Joyce Watson: Dywedodd Pwyllgor Cyllid y Senedd y mis hwn fod Cymru mewn perygl o fod ar ei cholled yn ariannol os yw Llywodraeth y DU yn methu cydweithio â Llywodraeth Cymru ar gyllid ar ôl yr UE. Mae hynny er gwaethaf yr addewidion Torïaidd niferus na fyddai Cymru yn derbyn yr un geiniog yn llai o ganlyniad i Brexit. Yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau'r cydweithrediad hwnnw gan Lywodraeth y DU a rhaid...
Joyce Watson: 9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â threfniadau ariannu ar ôl yr UE? OQ58617
Joyce Watson: Symudwn ni ymlaen nawr i eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar rôl y sector cyhoeddus yn system ynni'r dyfodol, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd—Julie James.
Joyce Watson: Diolch i chi, Gweinidog.
Joyce Watson: Rwyf i am ganiatáu un cwestiwn arall, os yw hwnnw'n un cryno, ac un ateb arall, os yw hwnnw'n un cryno. Huw Irranca-Davies.
Joyce Watson: A wnaiff yr Aelod ofyn ei chwestiwn hi, os gwelwch hi'n dda?
Joyce Watson: Diolch i chi.
Joyce Watson: Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 4, sef datganiad gan Weinidog yr Economi, Banc Datblygu Cymru—Buddsoddi Uchelgeisiol. Rwy'n galw ar y Gweinidog, Vaughan Gething.
Joyce Watson: Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi rhieni yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru gyda chost y diwrnod ysgol?
Joyce Watson: Rwyf i am ddiolch hefyd i'r comisiynydd plant sy'n gadael a chroesawu'r un newydd. Ddoe, wrth gwrs, roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Tlodi. Wrth gwrs, fe wnaeth Llywodraeth y DU ddathlu hynny drwy ddychwelyd i lymder a'r polisi trychinebus hwnnw a wnaeth drosglwyddo ein gwlad i ddegawd goll o dwf isel, gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt yn cael eu hariannu’n ddigonol ac...
Joyce Watson: Diolch i'r Cadeirydd am gadeirio'r pwyllgor mewn modd colegol ac am yr adroddiad a ddeilliodd o hynny. Ni allwn edrych ar bob agwedd ar yr hyn sy'n creu'r problemau yn y cyfnod byr hwn wrth gwrs, ond un o'r problemau gyda rhyddhau cleifion ar yr adeg briodol, yn amlwg, yw staffio. Nid yw o unrhyw werth o gwbl—i'r gwrthwyneb, mewn gwirionedd—i gleifion aros yn yr ysbyty'n ddiangen. Felly,...
Joyce Watson: Mae’n debyg fod hynny’n wir mewn rhai achosion. Nid wyf yn derbyn ei fod yn wir ym mhob achos, serch hynny, mae'n rhaid imi ddweud. Ac ni chredaf y dylai busnesau gael eu gwobrwyo am fethu paratoi neu gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol. Fodd bynnag, rwy'n sylweddoli bod y costau cynyddol a’r amgylchiadau byd-eang y cyfeiriwyd atynt wedi ychwanegu pwysau ychwanegol. Er, mewn...
Joyce Watson: Mewn munud. Nid yw'n dderbyniol, ac mae'n gosod cynsail gwael. Rydym wedi clywed gan Huw Irranca yn gwbl glir fod y rhan fwyaf o ffermwyr yn dymuno cydymffurfio a gweld manteision cyflwr amgylcheddol ffafriol, nid yn unig ar eu ffermydd ond mewn afonydd hefyd. Nid yw'n fwriad, a gŵyr pob un ohonom nad yw'n fwriad, gan y rhan fwyaf o ffermwyr i lygru. Yn anffodus, bu achosion lle cafwyd...
Joyce Watson: Fe sylwais.
Joyce Watson: Rwyf wedi darllen yr adroddiad gyda diddordeb. Rwyf wedi datgan fy marn yn glir iawn ar lygredd amaethyddol sawl gwaith dros nifer o flynyddoedd yma yn y Siambr. Cymharais y camau llym, ond angenrheidiol, a gymerwyd gennym yng Nghymru â’r gyfundrefn o esgeulustod yn Lloegr yr wythnos diwethaf. Mae hynny wedi galluogi llawer iawn o lygredd amaethyddol yn ein dyfrffyrdd gyda chanlyniadau...
Joyce Watson: Wel, rwy'n credu bod hynny'n hurt. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch, efallai y dylai Liz Truss fyfyrio ar yr hyn yr ydym ni'n ei ddysgu i'n plant am bwysigrwydd deialog a thrafodaeth agored. Pan lwyddwch i gael gafael arni, a wnewch chi bwyso ar Brif Weinidog y DU i roi ateb i'r tri cham gweithredu ar gostau byw y mae'r gweinyddiaethau datganoledig yn galw amdanyn nhw: y cynnydd o £25 i bob...
Joyce Watson: 2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynglŷn â'r argyfwng costau byw sy'n wynebu trigolion yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ58550
Joyce Watson: Rwy'n croesawu eich datganiad, Gweinidog, ac yn enwedig y prif ymrwymiad i adfer mawndir triphlyg. Mae'n wych. Ar gyfer y cofnod, rwy'n aelod o'r RSPB ers talwm, felly rwy'n arbennig o falch am beth mae hynny'n mynd i'w olygu i rywogaethau sy'n nythu ar y ddaear fel y grugiar a'r grugiar ddu a'r bod tinwen, pe baen nhw'n goroesi. Ond yn ogystal â bod yn gynefin unigryw, mae mawndiroedd yn...
Joyce Watson: Diolch am gyflwyno'r ddadl hon—dadl bwysig, a'r wers hanes y tu ôl iddi. Rydym wedi cael haf o garthion ar ein glannau; rydym wedi cael y tymereddau uchaf erioed; mae gaeaf o'n blaenau gyda biliau ynni na ellir eu talu; yr elw dihaeddiant uchaf erioed i'r cwmnïau ynni mawr; a system ynni sy'n agored i unbeniaid. Mae'r argyfyngau hyn wedi'u cysylltu, felly mae angen atebion hirdymor i...
Joyce Watson: Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed cryn dipyn o gynnydd ar atal canser ceg y groth drwy gyflwyno rhaglen y brechlyn feirws papiloma dynol. Cyflwynwyd y brechlyn hwnnw gyntaf mewn ysgolion yn y DU ar gyfer merched yn eu harddegau yn 2008 ac mae wedi bod ar gael i fechgyn ers 2019. Mae wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar gyfraddau...