwn yr Aelod, gan eu bod wedi'u hanelu at weithgareddau penodol sy'n achosi llygredd. Byddan nhw'n cael eu cyflwyno dros gyfnod o dair blynedd. Hefyd, boed hynny drwy'r grant cynhyrchu cynaliadwy neu'r rhaglen datblygu gwledig a chynlluniau grant, mae cymorth ariannol ar gael i gefnogi ffermwyr i weithio tuag at y drefn...
Jeremy Miles: Mae swyddogion yn mynychu cyfarfodydd misol gyda chymheiriaid Llywodraeth y DU ar ddatblygu polisi yn y maes hwn. Ni chafodd unrhyw faterion yn ymwneud â gweithredu'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr eu nodi o ran y rheoliadau hyn. Byddan nhw'n helpu i ddiogelu cyrsiau dŵr trawsffiniol, megis Afon Gwy, rhag canlyniadau llygredd amaethyddol.
Jeremy Miles: Dirprwy Lywydd, hoffwn i ddiolch, yn fyr, i'r pwyllgor am ei waith diwyd wrth graffu ar waith paratoi y Gorchymyn hwn ac am ei gefnogaeth i'w weithredu. Diolch yn fawr.
Jeremy Miles: Os gwnaiff y Senedd gymeradwyo'r Gorchymyn drafft heddiw, a gan fod Tŷ'r Cyffredin wedi'i gymeradwyo heddiw, a Thŷ'r Arglwyddi eisoes wedi gwneud hynny'r wythnos diwethaf, rydym yn disgwyl i'r Gorchymyn drafft gael ei gyflwyno i'w Mawrhydi yng nghyfarfod y Cyfrin Gyngor y mis nesaf. Rwy'n falch, felly, Dirprwy Lywydd, o symud y cynnig, a gofynnaf i'r Aelodau ei gefnogi.
Jeremy Miles: Cytunodd y ddwy Lywodraeth fod y cynnydd canlyniadol i swyddogaethau presennol, a'r cynnydd dilynol i'r cyfyngiadau ar gymhwysedd y Senedd, yn anfwriadol a dylid ei gywiro. Dileu'r cyfyngiadau hyn fu ein blaenoriaeth ac rydym yn hyderus bod y Gorchymyn drafft yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU, ynghyd â'n hymrwymiad ni, i wneud y cywiriad. Yn ogystal, mae'r Gorchymyn yn gwneud nifer o...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dadl heddiw yn nodi un o'r camau olaf tuag at benllanw ychydig dros ddwy flynedd o drafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar baratoi'r Gorchymyn drafft hwn. Ym mis Tachwedd 2018, ysgrifennodd y Prif Weinidog ar y pryd at yr Ysgrifennydd Gwladol yn codi mater swyddogaethau cydredol a grëwyd drwy gywiro offerynnau statudol a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb...
Jeremy Miles: Credaf y gallai'r Aelod fod wedi camddeall union effaith y gwelliannau a wnaed gan Dŷ'r Arglwyddi mewn perthynas â hyn. Hoffwn dalu teyrnged, os caf fi, i'r Arglwydd Hope, a arweiniodd ar welliannau ar y mater penodol hwn, ond hefyd Arglwyddi ar draws y Siambr, gan gynnwys rhai arglwyddi Ceidwadol, sy'n cydnabod, yn wahanol i'r Aelod o bosibl, bygythiad y Ddeddf i ddatganoli. Dylwn ddweud...
Jeremy Miles: Yn sicr. Rwyf bellach wedi cymeradwyo'r mwyafrif helaeth o fframweithiau cyffredin sy'n berthnasol i Gymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn weithredol dros dro wrth aros i'r Senedd a'r deddfwrfeydd eraill eu datblygu a chraffu arnynt. Rwy'n rhagweld y gallaf gymeradwyo'r fframwaith cynhyrchu organig cyn bo hir hefyd. Bydd dau fframwaith arall—y fframweithiau cymwysterau a...
Jeremy Miles: Byddwn yn adleisio pryderon Joyce Watson ynglŷn â hyn. Fel Llywodraeth byddwn yn parhau â'n hymdrechion i sicrhau bod yr effaith economaidd ar y porthladdoedd yn y rhanbarth y mae'n ei chynrychioli, a busnesau ledled Cymru yn wir—eu bod yn gallu ymateb i'r rhwystrau newydd hyn y mae'r cytundeb masnach a chydweithredu wedi'u cyflwyno. Nid oes amheuaeth y bydd llawer o heriau'n wynebu...
Jeremy Miles: Mae Deddf Marchnad Fewnol y DU yn ceisio dileu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd mewn nifer o feysydd. Dyna pam y rhoddais gamau cyfreithiol ar waith. Mae hefyd yn rhoi pwerau cymorth ariannol, fel y'u gelwir, i Lywodraeth y DU, ac maent eisoes yn cael eu defnyddio i osgoi cymhwysedd datganoledig, yn fwyaf amlwg drwy'r gronfa ffyniant gyffredin fel y'i gelwir.
Jeremy Miles: Wel, mae'r hyn rydym yn ei wneud yn ymarferol iawn mewn gwirionedd, o ran gweithio gyda'r ddwy Lywodraeth arall a dod â'r rheini at ei gilydd. Rydym wedi bod yn flaenllaw yn y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Iwerddon mewn gwirionedd, fel y soniais yn gynharach, ond hefyd gydag awdurdodau lleol, gan gynnwys ei randdeiliaid ei hun, a rhanddeiliaid porthladdoedd mewn perthynas...
Jeremy Miles: Wel, mae honno'n brif flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Nid yn unig fod y rhwystrau hyn, os hoffech, i fasnachu a thramwy yn bethau y gellid eu rhagweld, fe gawsant eu rhagweld. Nawr, yr hyn rydym eisiau ei sicrhau yw y bydd cyflymder a chyfleustra llwybrau drwy Gymru yn dechrau denu cludwyr yn ôl cyn gynted â phosibl, ac rydym yn sicr yn pwyso ar Lywodraeth y DU, yn y ffordd y mae'n...
Jeremy Miles: Wel, tan fis Rhagfyr, porthladdoedd Cymru oedd y llwybr hawsaf ar gyfer traffig rhwng Iwerddon a thir mawr Ewrop. Mae'r rhwystrau rheoleiddiol newydd sy'n deillio o gytundeb Llywodraeth y DU â'r Undeb Ewropeaidd wedi newid hynny, ac rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wella gweithdrefnau tramwy er mwyn adfer mantais gystadleuol porthladdoedd Cymru.