Canlyniadau 81–100 o 500 ar gyfer speaker:Lord Elis-Thomas

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth (23 Med 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: To assist our assessment of the long-term impact of Covid-19 on sport and physical activity, Sport Wales has undertaken significant research on how the pandemic has impacted participation rates, public confidence and the sport economy. This will help inform our approach as we examine the return to sport road map. 

6. Cwestiynau Amserol: Y Cyfryngau (15 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch, Jenny. Nid yw'r cyfryngau, y cyfryngau darlledu, wedi'u datganoli i ni, ac fe wyddoch fy mod i wedi cymryd y safbwynt dros y blynyddoedd nad oeddwn yn barod i weld un rhan o ddarlledu cynhyrchu diwylliannol yn cael ei datganoli, pan nad oedd modd, mewn meysydd eraill, i ni ddylanwadu arnynt. Rwy'n credu bod dau lwybr i'w dilyn yma. Rhaid cael trafodaeth ddifrifol iawn rhwng y...

6. Cwestiynau Amserol: Y Cyfryngau (15 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr am y cwestiwn yna, Rhun. Mae annibyniaeth newyddiaduraeth, yn gyntaf, yn hollbwysig, ac felly mae gen i wastad wedi bod amheuon am gyfraniad gwladwriaethol neu lywodraethol yn uniongyrchol i'r cyfryngau, oherwydd dwi ddim yn credu bod hynny'n briodol. Dwi wedi cael achos i fod yn gresynu sawl gwaith yn y gorffennol ynglŷn ag amharodrwydd cyfryngau i fod yn annibynnol oddi wrth...

6. Cwestiynau Amserol: Y Cyfryngau (15 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch, Alun. Fedraf i ddim anghytuno ag unrhyw beth sydd wedi ei ddatgan yn y cwestiwn yna. Fy ymateb cyntaf i yw dweud fy mod i wedi gofyn i swyddogion sicrhau ein bod ni'n cael cyfle i gwrdd yn fuan gyda swyddogion yr undeb newyddiadurol yn y de ac yn y gogledd, oherwydd mae cyfryngau Cymru, y papurau megis y Western Mail, papur y Daily Post yn y gogledd—mae hyn i gyd yn cael ei...

6. Cwestiynau Amserol: Y Cyfryngau (15 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Dyna ni. Fe wnes i ddad-dawelu fy hun yn gynharach, ond cefais fy ail-dawelu. Diolch yn fawr.

6. Cwestiynau Amserol: Y Cyfryngau (15 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Rydym ni'n iawn nawr. Reit. Diolch yn fawr i Alun Davies am y cwestiwn. Mae'r sector cyfryngau yn allweddol i ddemocratiaeth mewn unrhyw gymdeithas ac y mae polisi cyfryngau Llywodraeth Cymru yn cynnwys cefnogi amrywiaeth o fewn y cyfryngau er mwyn sicrhau gwybodaeth gyson i ddinasyddion, ac felly rydym ni'n gresynu am yr holl golli swyddi sydd yn bosib yn y cyfryngau yng Nghymru mewn...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith COVID-19 ar Chwaraeon ( 8 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Gaf i ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl a diolch am y cyfle i gael dadl fel hyn am chwaraeon ac effaith yr argyfwng iechyd cyhoeddus ar chwaraeon, sy'n debyg i'r ddadl a gawsom ni ar y celfyddydau? Dwi'n meddwl ei bod hi'n ardderchog bod y Cynulliad yn gallu cyfrannu fel hyn i osod agenda i'r Llywodraeth wrth i ni ymateb i'r argyfwng rydym ni ynddo fo. Helen Mary Jones,...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith COVID-19 ar Chwaraeon ( 8 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: A yw hynny'n well? Dyna ni—a yw hynny'n well?

5. Cwestiynau Amserol: Cefnogaeth i'r Celfyddydau ( 8 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Wel, bydd y drafodaeth gychwynnol ymhlith Gweinidogion yn mynd rhagddi yr wythnos hon. Rydych yn sôn am wneud cais amdano, ond nid ydym wedi penderfynu eto a fydd hyn yn rhan o gynllun sy’n bodoli eisoes, i ategu'r hyn y mae cyngor y celfyddydau wedi'i wneud, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae cyngor y celfyddydau wedi rheoli'r £7 miliwn y gwnaethom ei ddarparu iddynt cyn inni...

5. Cwestiynau Amserol: Cefnogaeth i'r Celfyddydau ( 8 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Yn sicr, gallaf ddweud wrtho’n gadarnhaol fod y cynllun Cyfuno yn un rwyf wedi’i etifeddu drwy un o fy hen ffrindiau gwleidyddol, Kay Andrews—y Farwnes Andrews—a ddyfeisiodd y cynllun, gan adrodd i Lywodraeth Cymru i’w sefydlu. A gallaf roi sicrwydd i chi y byddwn yn ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad pellach, gan ei fod yn dwyn materion cyfan ynghyd sy’n ymwneud ag...

5. Cwestiynau Amserol: Cefnogaeth i'r Celfyddydau ( 8 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr. Rydw i'n cytuno â chynnwys y cwestiwn, ond dwi ddim yn gallu cytuno i ateb yn adeiladol ynglŷn â sefydlu unrhyw fath o dasglu newydd, oherwydd dwi'n meddwl bod gennym ni y cyrff effeithiol yng Nghymru i weithredu yn y maes yma, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ond hefyd drwy lywodraeth leol. A dwi wedi cael trafodaethau'n barod—y bore yma, fel mae'n digwydd—gyda'r...

5. Cwestiynau Amserol: Cefnogaeth i'r Celfyddydau ( 8 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch am y cwestiwn yna, Siân. Mae gyda ni gronfa cadernid economaidd yn barod o fewn Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cymorth busnes sydd gyda'r mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Ond rydym ni hefyd yn ymwybodol drwy'r trafodaethau cyson gyda'r sectorau, gan gynnwys y celfyddydau a diwylliant, beth yw'r heriau tymor hir y bydd angen cymorth ychwanegol. 

5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Chwaraeon Awyr Agored ( 1 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Wel, mae gennym ni flaenoriaeth i gynyddu cyfranogiad  menywod ifanc yn enwedig mewn chwaraeon amrywiol. Rydym ni wedi cefnogi pêl-rwyd, rydym ni wedi cefnogi rygbi menywod, rydym ni wedi cefnogi pêl-droed menywod a byddaf yn sicr yn ystyried hynny yn genhadaeth yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Diolch.

5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Chwaraeon Awyr Agored ( 1 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Rwy'n fodlon ailedrych ar hyn ac, wrth gwrs, byddaf yn ei drafod â Chwaraeon Cymru, sef ein prif gyfrwng ar gyfer ein perthynas â'r gwahanol gyrff llywodraethu. A gallaf ddweud ein bod eisoes wedi cefnogi ailagor—soniais am lawntiau tenis a bowlio—cyrtiau pêl-fasged, meysydd ymarfer golff, felodromau beicio, traciau athletau a rhwydi criced. Mae'r rhain i gyd bellach yn weithgareddau...

5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Darlledu yng Nghymru ( 1 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr iawn Vikki am roi'r enghraifft yna inni. Ni welais y rhaglen benodol honno, ond yn sicr, byddaf yn sicrhau bod y bobl yn y maes cyfathrebu sy'n gweithio'n galed iawn i sicrhau bod neges Llywodraeth Cymru yn cael ei throsglwyddo'n briodol i bobl Cymru yn gallu sicrhau y caiff y neges honno hefyd ei throsglwyddo'n briodol i orsafoedd a dderbynnir yng Nghymru o'r tu allan, lle nad...

5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Chwaraeon Awyr Agored ( 1 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Gwnaf, rwy'n hapus iawn i roi rhagor o wybodaeth am chwaraeon awyr agored ac, yn wir, y datblygiadau yr ydym ni wedi'u gweld dros yr wythnosau diwethaf, lle mae'r cyfleoedd ar gyfer chwaraeon awyr agored wedi cael eu pwysleisio wrth i nifer o weithgareddau chwaraeon agor. Ac mae gennyf restr yma, os gallaf ddod o hyd iddi, o'r rheini: maen nhw'n cynnwys, yn gynyddol, y chwaraeon ar wahanol...

5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Darlledu yng Nghymru ( 1 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Mae'r cwestiwn yna yn cynhesu fy nghalon, oherwydd yn y gorffennol pell, roeddwn yn gyfarwyddwr un o'r gorsafoedd cymunedol hyn, o'r enw Champion FM, yn y gogledd, ac roedd yn orsaf radio lwyddiannus iawn, sy'n dal i weithredu. Rwyf wedi dilyn, gyda pheth pryder, yr hyn sydd wedi digwydd o ran perchenogaeth a rheolaeth rhai o'n gorsafoedd llai. A gallaf weld bod dadl gref iawn o blaid sicrhau...

5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Darlledu yng Nghymru ( 1 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Mae hwn yn fater i Ofcom, yn bendant, fel y corff rheoleiddio. Ac eto, gaf i ofyn am enghreifftiau? Bob tro rydym ni'n dod ar draws enghreifftiau fel Gweinidogion, neu fel swyddogion o'r Llywodraeth, rydym ni'n eu codi nhw'n uniongyrchol. Ond nid yng Nghymru y mae'r broblem. Mae'r broblem yn yr annealltwriaeth, mae gen i ofn, o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig, yr annealltwriaeth o ystyr ac...

5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Darlledu yng Nghymru ( 1 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr am y cwestiwn. Ac fe gaf i o hyd i'r ateb mewn dau funud. Dyma ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a gydag Ofcom yng Nghymru yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus ar faterion darlledu sy'n effeithio ar Gymru, er gwaethaf y ffaith nad yw darlledu, wrth gwrs, wedi'i ddatganoli.

5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Twristiaeth yng Ngogledd Cymru ( 1 Gor 2020)

Lord Dafydd Elis-Thomas: Rwy'n hapus i adolygu'r sefyllfa, a byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld enghreifftiau o'r busnesau sydd wedi cysylltu â chi, er mwyn i'n swyddogion allu siarad â nhw am y modd y gallwn ni ddiwallu eu hanghenion yn fwy effeithiol.


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.