Adam Price: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw mae Cymru yn cwrdd â Lloegr fel cenedl bêl-droed gyfartal ac annibynnol ar faes chwarae yn Qatar, ac rwy'n siŵr ein bod ni gyd yn gweddïo am yr hyn a fyddai'r enwocaf o fuddugoliaethau. Ond, a ydym yn genhedloedd cyfartal ar feysydd grym a gwleidyddiaeth? Dyna'r cwestiwn a godwyd gan ddyfarniad y Goruchaf Lys yr wythnos diwethaf. Dywedoch o'r blaen y...
Adam Price: Ie, wel, a wnewch chi ddweud wrthym beth—? Oes gennych chi'r ffigurau ar gyfer gwariant heb ei ddyrannu ar hyn o bryd ac ar gyfer y cronfeydd wrth gefn? Ac a wnewch chi eu rhannu gyda ni?
Adam Price: I fod yn glir, rydych chi'n dweud—
Adam Price: A wnaiff y Gweinidog yn ildio?
Adam Price: Diolch am ildio. Gofynnais yn benodol a allech ein diweddaru ar y ffigur presennol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth yw'r ffigur cyfredol ar gyfer gwariant heb ei ddyrannu a beth yw'r ffigur presennol ar gyfer cronfa wrth gefn Cymru?
Adam Price: Wel, fel y gwyddom, Gwnsler Cyffredinol, cyhoeddodd y Goruchaf Lys ei ddyfarniad nad oes gan Lywodraeth yr Alban, er gwaethaf cryfder y mandad democrataidd a sicrhawyd yn etholiad Holyrood y llynedd, lwybr cyfreithiol o dan drefniadau cyfansoddiadol presennol y Deyrnas Unedig i gynnal refferendwm annibyniaeth os yw Llywodraeth San Steffan yn parhau i wrthod rhoi ei chaniatâd. Mae Prif...
Adam Price: Mae'n destun balchder i ni yng Nghymru ein bod ni wedi parhau â'r lwfans cynhaliaeth addysg, sydd ddim yn wir mewn rhai mannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ond un peth sydd ddim wedi digwydd, wrth gwrs, fel mae'r Gweinidog yn ymwybodol, yw dŷn ni ddim wedi codi'r lwfans yn unol â chwyddiant ers iddo fe gael ei gyflwyno yn 2004. Felly, mae wedi colli gwerth real yn ystod y cyfnod yna—bron i...
Adam Price: Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Wrth gwrs, byddi di a minnau yn gyfarwydd iawn gyda'r llinell yma, gan ei bod hi'n mynd trwy ganol y dref lle cawsom ni ein haddysg. Mae hi'n cynnig taith hyfryd, wrth gwrs, o gwmpas canolbarth Cymru. Ond mae nifer o'm etholwyr innau wedi bod yn cael profiadau gwael yn ddiweddar o ran y gwasanaeth—o ran oedi cyson, ac argaeledd gwael ac...
Adam Price: 5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu ansawdd ac argaeledd teithiau trenau yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ58747
Adam Price: 3. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi dysgwyr ôl-16 oed yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr sy'n derbyn y lwfans cynhaliaeth addysg? OQ58748
Adam Price: 1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut bydd dyfarniad y Goruchaf Lys ar fwriad Senedd yr Alban i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yn effeithio ar allu Cymru i benderfynu ar ei dyfodol cyfansoddiadol ei hun? TQ687
Adam Price: Os felly, pam mae Keir Starmer yn siarad am wneud i Brexit weithio yn hytrach na mynd â ni'n ôl i'r farchnad sengl? Nawr, os gallwn droi at Qatar, rydych chi wedi gweld adroddiadau fod cefnogwyr Cymru, gan gynnwys cyn-gapten Cymru, Laura McAllister, wedi cael eu hatal wrth fynd i mewn i'r stadiwm neithiwr am wisgo hetiau a chrysau-T enfys. Byddwch hefyd wedi darllen bod FIFA yn gwrthod...
Adam Price: Byddwn i'n ddiolchgar pe baech yn ymdrin â'r cwestiwn penodol: a oes gennych arian yng nghronfa wrth gefn Cymru, ac a oes gennych chi wariant heb ei ddyrannu ar gael i chi. Nawr, mae Keir Starmer yn dweud ei fod eisiau i'r GIG ddibynnu llai ar feddygon a nyrsys tramor a'i fod eisiau torri dibyniaeth Prydain ar fewnfudwyr. Ydy'r math yma o rethreg yn eich poeni chi? Pan awgrymodd y farwnes...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi oedi'r cyhoeddiad ffurfiol ynghylch streicio yn yr Alban, oherwydd bod Llywodraeth yr Alban wedi ailagor trafodaethau cyflog. Pam ydych chi, hyd yn hyn, yn gwrthod gwneud yr un peth? Yr wythnos diwethaf, awgrymodd y Prif Weinidog na fyddai'n iawn i siarad â'r RCN tra bod undebau eraill hefyd yn pleidleisio, felly a gawn ni ddisgwyl, pan fydd...
Adam Price: Rwy'n edrych ymlaen at weld y Prif Weinidog yn caniatáu i ni fynd drwy'r llyfrau gydag ef. A fydd e'n trefnu sesiwn friffio pan gawn ni edrych mewn gwirionedd, fesul llinell, ar ble y gallwn ni ailflaenoriaethu'r gyllideb mewn ffordd flaengar, sosialaidd? Nawr, a wnaiff y Prif Weinidog egluro un peth? Fe gyfeirioch chi at drafodaethau. Ydych chi'n barod i gynnal trafodaethau gyda'r undebau...
Adam Price: Mae Syr Keir wedi dweud mai'r peth pwysicaf y gallai ei wneud ar gyfer gweithwyr ar streic yw hebrwng Llywodraeth Lafur i mewn. Ac ie, pe bai honno'n Llywodraeth radical a all helpu i ddarparu cyllid tecach i Gymru a mwy o degwch cyffredinol drwy'r mathau o newidiadau blaengar y mae arweinydd ein plaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, yn eu cynnig drwy ei Bil Comisiwn Diwygio Trethi,...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Mae heddiw'n nodi 100 mlynedd o oruchafiaeth etholiadol Llafur, gan wneud eich plaid, yn eich geiriau chi, 'y blaid fwyaf llwyddiannus yn y byd democrataidd'. Mae'n rhaid i mi ddweud, y bore 'ma, nid oedd yr hwyliau yn rhai o ddathlu pan sefais i a chydweithwyr eraill Plaid Cymru yn y glaw mewn undod ag undebwyr llafur ar streic i nodi rhai adegau hanesyddol eraill; y...
Adam Price: Byddwch chi'n ymwybodol, Weinidog, fod yna ganran uchel yng Nghymru o gartrefi sydd ddim yn gysylltiedig â'r grid cyflenwad nwy—hynny yw, bron un mas o bump o bob cartref. Ac mewn rhai mannau yn sir Gaerfyrddin, er enghraifft, mae e gymaint â 39 y cant. Dyw'r cartrefi yma, sydd yn ddibynnol ar olew cartref neu danwyddau amgen eraill, wrth gwrs ddim yn elwa o'r cap ar brisiau ynni—dŷn...
Adam Price: 2. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu ar gyfer cartrefi oddi ar y grid sydd mewn tlodi tanwydd? OQ58675
Adam Price: Hoffwn ddychwelyd, i gloi, at y mater a godwyd yn gynharach am gwpan y byd. Efallai eich bod chi'n ymwybodol o adroddiad y bore yma bod llysgennad Cwpan y Byd FIFA Qatar, Khalid Salman, wedi disgrifio cyfunrywioldeb fel 'niwed yn y meddwl', ac wedi dweud ei fod yn poeni y gallai plant ddysgu rhywbeth nad yw'n dda o bresenoldeb pobl LHDTC+ yng nghwpan y byd. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y Wal...