Baroness Mair Eluned Morgan: Dim ond i fynd yn ôl at bwynt Russell yn gynharach o ran pam nad oedd modd i ni gael ein cynnwys yn y Ddeddf Iechyd a Gofal gyntaf, y pwynt yna yw bod cwmpas y Ddeddf Iechyd a Gofal ar gyfer Lloegr, felly dyna pam roedd hi'n anodd i ni ddweud—. Roedd yn ymwneud â chwmpas y Ddeddf ei hun, a oedd yn golygu ei bod hi'n anodd i ni ymuno â hi. Roedd hi wedi'i chymhwyso ar gyfer Lloegr yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Dwi yn meddwl bod yn rhaid inni gadw golwg ar beth sy’n digwydd, ac mae’n rhaid inni gofio, dwi’n meddwl, bod hwn yn Fil hynod o fyr. Felly, beth dŷn ni’n sôn am yw fframwaith, a beth fydd yn bwysig yw beth sy’n mynd mewn i'r fframwaith, a dyna pam beth sy’n bwysig yw y byddwn ni’n cael cyfle i ddod yn ôl i drafod y manylion sydd yn mynd i mewn i'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Mae llawer o gwestiynau yn y fan yna. Os ydw i'n onest, nid dyma'r Bil mwyaf cyffrous y gwelodd y Senedd hon erioed. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yw ymateb i'r ffaith mai'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr yw eu bod wedi cyflwyno'r Bil newydd hwn a fydd yn caniatáu i rai sefydliadau, efallai, beidio â gorfod ail-dendro. Weithiau mae hynny'n cymryd llawer o egni, ymdrech a...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'r Bil drafft yn ceisio cyflwyno dau bŵer i wneud rheoliadau. Yn gyntaf, bydd yn cynnwys pŵer datgymhwyso, disapplication. Bydd hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod darpariaethau Deddf caffael Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amherthnasol i gaffael gwasanaethau iechyd yr NHS yng Nghymru. Yn ail, bydd yn cynnwys pŵer creu i alluogi Gweinidogion Cymru i ddatblygu a gweithredu...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i wneud datganiad ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), a gyflwynais i'r Senedd ddoe, ynghyd â'r memorandwm esboniadol ac asesiad effaith rheoleiddiol. Mae'r Bil yn ceisio diwygio'r ffordd y mae rhai gwasanaethau gofal iechyd y GIG yn cael eu caffael yng Nghymru, gan gyflwyno pwerau deddfu sylfaenol a galluogi Gweinidogion...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae un o'r prif glefydau sy'n effeitihio'r boblogaeth yng Nghymru, sef canser, hefyd wedi cael llwyddiant ymchwil allweddol. Recriwtiodd ein hymchwilwyr dros 1,000 o gyfranogwyr i'r astudiaeth SYMPLIFY—prosiect hollbwysig oedd yn gwerthuso prawf canfod cynnar aml-ganser newydd, sy'n gallu canfod dros 50 math o ganser. Yn ogystal, mae treial clinigol canser y frest, o'r enw FAKTION, sydd...
Baroness Mair Eluned Morgan: Yn olaf, rwyf am sôn bod cyfranogiad cryf gan y cyhoedd wrth gynllunio a darparu ymchwil yn gwella ansawdd a pherthnasedd ymchwil, gan helpu i sicrhau bod ymchwil yn darparu budd i'r cyhoedd ac yn mynd i'r afael ag anghenion y cyhoedd, ac mae hyn yn rhywbeth y gwn ei fod yn ganolog i weithgareddau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Diolch yn fawr.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Yn gyntaf, dwi eisiau diolch i Russell George am ddod a'r mater pwysig yma i'r Siambr.
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'r dirwedd ymchwil feddygol yn eang, o ariannu ymchwil labordy cyn-glinigol i'r ymchwil glinigol fwy cymhwysol sy'n digwydd yn y GIG. Mae fy nghyfrifoldebau yn canolbwyntio ar ymchwil feddygol fwy cymhwysol, sydd, yn fy marn i, yn gwneud cyfraniad hanfodol i drin, datblygu a gwerthuso, i drefnu a darparu gwasanaethau, ac yn hollbwysig, i ganlyniadau cleifion. Rwy'n ymwybodol o waith y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Fe wneuthum gynnal trafodaethau anffurfiol iawn gydag ysgrifennydd cyffredinol Unite a oedd yn digwydd bod yng Nghymru ar y penwythnos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn pwysleisio mai trafodaethau anffurfiol oedd y rhain gan fod Unite, drwy beidio â rhoi'r gorau i'w gweithredu diwydiannol, wedi eithrio eu hunain nawr o'r bwrdd trafod. Felly, popeth sydd wedi cael...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Ni fu hwn yn gynnig hawdd i'w negodi, a'r hyn y llwyddasom i'w wneud yw cael sefyllfa lle, ar ben y £1,400, sef yr argymhelliad gan y corff adolygu cyflogau annibynnol, rydym wedi dod o hyd i 3 y cant ychwanegol nawr—1.5 y cant ohono'n gyflog cyfunedig a 1.5 y cant yn anghyfunol. A'r hyn y mae hynny'n ei olygu'n ymarferol yw, os na chaiff y pecyn hwn ei dderbyn—ac rwy'n...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Ac fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn trafod yn ddiwyd iawn dros gyfnod hir iawn, trafodaethau dwys iawn, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod i gasgliad nos Iau. Cafodd hwnnw ei roi, yn sicr i'r swyddogion o fewn yr undebau hynny, ac mae'r mwyafrif llethol ohonynt, rwy'n falch iawn o ddweud, wedi dod a'u gweithredu diwydiannol i ben, ac nid yw hynny'n beth bach—ac...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Yn llythrennol, mae datganiad ysgrifenedig newydd gael ei gyhoeddi ar y pwnc hwn, ond rwy'n fwy na pharod i nodi rhai agweddau ar y cynnig i weithwyr y GIG er mwyn osgoi gweithredu diwydiannol, os yw hynny'n ddefnyddiol.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, rydych chi'n iawn, ac rwy'n credu fod yn rhaid i ni geisio dysgu yn barhaus o'r hyn sy'n gweithio. Felly, er enghraifft, rydym ni bellach yn targedu sgrinio o ran canser y coluddyn, ac anfonir prawf imiwnocemegol ar ysgarthion i bobl, ac mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld ei bod yn ymddangos bod pobl yn fwy parod i ddefnyddio'r prawf FIT y gallan nhw ei wneud...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i geisio gwella ein systemau. Dyna pam rydym ni eisoes wedi gwario £86 miliwn ar y peiriannau radiotherapi newydd hyn; dyna pam rydym ni wedi gwario £3 miliwn ar system cofnodion electronig; ac mae gennym ni hefyd dechnoleg llawfeddygaeth robot newydd eisoes yn weithredol ac yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, wrth gwrs, mae llawer o ymgyrchoedd sydd eisoes ar y gweill o ran canserau y mae'n fwy anodd eu goroesi gan rai o'r sefydliadau hynny. Yr hyn nad wyf i'n mynd i'w wneud yw—. Rwyf i newydd gyhoeddi cynllun; dydyn ni ddim yn mynd i ddechrau ychwanegu pethau newydd at y cynllun. Datblygwyd hwn gan bobl, gweithiwyd arno gan sefydliadau ledled Cymru, gan y GIG. Felly,...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol bod un o bob dau berson yn debygol o gael canser, ac felly mae canser yn effeithio arnom bob un ohonom ni mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Ac felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i gael gwell dealltwriaeth. Bob dydd, ceir datblygiadau newydd, technolegau newydd a gwelliannau genetig newydd. Felly, rwy'n gobeithio y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Dwi’n meddwl bod lot o bobl, yn anffodus, yn ffeindio mas bod canser gyda nhw wrth iddyn nhw fynd i’r emergency departments—dyw’r symptomau ddim yn dangos tan y funud olaf, ac mae hwnna’n amlwg yn rhywbeth sydd yn anodd iawn iddyn nhw. Rhan o beth rŷn ni’n sôn amdano yn y cynllun yma yw gwneud yn siŵr bod yna acute oncology services ar gael yn ein hunedau brys...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n falch eich bod yn cytuno ei fod yn beth da bod gennym ddyddiadau a nodau a thargedau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig dwyn pobl i gyfrif; rydych yn fy nwyn i gyfrif, rydw i'n dwyn y byrddau iechyd i gyfrif. Felly, mae'n bwysig cynnwys hynny, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n nodi bod gan y cynllun gweithredu gweithlu sydd wedi'i gyhoeddi heddiw dargedau clir iawn o...
Baroness Mair Eluned Morgan: Fe wnaethon ni ofyn hefyd am ffocws ar weithredu'r 21 o lwybrau sydd wedi eu cytuno'n genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae hynny'n sylfaenol i'r ffordd y byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gofal iawn lle bynnag y maen nhw yng Nghymru. Mae'r llwybrau sydd wedi'u safoni yn ein helpu ni i ganolbwyntio ar wella cysondeb ac ansawdd y gofal, ac maen nhw'n cynnwys y llwybr symptomau...