Caroline Jones: Diolch am eich datganiad chi, Prif Weinidog. Rydym wedi gweld bod cyfnodau clo yn difrodi bywyd a bywoliaeth y cyhoedd yng Nghymru yn aruthrol, a'r tlotaf yn ein cymdeithas ni'n arbennig felly, oherwydd cafodd llawer o bobl sy'n agored i niwed mewn cymdeithas eu gadael ar ôl. Mae pobl wedi colli eu gwaith ac mae busnesau wedi cau. Ac er fy mod i'n sylweddoli bod yn rhaid inni wneud yn siŵr...
Caroline Jones: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn â'r sefyllfa barhaus yn fflatiau Henllys yn Abertawe. Yn dilyn y problemau llifogydd, bu'n rhaid rhoi rhai trigolion mewn llety dros dro ac mae'r rhai sydd wedi aros yn eu heiddo wedi cael gwybod na fydd y lifftiau yn weithredol am bythefnos neu fwy, ac mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar lawer o drigolion...
Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Mae'r ffaith fod COVID-19 wedi cael ei adael i ledaenu yn ein hysbytai yn arwydd o fethiant clir ym mholisi'r Llywodraeth ac o esgeuluso dyletswydd Llywodraeth Cymru i amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed. Prif Weinidog, pam nad oes ffin glir rhwng cleifion sydd â COVID a chleifion nad oes ganddyn nhw COVID? Pam ydym ni'n profi ychydig dros hanner yr holl...
Caroline Jones: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal COVID-19 rhag lledaenu mewn ysbytai yng Nghymru? OQ55809
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon. Rwyf wedi gwrthwynebu gwaredu gwaddodion a garthwyd o safle gorsaf bŵer niwclear Hinkley C yn y gorffennol oherwydd yr ansicrwydd ynghylch diogelwch gwaddodion. Efallai fod y gwaddod a garthir yn cael ei waredu yn rhanbarth Canol De Cymru, ond mae hefyd yn effeithio ar fy rhanbarth i, sy'n gartref i rai o draethau gorau'r byd ac yn...
Caroline Jones: Weinidog, yn anffodus mae gormod o lawer o fusnesau'n syrthio drwy'r craciau yn y cymorth a gynigir, ac yn sicr nid yw'r gefnogaeth sydd ar gael yn gwneud iawn am yr effeithiau hirdymor y mae gwahanol gyfyngiadau wedi'u cael. Nid yw busnesau'n gwybod a fyddant ar agor neu ar gau o un wythnos i'r llall, ac nid yw llawer o ficrofusnesau'n cael unrhyw gymorth o gwbl am nad oes ganddynt gyfrifon...
Caroline Jones: Roedd yn ymwneud â chyfraniad rhagrithiol Alun Davies ynghylch—
Caroline Jones: Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â thrin pobl hŷn yn ystod y pandemig presennol. Ddoe, gofynnwyd imi fynd i gyfarfod gyda grŵp bach o breswylwyr byw â chymorth i drafod y materion yr oedden nhw'n eu hwynebu yn ystod y misoedd diwethaf, dim ond iddynt gael gwybod gan Tai Arfordirol fod yn rhaid iddynt gyfarfod allan yn yr awyr agored. Roedd rhai o'r...
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae'r pandemig hwn wedi cael effaith ddifrifol ar ofal sylfaenol, gan gyflwyno rhwymedigaethau a beichiau ychwanegol ar weithlu a oedd eisoes mewn trafferthion. Rydym ni'n gwybod bod angen i ni recriwtio mwy o feddygon teulu i ymdopi â llwythi gwaith mewn cyfnod normal, ond, wrth i ni ddechrau'r tymor annwyd a ffliw gyda COVID-19 yn dal i fod yn rhemp, bydd y pwysau yn...
Caroline Jones: Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon, ac am gydnabod y byddai fy ngwelliant wedi ychwanegu at y ddadl. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, roedd cyfyngiadau symud yn ddrwg angenrheidiol ar ddechrau'r pandemig hwn wrth inni adeiladu capasiti i ymdrin â'r argyfwng. Fodd bynnag, rydym wedi cael saith mis i adeiladu'r capasiti hwnnw, ac mae'n mynd yn anos cyfiawnhau'r niwed i...
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Fel y nododd Archwilio Cymru yn eu hadroddiad diweddar, bydd cynghorau Cymru yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, er gwaethaf bron i £0.5 biliwn mewn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ac er bod pawb yn disgwyl camau gan Lywodraethau canolog i fynd i'r afael â'r pandemig, llywodraeth leol sy'n rhoi’r mesurau ar waith ac yn cadw ein hysgolion ar agor. Weinidog, pa...
Caroline Jones: 2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae pandemig COVID-19 yn ei chael ar adnoddau llywodraeth leol? OQ55709
Caroline Jones: Na, Llywydd, nid wyf i wedi cyflwyno cynnig i siarad yn y ddadl hon, diolch. Mae'n ddrwg gen i.
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Parcio ar y palmant yw un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r rhai sydd â phroblemau symudedd, mamau ifanc â chadair wthio a phlant bach, a phobl sydd wedi colli eu golwg. Dirprwy Weinidog, oni chaiff mesurau eu gorfodi'n llym, bydd yn rhaid i'm hetholwyr barhau i wynebu'r her pryd bynnag y byddant yn gadael eu cartrefi. Sut y caiff mesurau eu...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor a chlercod y pwyllgor am eu gwaith anhygoel drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Yn sicr, fe olygodd COVID-19 na fu hwn yn ymchwiliad cyffredin. Roedd gweithio o bell yn gwneud cynnal ymchwiliad o'r fath hyd yn oed yn fwy heriol. Fodd bynnag, mae'r heriau a wynebir gan aelodau'r pwyllgor yn pylu'n ddim o'u cymharu â'r heriau a wynebir...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Mis Hydref yw Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, ac ar wahân i wisgo pinc, hoffwn ei nodi mewn ffordd arall, fwy personol—drwy siarad am fy nhaith i gyda chanser y fron, a nodi'r ffaith y gallwch oroesi'r clefyd ofnadwy hwn, ac annog menywod ledled Cymru i fod o ddifrif ynghylch y bygythiad, ac i archwilio'n rheolaidd. Mae 13 mlynedd wedi bod ers i mi ddod o hyd i dolc...
Caroline Jones: Weinidog, os oes gan ein heconomi unrhyw obaith o oroesi'r pandemig hwn, mae'n rhaid inni ddysgu byw gyda COVID-19. Mae byw gyda'r clefyd yn golygu bod yn rhaid inni gadw ar wahân i bobl nad ydynt yn ein teulu agos a gwisgo masgiau mewn mannau caeedig. Diolch byth, mae masgiau bellach yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond mae cadw ar wahân yn anos. Mae'n rhaid inni sicrhau nid yn unig y...
Caroline Jones: Trefnydd, hoffwn i alw am ddau ddatganiad gan Weinidogion y Llywodraeth. Y cyntaf yw datganiad gan y Gweinidog iechyd ar ofal canser yng Nghymru yn ystod y pandemig. Er bod gofal canser brys yn parhau i raddau, mae sgrinio am ganser, fel llawer o'r GIG, wedi'i ohirio wrth i adnoddau ganolbwyntio ar achosion SARS-CoV-2—yn ddealladwy ar ddechrau'r achosion, ond nid bron naw mis yn...
Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Mae'n gwbl amlwg nad yw'r dull moron yn gweithio ac nad yw'r dirwyon sy'n cael eu gorfodi yn llawer o rwystr ychwaith. Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y de yn destun cyfyngiadau symud llym unwaith eto a'r cwbl oherwydd gweithredoedd lleiafrif hunanol. Rydym ni wedi colli ein rhyddid oherwydd bod rhai pobl eisiau cael partïon yn y tŷ. Nid ydym ni'n cael ymweld â'n...
Caroline Jones: 3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cosbau i'r rhai sy'n torri rheolau COVID-19? OQ55666