Canlyniadau 81–100 o 500 ar gyfer speaker:Jane Dodds

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (10 Ion 2023)

Jane Dodds: Dim ond i godi cywilydd arnoch chi. [Chwerthin.] A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r mesurau sy'n cael eu cymryd i leihau llygredd yn Afon Gwy, a beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar alw i mewn penderfyniadau ar unedau dofednod dwys? Fel un o drigolion Y Gelli Gandryll, fel y gwyddoch chi, rwy'n angerddol iawn am yr afon, ac rwy'n gwybod bod llawer o bobl...

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-24 (13 Rha 2022)

Jane Dodds: Rwy'n cytuno ag asesiad Adam Price o'ch swydd, Gweinidog. Yn sicr, dyma'r swydd olaf yn y byd y byddwn i eisiau ei gwneud, ac rwy'n diolch o galon am eich gwaith ac ymgysylltiad chi a'ch swyddogion hefyd, yn sicr â mi: diolch yn fawr. Mae'n teimlo, yn y dadleuon hyn, fel ei bod bob amser yn demtasiwn i wneud rhestr hir o bethau yr ydym eu heisiau, ac rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (13 Rha 2022)

Jane Dodds: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau deintyddol y GIG ar gyfer plant a phobl ifanc?

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant ( 7 Rha 2022)

Jane Dodds: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant ( 7 Rha 2022)

Jane Dodds: Mae'n ddrwg gennyf. Diolch yn fawr iawn. Onid yw'n wir fodd bynnag nad oes adolygiad wedi bod yng Nghymru o wasanaethau amddiffyn plant? Rwy'n clywed bod adolygiadau wedi bod o blant sy'n derbyn gofal ac o blant â phrofiad o fod mewn gofal, ond yr hyn rydym yn siarad amdano yma yw adolygiad o wasanaethau amddiffyn plant. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf pryd y cafwyd adolygiad o wasanaethau...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant ( 7 Rha 2022)

Jane Dodds: Mae llawer ohonoch yn gwybod fy mod wedi gweithio ym maes amddiffyn plant am oddeutu 25 mlynedd, ac fe wnes i weithio yn ystod y cyfnod COVID. A hoffwn fod yn glir, o fy narlleniad i o'r adroddiad ar Logan Mwangi, ni allaf weld unrhyw reswm y byddai'r cyfyngiadau COVID ar y pryd wedi cael—o ran gallu achub ei fywyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn cofnodi hynny, gan ei bod yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ( 7 Rha 2022)

Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, ac a gaf fi ddiolch am eich ymrwymiad, ac ymrwymiad eich tîm, i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol, ac i ymchwilio i hyn? Hoffwn grybwyll ffaith arall hefyd yma yn y Senedd: dysgais yr wythnos diwethaf fod tri o bob pedwar o'r ceisiadau sydd ar y gweill i ymestyn cloddio am lo yn y Deyrnas Unedig yma yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid inni symud yn gyflym...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ( 7 Rha 2022)

Jane Dodds: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd ers i'r Senedd basio cynnig ym mis Gorffennaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu cynllun peilot incwm sylfaenol ymhlith gweithwyr mewn diwydiant trwm fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon? OQ58839

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Jane Dodds: Er ei bod yn demtasiwn i mi ychwanegu at y cwestiwn hwnnw gan Altaf Hussain—diolch o galon—rwy'n canolbwyntio ar rywbeth arall heddiw, a phrynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y bleidlais ar streic gan weithwyr gwasanaeth ambiwlans Cymru? Rydym ni'n gwybod nad oes neb yn streicio'n ddi-hid, yn enwedig y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Iechyd Preifat ( 6 Rha 2022)

Jane Dodds: Prynhawn da, Prif Weinidog. Un maes lle nad oes gan bobl ddewis o ran a ydyn nhw'n mynd yn breifat ai peidio yw triniaeth ddeintyddol. Mae cael gafael ar ddeintydd yng Nghymru, yn enwedig mewn ardal wledig fel y mae nifer ohonom ni'n ei chynrychioli yma, bron yn amhosibl. Mae deintyddion bellach yn dewis troi'n breifat. Nawr, er ein bod ni erioed, fel oedolion, wedi talu rhywbeth tuag at ein...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 6 Rha 2022)

Jane Dodds: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar echdynnu glo yng Nghymru?

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru (30 Tach 2022)

Jane Dodds: Mae'r mater hwn yn cymell cymaint o emosiynau, onid yw? Mae llawer ohonom yn adnabod pobl yr effeithiwyd arnynt, mae llawer ohonom wedi cyfarfod â phobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cofio bod hyn yn dal i fod yno i lawer o'r teuluoedd sy'n dal i fyw gyda'r golled a'r boen. Ac nid wyf yn dweud y bydd y cynnig hwn nac ymchwiliad yn Llundain yn cael...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid — 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE' (30 Tach 2022)

Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn i Peredur a'r Aelodau eraill hefyd.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid — 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE' (30 Tach 2022)

Jane Dodds: Mae gwrthwynebiad fy mhlaid i Brexit yn hysbys iawn. Mae Brexit wedi cael effaith ar ein safle yn y byd, ar ein gallu i deithio'n rhydd, ac yn bwysig, ar ein heconomi. Rwy'n tybio y gallem fod yn ennill y ddadl economaidd mewn gwirionedd, oherwydd yng ngoleuni'r argyfwng costau byw, fel y gall pawb ei weld, rydym yn debygol o fod yn waeth ein byd nag y byddem wedi bod pe baem wedi parhau i...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid — 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE' (30 Tach 2022)

Jane Dodds: Ie, diolch yn fawr i'r Pwyllgor Cyllid am gyflwyno'r adroddiad hwn. Mae'n fanwl iawn ac mae'n glir iawn.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Dyfodol Hyfyw i Ffermio (30 Tach 2022)

Jane Dodds: Prynhawn da, Weinidog. Roeddwn yn awyddus i ddilyn cwestiwn Peredur, yn enwedig ynghylch ffermwyr sy'n ffermio ar dir comin. Ddydd Llun, roeddem yn y ffair aeaf—roedd llawer ohonom ni yno—ac fe gyfarfuom â ffermwyr, Gary Williams o sir Gâr, a Guto Davies o Glwyd, sydd ill dau yn ffermio ar dir comin. Roedd yn ddiddorol iawn clywed rhai o'r heriau a wynebant, heriau y byddwch chi'n...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Logan Mwangi (29 Tach 2022)

Jane Dodds: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwybod pa mor ymrwymedig yr ydych chi i'r maes hwn, ond, ddydd Iau diwethaf, roedd Cymru yn y penawdau cenedlaethol am y rhesymau anghywir, oherwydd roedden ni wedi siomi bachgen bach. Logan Mwangi, fel clywsom ni—a gadewch i ni ei alw o'n Logan Mwangi, oherwydd ni wnaeth yr adroddiad hynny; roedd yr adroddiad yn cyfeirio ato fel 'Plentyn T' trwy'r amser....

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Tach 2022)

Jane Dodds: Prynhawn da, Trefnydd. Rwyf i hefyd eisiau cefnogi'r datganiadau a wnaed gan fy nghyd-Aelod Heledd, a gan Jenny hefyd, o ran hawliau dynol ledled y byd. A gan unwaith eto, ystyried Qatar, tybed a gawn ni ddatganiad ynghylch sut y cododd y Prif Weinidog faterion hawliau dynol gyda'r bobl y gwnaeth ef gyfarfod â nhw. Mae'n rhywbeth y gwnaeth ef ymrwymo iddo ac fe ddywedodd y byddai'n codi'r...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dyfodol Neuadd Dewi Sant (29 Tach 2022)

Jane Dodds: Prynhawn da, Prif Weinidog. Nid wyf yn byw yng Nghaerdydd, ond, fel plentyn a pherson ifanc yn byw ac wedi fy magu yn y gogledd, bues i mewn sawl cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, a rhai o'r rheiny, mae'n rhaid i mi ddweud, ar fy mhen fy hun, gan nad oeddwn i'n aml yn gallu dod o hyd i rywun i ddod gyda mi i rai o'r digwyddiadau hynny. Ni wnaf roi'r rhestr o'r cyngherddau hynny yr es i iddyn nhw,...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (29 Tach 2022)

Jane Dodds: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau masnach y mae wedi cymryd rhan ynddynt tra yn Qatar?


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.