Mr Simon Thomas: Pan rydych chi'n pleidleisio o blaid rhywbeth mor ddinistriol â Brexit, mae'n rhaid ichi fod yn ofalus beth rydych chi'n dymuno ei gael. Nid wyf yn credu y byddai llawer ohonom yn disgwyl y byddai pleidlais Brexit yn arwain at sefyllfa yn y pen draw gyda Phrif Weinidog y DU, o dan y teitl 'Taking back control', yn ymddangos ar The Andrew Marr Show a dweud na all Senedd ddweud wrth y...
Mr Simon Thomas: Jest i godi hyn lle'r oedd Jenny Rathbone wedi bennu gyda rhai o'r ffigurau sydd yn effeithio ar Gymru os ydym ni yn parhau i adael yn y ffordd fwyaf caled, fel sydd yn debygol o ddigwydd gyda phenderfyniadau San Steffan, gan y ddwy blaid ar hyn o bryd—byddwn ni'n colli gymaint â £5 biliwn oddi ar economi Cymru. Mae nifer ohonom ni yn cofio mynd mewn i ystafell ddirgel draw yn Caspian...
Mr Simon Thomas: Pa un ddaeth gyntaf, y cyw iâr ynteu'r wy?
Mr Simon Thomas: Gwnes i bron ateb y cwestiwn yn fanna. Na, yr wyau sydd wedi'u dodwy gan adar, sydd yn dangos bod gyda ni yng Nghymru'r lefel uchaf o microblastigau yn yr wyau eu hunain—rydym ni'n sôn am blastig bach, bach, bach, wrth gwrs, fan hyn—yn yr wyau eu hunain yng ngorllewin Ewrop. Mae jest yn dangos bod hwn bellach yn treiddio drwy'n systemau dŵr ni, yn treiddio drwy'r gadwyn fwyd, ac yn cael...
Mr Simon Thomas: Bydd Plaid Cymru hefyd yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Mae'n bwysig i ddweud, serch hynny, ein bod ni o'r farn y dylid mynd ymhellach ynglyn â rheoli plastig o bob math—micro a macro. Dyma'r rheoliadau sydd, fel sydd wedi cael ei amlinellu, yn ymwneud â deunyddiau sy'n cael eu golchi i ffwrdd o'r corff, a'u defnyddio ar gyfer glendid personol, ond mae hynny yn gadael nifer o...
Mr Simon Thomas: Yr wythnos diwethaf, arweinydd y tŷ, gofynnais a fyddem yn debygol o drafod cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a gwnaethoch chi ein sicrhau bod hynny'n annhebygol iawn. Ers hynny, fodd bynnag, mae Tŷ'r Arglwyddi wedi pleidleisio o blaid ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol basio deddfwriaeth sylfaenol o fewn chwe mis i Gydsyniad...
Mr Simon Thomas: Wn i ddim, Prif Weinidog, a ydych chi wedi cael cyfle i weld adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar achos trallodus Ellie a Chris James o Hwlffordd, y bu farw eu mab yn ysbyty Glangwili. Disgrifiwyd llu o fethiannau yn yr adroddiad ombwdsmon hwnnw, a waethygwyd gan y penderfyniad i ddisgrifio marwolaeth eu mab fel 'marw-anedig', er gwaethaf y ffaith bod ganddo arwyddion o fywyd...
Mr Simon Thomas: Mae cyngor dinas Caerdydd yn dweud hynny.
Mr Simon Thomas: Ceisiwch wneud hynny yn Aberystwyth. Pan fyddwch chi'n cyflwyno'r seilwaith, byddwn ni'n ei wneud.
Mr Simon Thomas: A wnaiff yr Aelod ildio? Ar y pwynt hwnnw, rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae newydd ei ddweud ynglŷn â'r pwyllgor yn edrych ar ariannu addysg. Credaf y byddai gan y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb mewn edrych ar eich casgliadau yn ogystal. Ond ar y pwynt y mae newydd ei wneud, fe fydd hi'n gwybod—oherwydd mae hi wedi ysgrifennu ataf fel Cadeirydd y pwyllgor cyllid—fod ei phwyllgor wedi...
Mr Simon Thomas: Ac mae'n cytuno â chi.
Mr Simon Thomas: Diolch am yr ateb byr. Roeddwn i’n gobeithio y byddech chi’n sôn am gydweithio yn yr ateb, a dweud y gwir, achos dyna beth sydd ar goll, mae’n ymddangos i mi, ar hyn o bryd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad. Nid wyf yn siŵr pam mae’r Llywodraeth mor frwd dros adnewyddu a diwygio ac ad-drefnu llywodraeth leol pan fo gyda nhw gynigion gan lywodraeth leol ei hunan i gydweithio yn well, i...
Mr Simon Thomas: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y newyddion hwnnw er nad oedd yn galonogol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud. O'i safbwynt hi, deallaf nad hi yw'r un sy'n gyfrifol am hyn, ond mae'n mynd a dod fel y llanw ei hun, mewn gwirionedd. Pe baem yn gallu harneisio'r ynni o ddiffyg penderfyniad Llywodraeth San Steffan, byddem yn gwneud yn dda iawn yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu ei fod...
Mr Simon Thomas: Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei hateb. Mae’n dda gen i glywed yn arbennig nad oes yna ddim stop ar y ffordd yr ydym yn cydweithio â phobl ifanc. Bydd yna rai, efallai, wedi’u siomi gyda’r cynllun yma, ond rwy’n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dal i gadw llygad ar agor ar gyfer posibiliadau eraill o gynnwys pobl ifanc wrth ddatblygu dyfodol y diwydiant yng Nghymru....
Mr Simon Thomas: A gaf i droi nawr at y cynllun ymsefydlu i ffermwyr ifanc? Mae'r cynllun, wrth gwrs, yn ffrwyth cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ac mae yna £6 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer y cynllun hwn. Mae ar agor ar hyn o bryd, ac rydw i'n gwybod bod yna nifer fawr o bobl wedi ymgeisio a nifer fawr o bobl yn trafod y cynllun. Yn gyffredinol iawn, mae croeso mawr wedi bod i'r cynllun. Mae yna...
Mr Simon Thomas: Diolch, Lywydd. Cyn i mi ddechrau, a gaf fi a Phlaid Cymru ategu'r cydymdeimlad a fynegodd Gweinidog yr amgylchedd i deulu Martin Bishop? Roedd yma, rwy'n credu, dair wythnos yn ôl yn fy helpu i sefydlu grŵp trawsbleidiol ar goedwigaeth a bydd llawer ohonom yn gweld ei eisiau ef, ei frwdfrydedd a'i gefnogaeth.
Mr Simon Thomas: 2. Pa egwyddorion sydd y tu ôl i'r ymgynghoriad, 'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl'? OAQ52319
Mr Simon Thomas: Ie, Aberystywth.
Mr Simon Thomas: A gaf i godi dau fater ag arweinydd y tŷ? Yn gyntaf oll, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gallu i ryngweithredu y rhestrau perfformwyr yng Nghymru a Lloegr? Rwyf ar ddeall bod hon yn rhestr sy'n caniatáu i feddygon teulu ddod o Loegr i ymarfer yng Nghymru, a, dybiwn i, i'r gwrthwyneb. Mae'r mater hwn wedi'i godi â mi...
Mr Simon Thomas: Un o'r rhesymau y mae Caerdydd wedi dioddef o ansawdd aer gwael yn y gorffennol—ac yn dal i ddioddef yn ôl achosion llys diweddar—yw'r gweithfeydd llygru mawr ar gyrion Caerdydd. Aethpwyd ag Aberddawan, er enghraifft, i'r llys ar fwy nag un achlysur. Mae'n wirioneddol bwysig, rwy'n credu, wrth i ni ddatblygu ein seilwaith ynni, bod gennym ni'r adnoddau cywir, gan gynnwys asesiadau o'r...