Rebecca Evans: Diolch. Hoffwn ddiolch i'r cyd-Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw, ac mae'r cyd-Aelodau wedi'i gwneud hi'n glir iawn ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith y mae swyddogion yr heddlu yn ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru yn fawr iawn, ac rydw i'n rhannu'r pryderon hynny a godwyd ynghylch morâl ymysg swyddogion yr heddlu ar hyn o bryd. Ond, yma yng Nghymru, maen nhw'n rhan gwbl...
Rebecca Evans: Diolch. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, i'w gymeradwyo, manylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid refeniw craidd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar gyfer 2023-24. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r heddlu am eu gwaith yn ein cymunedau. Er bod dadl hanfodol, barhaus am y lleiafrif o swyddogion heddlu nad ydynt wedi cyrraedd y safonau uchel y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl...
Rebecca Evans: Fe ildiaf wedi imi orffen fy mrawddeg.
Rebecca Evans: Rwy'n cydnabod hynny, ac wrth gwrs fe welwch ein bod hefyd yn disgwyl refeniw net ychwanegol yma yng Nghymru o ganlyniad i'r addasiad i'r grant bloc. Yn syml, mae'n bwysig ac yn gyfrifol i ystyried y risgiau cyn ceisio datganoli pwerau ymhellach, ac wrth gwrs mae angen gweld hynny i gyd o fewn cyd-destun ein blaenoriaethau polisi treth strategol, ac wrth gwrs dyfodol Cymru o fewn y Deyrnas...
Rebecca Evans: Byddwn yn hapus i archwilio'r cwestiwn rhwng Awstria a'r Almaen. Carwn awgrymu bod y sefyllfa ychydig yn wahanol yma yng Nghymru, o ystyried y ffaith ein bod yn siarad am wahanol gyfraddau treth sy'n gweithredu o fewn y Deyrnas Unedig, ac fe ddof at y pwynt hwnnw pan edrychwn ar brofiad yr Alban yn fuan iawn hefyd. Mike. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Rebecca Evans: Ie, a byddai honno'n un arall o'r heriau hynny, ac unwaith eto fe ddof at brofiad yr Alban hefyd. Os caf orffen yr hyn roeddwn yn ei ddweud mewn perthynas â'r bandiau uwch, mae twf mewn refeniw ar gyfer y ddau fand yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol o flwyddyn i flwyddyn na refeniw cyfraddau sylfaenol, ac maent yn amrywio mwy rhwng rhannau o'r Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n effeithio ar...
Rebecca Evans: Wrth gwrs.
Rebecca Evans: Mae hynny wedi'i nodi mewn deddfwriaeth ac mewn canllawiau; rydym yn defnyddio'r un math o beth ar gyfer y dreth gyngor hefyd. Felly, yn amlwg, mae swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi mewn cysylltiad cyson, gyda Thrysorlys Cymru a swyddogion cyllid llywodraeth leol hefyd. Felly, rwy'n credu bod gennym ddealltwriaeth gyffredin o beth fyddai prif gartref. Ac...
Rebecca Evans: Wrth gwrs.
Rebecca Evans: Rwy'n bendant yn mynd i ddod at y pwyntiau yn y cynnig sy'n ymwneud â'r cyfraddau a'r bandiau ac yn y blaen, ond roeddwn am ychwanegu bod yna gryn ansicrwydd ynghylch effaith codi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol. Ac mae'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer unrhyw effaith ymddygiadol a allai ddigwydd mewn perthynas ag unrhyw gynnydd sylweddol i drethdalwyr uwch neu ychwanegol yn ansicr, oherwydd fe...
Rebecca Evans: Diolch, Lywydd. Wel, mae hon wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn y prynhawn yma, ac rwy'n cytuno'n llwyr â Mike Hedges ei bod yn dda iawn ein bod yn siarad am dreth mewn ffordd fwy agored ac ymchwiliol sydd ychydig y tu allan i'n proses arferol o osod y gyllideb. Felly, hir y parhaed hynny. Ac fe ddywedodd Adam Price ar y dechrau ei fod yn ofni y gallai gael ei gweld fel dadl braidd sych, ond...
Rebecca Evans: Yn ffurfiol.
Rebecca Evans: Wrth gwrs, mae ein cyllideb gyfalaf yn gostwng 8 y cant mewn termau real yn y flwyddyn ariannol nesaf, felly mae clywed am syniadau ychwanegol o'r meinciau Ceidwadol ynglŷn â sut y gallem fod yn gwario cyfalaf yn anodd ei lyncu pan nad oedd yr un geiniog ychwanegol o gyfalaf yn dod yn natganiad yr hydref. Wrth gwrs, mae gan y Canghellor gyfle i unioni hynny yn natganiad y gwanwyn, ac...
Rebecca Evans: Diolch, a diolch i'r holl gyd-Aelodau am yr hyn sydd wedi bod yn ddadl ddefnyddiol iawn, yn fy marn i. Rydyn ni wedi clywed cymaint o flaenoriaethau gwahanol yn cael eu cyflwyno: deintyddiaeth, diogelwch adeiladau, chwe blaenoriaeth y Gweinidog Iechyd ar gyfer iechyd, y lwfans cynhaliaeth addysg, gweithlu gofal cymdeithasol, priffyrdd, ynni adnewyddadwy, cymorth i'r rhai sy'n gadael gofal, y...
Rebecca Evans: Diolch. Rwy'n falch o agor y drafodaeth y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Ers i ni gael cyfle i drafod y gyllideb ddrafft am y tro cyntaf yn y Senedd ar 13 Rhagfyr, mae pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn brysur yn craffu ar ein cynlluniau gwariant. Rwy'n croesawu'r sesiynau adeiladol iawn a gefais gyda'r Pwyllgor Cyllid a'r rhai a gafodd fy nghyd-Weinidogion...
Rebecca Evans: Fe wnaf fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r ddau bwyllgor am eu gwaith. Rwy'n credu bod y pwyntiau pwysig y mae'r ddau gadeirydd wedi'u gwneud y prynhawn yma yn sicr yn mynd ymhell y tu hwnt i gwmpas y rheoliadau cul yr ydym yn eu trafod y prynhawn yma, ond rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaed yn bwysig iawn, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu dod i gasgliad da gyda'r gwaith o ran y pwyllgor...
Rebecca Evans: Mae Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn ymwneud â gosod cyfraddau treth 2023-24 ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi. Fe'u gwnaed gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol 'gwnaed'. Mae'r rheoliadau hyn yn gosod y cyfraddau gwaredu safonol, is ac anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, a fydd, yn amodol ar ganlyniad y ddadl heddiw, yn...
Rebecca Evans: Mae is-adran ddiwylliant Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau diwylliannol lleol, gan gynnwys amgueddfeydd, sy'n wasanaethau anstatudol, fel y dywedwch. Mae cyllid ar gael i alluogi amgueddfeydd i gyfarfod a chynnal achrediad yr amgueddfa, gan gynnwys darparu mynediad at y cynllun grant cyfalaf trawsnewid blynyddol. Mae'r adran ddiwylliant hefyd yn darparu rhaglen...
Rebecca Evans: Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd gyda phob awdurdod lleol i drafod materion allweddol sy'n effeithio arnom i gyd, gan gynnwys yr heriau ariannol presennol. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw penderfynu sut maent yn darparu eu gwasanaethau anstatudol yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol.
Rebecca Evans: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Gallaf ddweud bod swyddogion Trysorlys Cymru yn rhan o'r gweithgor sydd wedi'i sefydlu i fwrw ymlaen â'r adolygiad o gyfradd yr uned. Yn amlwg, nid yw'n syml, a byddant yn edrych ar effeithiau'r modelau gwahanol ar gyfer cytuno ar y gyfradd. Ar hyn o bryd, mae cyfradd bresennol unedau prydau ysgol am ddim ar draws awdurdodau lleol yn cael ei hystyried ochr...