Alun Davies: Nid wyf yn gwadu dim; nid oes angen i mi. Methiant rwy'n ei ddisgrifio. Nid yw'n ymwneud â gwariant; mae'n ymwneud â chyflawni amcanion polisi, a dyna lle mae'r methiant. Ac nid oes angen ichi amddiffyn popeth y mae'r DU yn ei wneud. Weithiau, mae'n methu, ac mae hon yn enghraifft o fethiant, ac nid methiant y Llywodraeth yn unig ydyw, fel rwyf wedi'i ddweud wrthych—mae'n fethiant ar ran...
Alun Davies: Fel eraill, hoffwn innau ddiolch i’r pwyllgor am yr adroddiad hwn ac am yr ymchwiliad byr hwn. Roeddwn yn meddwl bod y pwyntiau a wnaeth Cadeirydd y pwyllgor wrth agor y ddadl hon yn rhai da a'u bod wedi sefydlu grŵp clir iawn o ganfyddiadau rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb iddynt. Ond y gwir amdani yw bod angen i Lywodraeth y DU ymateb i hyn hefyd. Ac rwy’n cymryd rhan yn y...
Alun Davies: Mae'n swyddogaeth nad yw wedi'i datganoli.
Alun Davies: Mae'n swyddogaeth nad yw wedi'i datganoli; [Anghlywadwy.]—gwariwch arian arni.
Alun Davies: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Alun Davies: Rwy'n gwrando gyda chryn ddiddordeb ar eich cyfraniad. Mae'r niferoedd rydych yn eu darllen yn dystiolaeth o fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni'r hyn sy'n fater a gedwir yn ôl. A wnewch chi ymuno â ni i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddweud wrth Lywodraeth y DU ei bod yn bryd iddynt dynnu eu bys allan a chofio bod Cymru'n rhan o’r DU hon, a’n bod yn haeddu’r un...
Alun Davies: Lywydd, mae angen pwynt o drefn.
Alun Davies: Pan fo Aelodau ofn eistedd yn y Siambr hon—
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb cynharach hwnnw. Mae'n sicr yn wir fod pobl eisiau'r lefel honno o sicrwydd y bydd ambiwlans ar gael pe baent hwy, neu aelod o'u teulu, yn mynd yn ddifrifol sâl ac angen ambiwlans. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n gallu darparu'r lefel hwnnw o hyder i bobl. Ac mae pobl yn sôn wrthyf am yr amseroedd aros, ond hefyd am strwythur y gwasanaeth i...
Alun Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlans ym Mlaenau Gwent? OQ58699
Alun Davies: —mi fyddwn ni ddim jest yn newid polisi'r iaith, ddim jest yn newid y Llywodraeth, ond mi fyddwn ni hefyd yn newid Cymru.
Alun Davies: Fel eraill, liciwn i ddechrau fy nghyfraniad i y prynhawn yma drwy dalu teyrnged i Aled Roberts. Mi wnes i wasanaethu fan hyn gydag Aled, a dwi'n cofio gweld ei wyneb draw fan yna ble roedd e'n eistedd ac yn gwenu ar draws y Siambr. Beth bynnag oedd pobl yn ei ddweud, roedd gwên ar wyneb Aled ac roedd wastad gair gwresog yn yr ystafell de ar ôl unrhyw drafodaeth. Roedd hi'n bleser...
Alun Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent?
Alun Davies: Petrusaf cyn ymhelaethu ar unrhyw faterion yn y fforwm hwn, ond rwy’n ddiolchgar. Credaf ei bod yn iawn fod James Evans wedi diolch i aelodau eraill y pwyllgor. Hoffwn ychwanegu Rhys ab Owen at hynny, ac wrth gwrs, Aelodau eraill sydd wedi eistedd yn y lle hwn—mae Jayne Bryant a Peter Fox hefyd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor. Rwyf am ddiolch hefyd wrth gwrs nid yn unig i'r Cadeirydd,...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am hynny. Lywydd, rwyf am i chi dynnu'r cyfrifiaduron gwrthun hyn sydd wedi'u gosod o'n blaenau. Maent yn gwbl amhriodol ar gyfer Siambr drafod; fe'u cynlluniwyd ar adeg cyn bod gennym iPads a chyn inni fod â gallu i gyfathrebu yn y ffordd y gallwn. Mae'n ymateb ugeinfed ganrif i angen nad yw'n bodoli yn yr unfed ganrif ar hugain. Dylai hon fod yn Siambr drafod...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am hynny. Rwy'n falch o glywed ei bwynt olaf. Dyma ddeddfwriaeth bwdr a di-fudd sydd, drwy ei chyflwyno, wedi deifio enw da'r Deyrnas Unedig mewn cynghorau ar draws y byd. Mae wedi niweidio ein perthynas â'r UE ac wedi dangos bod Llywodraeth y DU ei hun yn barod i dorri cyfraith a chytundebau rhyngwladol yr ymrwymodd iddynt o'i gwirfodd ar ôl twyllo...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw. Bil llafur gorfodol ydyw, wrth gwrs. Mae'n amddifadu pobl o ryddid ac yn gwadu eu hawliau, a byddwn yn dadlau ei fod yn gweithredu mewn ffordd sy'n anghydnaws â'n disgwyliadau a'n gwerthoedd mewn cymdeithas rydd ac agored a democrataidd. Mae hefyd yn groes i'r gwerthoedd rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr yn sicr, wedi eu...
Alun Davies: 5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn ag effaith y Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) ar y setliad datganoli? OQ58668
Alun Davies: 8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU am effaith Bil Protocol Gogledd Iwerddon ar gyfansoddiad y DU? OQ58670
Alun Davies: 3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu TGCh ar gyfer Aelodau yn y Siambr? OQ58669