Huw Irranca-Davies: Fel y pwyllgor cyfrifol am ystyried y Biliau cydgrynhoi, cawsom y dasg o benderfynu a ddylai'r Bil fynd ymlaen drwy'r Senedd fel Bil cydgrynhoi. Ein nod oedd bodloni ein hunain: bod cwmpas y cydgrynhoi'n briodol; bod y deddfiadau perthnasol wedi'u cynnwys o fewn yr ymarfer cydgrynhoi; bod yr ymarfer cydgrynhoi yn gywir a bod y Bil ond yn newid deddfiadau perthnasol i'r graddau a ganiateir gan...
Huw Irranca-Davies: Mae ein hadroddiad yn nodi barn Llywodraeth Cymru bod y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol mewn perthynas â Chymru o ganlyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, neu UKIMA, fel y byddaf yn cyfeirio ati yn awr, ac yn benodol bod ei gofynion yn golygu y bydd y darpariaethau yn y Bil yn caniatáu gwerthu a marchnata PBOs—organebau wedi’u bridio’n fanwl—yng Nghymru, sydd...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethon ni gyflwyno ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn yn syth ar ôl ein cyfarfod brynhawn ddoe. Bydd y Gweinidog yn gwybod mai ychydig iawn o amser oedd gennym i ystyried y memorandwm, o ystyried y cafodd ei gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2022, a gofynnwyd i ni adrodd erbyn 16 Ionawr 2023. Dim ond 11 diwrnod oedd yn y cyfnod hwnnw pan oedd y...
Huw Irranca-Davies: Diolch eto, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethon ni gyflwyno ein hadroddiad ar femorandwm Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil Esgyll Siarcod y bore 'ma ac fe ddaethon ni i ddau gasgliad yn ein hadroddiad. Fe wnaethon ni ddau argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Cytunwyd ag asesiad y Gweinidog bod angen cydsyniad y Senedd ar gymalau 1, 2 a 3(5) y Bil. Ond nodwn fod Llywodraeth Cymru o'r farn nad oes...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, eto, a diolch, Gweinidog, hefyd. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn ar 9 Ionawr, ac mae ein hadroddiad wedi'i osod i lywio'r Aelodau y prynhawn yma.
Huw Irranca-Davies: Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio, fel yr oedd y Gweinidog yn ei ddweud, rheoliadau 2013 i gynyddu rhai ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeisydd i ostyngiad o dan gynllun lleihau treth gyngor. Roedd ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys, fel y soniodd y Gweinidog, dau bwynt technegol, a diolch i'r Gweinidog am ddarparu ymateb amserol. Roedd y pwynt adrodd technegol cyntaf yn tynnu...
Huw Irranca-Davies: Llywydd, i'r rhai sy'n cadw cyfrif, ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 3 oedd ein deugeinfed adroddiad ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol yn y chweched Senedd hon.
Huw Irranca-Davies: Rydyn ni'n brysur iawn.
Huw Irranca-Davies: Felly, gyda'ch gwahoddiad chi, Dirprwy Lywydd, byddaf yn siarad yn y ddwy ddadl arall ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer dau Fil arall y prynhawn yma, rhag diflasu pawb yma yn y Siambr, ond cymaint yw'r graddau y mae Llywodraeth y DU yn cynnig ac yn wir mae Senedd y DU yn pasio deddfwriaeth bellach yn ymwneud â materion datganoledig. Nawr, rwy'n gwneud y pwynt hwn oherwydd bod...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydym wedi llunio dau adroddiad sy'n cwmpasu'r tri memorandwm cydsyniad sydd wedi'u gosod gan y Gweinidog ar y Bil hwn—cwblhawyd y cyntaf fis Hydref diwethaf, a gosodwyd yr ail brynhawn ddoe. Nid yw'r un o'n hadroddiadau’n cynnwys nifer helaeth o gasgliadau neu argymhellion, felly bydd fy sylwadau yn y ddadl hon yn fyr iawn.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, wrth groesawu'r datganiad heddiw a'i bwyslais clir iawn ar werth cymdeithasol a phartneriaeth gymdeithasol yn yr economi, a gaf i ofyn a fydd Gweinidogion y Llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r rhai ohonom—ac rwy'n tynnu sylw'r Siambr at fy aelodaeth o'r Blaid Gydweithredol a fy ngwaith yn cadeirio grŵp Cydweithredol y Senedd—yr Aelodau hynny sydd...
Huw Irranca-Davies: Diolch i Sam am gyflwyno'r cwestiwn hwn, oherwydd mae'r potensial yma yn y môr Celtaidd, wrth gwrs, i'r gorllewin, ac i holl arfordir y de hefyd, o ran gweithgynhyrchu, cadwyn gyflenwi, ac ati. Ac mae'n rhaid i ni gael y drefn gydsynio drwyadl honno hefyd, i wneud yn siŵr bod hyn yn gweithio. Ond, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog—? Mae dysgu o'r gorffennol yn bwysig yn hyn o beth. Mae...
Huw Irranca-Davies: Mae hynny'n dda iawn i'w glywed. Mae llawer mwy o waith gennym i'w wneud, rwy'n gwybod, ond roedd Ysgol Gynradd Cefn Cribwr yma heddiw a gofynnais iddynt, 'Faint ohonoch chi a wnaeth fynd ar sgwter, cerdded neu feicio i'r ysgol?' ac fe gododd naw o bob 10 eu dwylo. Mae'n wirioneddol wych i'w weld, a byddai'n wych pe gallem efelychu hynny ar draws pob ysgol gynradd. Ond oherwydd yr argyfwng...
Huw Irranca-Davies: Iawn, byddai’n well imi ddatgan buddiant yma fel hyrwyddwr yr eog, ond mae cysylltiad annatod rhwng problemau llygredd a bioamrywiaeth yn ein hafonydd, ac mae achosion llygredd yn ein hafonydd yn niferus a bydd angen nifer o ddulliau gweithredu cydgysylltiedig i ddatrys y broblem, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog am i dasglu gwella ansawdd afonydd Cymru ddatblygu'r dulliau hynny. Mae...
Huw Irranca-Davies: 1. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella bioamrywiaeth yn afonydd Cymru? OQ58924
Huw Irranca-Davies: 7. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i gynyddu teithio llesol i ysgolion a cholegau? OQ58925
Huw Irranca-Davies: A gaf i ddechrau nid yn unig drwy groesawu'r datganiad, ond gan wirioneddol groesawu'r arweinyddiaeth rydych chi, Gweinidog, a Llywodraeth Cymru wedi'i ddangos yn hyn? Roedd yn wych eich bod chi allan yna, eich bod chi nid yn unig allan yna, ond yn cymryd rhan weithredol yn y trafodaethau hynny, o safbwynt rhyngwladol, ond hefyd safbwynt domestig, ac yn dangos rhai o'r pethau fel prosiect...
Huw Irranca-Davies: Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl Ogwr?
Huw Irranca-Davies: Llongyfarchiadau diffuant i Peter ar ei gael i'r cam hwn. Nid oes hanes da i gael busnes meinciau cefn Aelodau preifat drwy'r lle hwn. Ond o ddifrif, mae llawer o waith wedi mynd i mewn i hyn. Fy nghwestiynau mewn munud, os caf eu rhestru'n gyflym iawn, yw: disgrifir hyn yn aml fel 'cyfannol', ond fel y nododd Jenny, a phe bai gennyf fwy o amser fe fyddwn i'n nodi hefyd, nid wyf yn meddwl ei...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n credu ei fod yn gweithio.