Canlyniadau 81–100 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Reckless

10. & 11. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (17 Tach 2020)

Mark Reckless: Gweinidog, fe wnaethoch chi ddweud bod un gyfres unigol o reoliadau cenedlaethol yn haws i bobl eu deall ac yn cynyddu cydymffurfiad. Byddai hynny cymaint yn fwy gwir pe byddai'n un cyfres genedlaethol o reoliadau yn y DU, yn hytrach nag un yn benodol ar gyfer Cymru sydd â'r bwriad o wahanu Cymru oddi wrth Lloegr. Rydych chi'n camddefnyddio datganoli, a ddisgrifiwyd gan y Prif Weinidog fel...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru (17 Tach 2020)

Mark Reckless: Gweinidog, rydych chi'n dweud, pan newidiodd y ffeithiau, fod yn rhaid i gamau gweithredu newid hefyd, ynghylch ffordd liniaru'r M4, ond beth sydd wedi newid? Bu gwerth amgylcheddol lefelau Gwent yno ers cannoedd a miloedd o flynyddoedd. Fe wnaethoch chi sôn llawer am newid hinsawdd yn eich sylwadau nawr, ond nid oedd yr hysbysiad penderfynu 11 tudalen ar ffordd liniaru'r M4 yn sôn am...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel (17 Tach 2020)

Mark Reckless: Mae'r Gweinidog yn sôn am y ffaith bod ailgylchu dur yn ddiddiwedd a'r angen i gefnogi eich dyheadau carbon isel, ond onid yw hynny'n awgrymu defnyddio ffwrneisi arc trydanol, yn hytrach na'r dull cynhyrchu presennol gyda ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot? Onid oes tensiwn anochel rhwng datgarboneiddio'r cyflenwad trydan, gan gynnwys dulliau o atal defnyddio ffyrdd rhatach o gynhyrchu trydan,...

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog (11 Tach 2020)

Mark Reckless: Mae'r Aelodau'n aml yn dechrau cyfraniad drwy ddiolch neu longyfarch yr Aelod sydd wedi gwneud y cynnig i'w drafod. Yn y modd hwnnw, diolch i Mark Isherwood fel y sawl a gyflwynodd y cynnig, a Darren Millar am ei osod. Fodd bynnag, hoffwn fynd y tu hwnt i'r fformiwla safonol honno heddiw i gydnabod y gwaith sylweddol iawn y mae Darren Millar wedi'i wneud dros flynyddoedd lawer mewn nifer o...

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ymdrin â chymwysterau yn 2021 (10 Tach 2020)

Mark Reckless: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fe allwch chi honni'r ansawdd hwnnw, ond penderfyniad prifysgolion yw derbyn hynny neu ddod i'w casgliad eu hunain a allai fod yn wahanol, ac, yn yr un modd, cyflogwyr. Fe wnaethoch chi ddweud mai'r hyn yr ydych chi wedi'i wneud yw sicrhau cysondeb cenedlaethol, felly bydd A yn Llandudno yn golygu'r un peth ag A yng Nghaerdydd, ond ni fydd yn golygu bod A yn...

12. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ( 3 Tach 2020)

Mark Reckless: Diolch, Llywydd. A gaf i egluro—rwy'n credu bod fy meicroffon ymlaen?

12. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ( 3 Tach 2020)

Mark Reckless: Diolch am gyflwyno'r ddadl heddiw, Gweinidog. Byddai wedi bod yn well gen i pe byddem ni wedi gallu pleidleisio ar y rheoliadau hyn cyn iddyn nhw ddod i rym, fel y mae Senedd San Steffan yn cael y cyfle i'w wneud dros Loegr yfory. O leiaf ein bod ni'n pleidleisio arnyn nhw cyn i'r cyfnod atal byr ddod i ben, sydd o leiaf yn welliant ar rai o'r amseriadau yr ydym ni wedi eu cael o'r blaen....

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Mesurau Diogelu Iechyd ar ôl y Cyfnod Atal Byr ( 3 Tach 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, a yw pandemig y coronafeirws wedi cyflymu'r gwaith o adeiladu gwladwriaeth Gymreig? Cyn iddo ddechrau, nid oedd gan lawer yng Nghymru fawr o syniad o'r grym a oedd gennych chi drostyn nhw. Yn wir, doedd llawer ddim yn gwybod pwy oeddech chi. Nawr cewch eich taflunio i mewn i'w hystafell fyw a byddwch yn penderfynu pryd y gallant adael eu tŷ. Yn y cyfamser, mae ffin a oedd gynt...

11. Dadl: Coronafeirws (20 Hyd 2020)

Mark Reckless: Mae obsesiwn Llywodraeth Cymru gyda'r ymgais i'n gwneud ni'n wahanol i Loegr yn ymestyn i'r hyn y mae'n ei alw y cyfyngiadau symud diweddaraf hyd yn oed. Ar ôl wythnosau o drafod ynghylch rhinweddau neu ddiffygion cyfnod clo llym i atal lledaenu, mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ei bod yn cefnogi'r fath gyfnod o gyfyngiadau, ond oherwydd ein bod ni yng Nghymru, mae'n rhaid i ni ei alw'n...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb (14 Hyd 2020)

Mark Reckless: Diolch i Nick Ramsay am ei araith ac i'r Cadeirydd am ei gyflwyniad. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cael yr adroddiad hwn fel Pwyllgor Cyllid, ac roeddwn yn teimlo fod cymryd y dystiolaeth ac ystyried a holi'r tystion a gawsom yn werthfawr iawn. Fel Nick Ramsay, hoffwn ddiolch i Alun Davies am wthio'r syniad hwn. Nid wyf yn cytuno'n aml ag Alun ar faterion, ond rwy'n meddwl o leiaf mewn...

7. & 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (13 Hyd 2020)

Mark Reckless: Mae Rhun ap Iorwerth yn y fan yna yn sôn am wneud cylch penodol yn sgwâr, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf i, y galw yw bod Lloegr yn gwneud yr un peth gydag ardaloedd risg uchel yn Lloegr ag y mae'r ddeddfwriaeth yn ei wneud yng Nghymru, ac eto mae Plaid Cymru yn ymatal ar y ddeddfwriaeth i roi'r pedair sir hyn yn y gogledd dan gyfyngiadau symud. Maen nhw'n mynnu y dylai Llywodraeth y DU, drwy...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (13 Hyd 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, rydych chi'n sôn am barchu datganoli a'ch bod chi eisiau Teyrnas Unedig gref ond yn mynnu wedyn bod yn rhaid i Loegr wneud yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yng Nghymru, neu gwae chi. Nawr, mae gennych chi'r polisi hwn o atal unrhyw un rhag croesi ardal cyngor, fel yr ydych chi'n ei ddiffinio, mae hwn gennych chi gyda grym y gyfraith, ond y gwir amdani, yn sgil syrffed â'r...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (13 Hyd 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, ni fu unrhyw wahaniaeth rhwng sut yr ydych chi ac Adam Price yn siarad am y mater hwn. Yn wir, mae'n ymddangos erbyn hyn mai prin yw'r gwahaniaeth rhwng eich Llywodraeth chi a Phlaid Cymru. Mae llawer yn ofni ein bod ni'n cerdded yn ein cwsg tuag at annibyniaeth. Ddoe, fe wnaethoch chi geisio cyflwyno wltimatwm i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig. Heddiw, roeddech chi ar draws...

QNR: Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ( 7 Hyd 2020)

Mark Reckless: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch a yw Bil Marchnad Fewnol y DU wedi cryfhau safbwynt negodi'r DU gyda'r UE?

6., 7., 8. & 9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020 ( 6 Hyd 2020)

Mark Reckless: Wel, Gweinidog, rydych chi'n sicr yn gwybod sut i ysgogi gwrthwynebiad, onid ydych chi? Rwy'n cofio'r gyfres gyntaf o brif reoliadau coronafeirws, a phleidleisio yn erbyn y rheini. Rwy'n credu mai dim ond tri neu bedwar ohonom ni oedd bryd hynny. Yr wythnos diwethaf, roedd saith neu wyth yn gwrthwynebu, a'r wythnos hon mae gennych chi'r brif wrthblaid yn dweud y byddan nhw'n pleidleisio yn...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad ar effeithiau cyllidol COVID-19 a'r rhagolygon ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol ( 6 Hyd 2020)

Mark Reckless: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Fe'm calonogwyd pan welais y teitl, 'Diweddariad ar effeithiau cyllidol COVID-19'. Rwyf wedi bod yn pwyso arni am rywbeth tebyg i hynny ers cryn amser. Rhaid imi ddweud fy mod braidd yn siomedig yn y cynnwys. Roeddwn wedi gobeithio y gallem roi amcangyfrifon neu ddiweddariadau am yr effaith, er enghraifft, ar dreth trafodion tir yn sgil y cyfyngiadau ar y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 6 Hyd 2020)

Mark Reckless: Felly, ar gyfer y busnesau annibynnol hynny sy'n gwasanaethu cymudwyr, 'Anlwcus.' Prif Weinidog, pan fydd Llywodraeth y DU yn awgrymu y gallai dalu am ffordd liniaru'r M4, prosiect a addawyd gennych chi ond a ddywedasoch yn ddiweddarach na allech chi ei fforddio, rydych chi a'ch cyd-Aelodau yn ymateb fel pe byddai'n ymosodiad ar ddatganoli, ond prin yw'r arwyddion yr ydych chi'n eu dangos...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 6 Hyd 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, a gaf i eich rhybuddio rhag dweud bod pobl yn warthus dim ond oherwydd bod ganddyn nhw—Aelodau Ceidwadol yn y gogledd yn yr achos hwn—wahanol safbwynt ar gyfyngiadau coronafeirws i'r un sydd gennych chi ac sy'n gofyn cwestiynau am hynny? Mae gan eich Llywodraeth uchelgais hirdymor penodol o 30 y cant yn gweithio gartref yng Nghymru, hyd yn oed ar ôl y pandemig. Rydych...

3., 4., 5. & 6. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (29 Med 2020)

Mark Reckless: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwy'n rhannu siom Andrew R.T. ei fod wedi penderfynu mentro i'w swyddfa ym Mharc Cathays; mae wedi mynd ychydig ymhellach o'i gartref i gyrraedd yno nag y byddai i ddod i'r Senedd. Er hynny, rwy'n gwerthfawrogi ein bod ychydig yn llai ar ei hol hi wrth wneud y rheoliadau hyn na rhai o'r lleill yr ydym ni wedi'u gwneud o'r blaen. Ein bwriad ni yw...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (29 Med 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi'n gweithio o'ch swyddfa gan ei bod yn rhesymol ymarferol gwneud hynny, ond onid yw'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi weithio gartref os yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny? Ac o ystyried ei bod hi yr un mor bosibl cymryd rhan o bell ac yn gorfforol, onid yw hynny'n wir? Ac eto rydych chi'n dewis peidio â dod i'r Siambr, yn union fel y...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.