Canlyniadau 81–100 o 10000 ar gyfer speaker:Suzy Davies OR speaker:Suzy Davies OR speaker:Suzy Davies OR speaker:Suzy Davies OR speaker:Suzy Davies OR speaker:Suzy Davies OR speaker:Suzy Davies OR speaker:Suzy Davies

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymgysylltiad y Cyhoedd â Gwleidyddiaeth Leol (16 Rha 2020)

Suzy Davies: Rwy'n credu y bydd pob un ohonom yn ystod ein hamser fel Aelodau etholedig wedi cael ein syfrdanu gan ymgyrchoedd cymunedol a ysgogwyd gan unigolion yn dod at ei gilydd i ymladd naill ai o blaid neu yn erbyn rhywbeth sy'n bwysig iawn iddynt. Mae llwyth ohonynt yng Ngorllewin De Cymru, ond mae un—‘Save Our Fields’ ym Mracla—yn ymgyrchu ar hyn o bryd i gadw'r unig fan gwyrdd helaeth yn...

18. & 19. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (15 Rha 2020)

Suzy Davies: A gaf i ddechrau drwy ddiolch i gyd-aelodau'r pwyllgor a'n clercod a'n hymchwilwyr sydd dan bwysau, y Gweinidog a'i swyddogion ac, wrth gwrs, i'n tystion? A gaf i annog pawb i ddarllen yr adroddiad hwn yn llawn i weld pa mor drylwyr yr ydym ni wedi archwilio hyn, nid dim ond ailwampio'r system ond y pwysau amser newydd a achoswyd gan COVID, a'r elfennau gorfodol dadleuol yn y cwricwlwm...

9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg bellach) (Cymru) 2020 (15 Rha 2020)

Suzy Davies: Yr wythnos diwethaf dywedodd y Prif Weinidog: 'yr wyf i eisiau cymeradwyo yn gryf iawn heddiw y datganiad ar y cyd a wnaed rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n annog ysgolion i aros ar agor tan ddiwrnod olaf y tymor, gan gydnabod y bydd cyfresi unigol o amgylchiadau lle na fydd hynny'n bosibl.... Y broblem wirioneddol yw nad oes gennym ni ffydd, o'r dystiolaeth...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (15 Rha 2020)

Suzy Davies: Faint o ddisgyblion yng Ngorllewin De Cymru sydd wedi cael eu hanfon adref i hunanynysu fwy nag unwaith ers mis Medi?

7. & 8. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd (Gohiriwyd o 8 Rhagfyr) a Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Coronafeirws — Cyfyngiadau mis Rhagfyr ( 9 Rha 2020)

Suzy Davies: A gaf fi ychwanegu fy llais at y rhai sydd wedi dweud ein bod, wrth gwrs, yn deall difrifoldeb y sefyllfa yng Nghymru? Rydym yn siarad â'n byrddau iechyd ac rydym yn darllen y dystiolaeth—pan gawn ei gweld. Deallwn hefyd nad yw penderfyniadau i reoli'r feirws hwn yn hawdd i'w gwneud, ond ein dyletswydd ni yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif pan gredwn eu bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir,...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Gwaith Dur Trostre yn Llanelli ( 9 Rha 2020)

Suzy Davies: Rydym wedi trafod y berthynas gynhenid rhwng Trostre a Phort Talbot droeon yn y Siambr hon, ac nid cynrychiolwyr Llanelli yn unig oedd yn ofni colli Trostre pan oedd sôn am uno gyda Thyssenkrupp. Rydym hefyd wedi ailadrodd y camau y gallai'r ddwy Lywodraeth eu cymryd i wneud cynhyrchiant dur Cymru yn fwy cystadleuol. Beth bynnag fydd yn digwydd yn ystod y dyddiau nesaf, Weinidog, mae'n...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Rha 2020)

Suzy Davies: Trefnydd, a gaf innau fynegi fy marn i fel y gwnaeth Laura Anne Jones am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar y pwnc yr oedd hi'n ei drafod? Ni allwn gael 300 o blant yn cael eu hanfon adref o'r ysgol oherwydd un achos cadarnhaol, a rhai plant wedi bod yn mynychu'r ysgol am bum diwrnod yn unig ers dechrau mis Medi. A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â myfyrwyr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Cyhoeddus Mwy Caredig ( 8 Rha 2020)

Suzy Davies: Wel, Prif Weinidog, wrth gwrs, mae'r pandemig wedi bod yn gyfnod anodd i lawer iawn, gan gynnwys disgyblion a myfyrwyr. Bydd pob un wedi gweld effaith ar eu dysgu, ond bydd rhai wedi gweld rhywfaint ar eu hiechyd meddwl hefyd, fel yr ydym ni i gyd wedi ei glywed dros y misoedd diwethaf. I rai, wrth gwrs, bydd yn rhywbeth dros dro, gobeithio, ond i eraill gallai sbarduno rhywbeth llawer...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Siaradwyr Cymraeg Ifanc ( 2 Rha 2020)

Suzy Davies: Rwy'n falch i glywed am y ford gron. Y cwestiwn hanfodol yw pam nad yw polisi economaidd Llywodraeth Cymru wedi arwain at swyddi â chyflog gwell mewn ardaloedd gwledig i helpu cadw pobl ifanc ac i'w helpu i fforddio tai. Ond o ran cadw twf y Gymraeg yn y gymuned, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o ddefnyddio'r gofyniad sylw dyledus ar awdurdodau cynllunio i ystyried effaith eu...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Diagnostig ( 2 Rha 2020)

Suzy Davies: Weinidog, byddwch wedi clywed o'r blaen am y potensial am ddiagnosteg gynnar rydym wedi’i weld yn ysbyty Baglan, er enghraifft, pan ydym yn sôn am ganserau. Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad y cyfeiria David ato yn sicrhau bod y gwaith yno'n parhau yn gyflym. Ond roeddwn am ofyn i chi’n benodol heddiw am rôl deintyddion, gan fod eu rôl yn sylwi ar ganserau posibl yn y geg yn ystod...

8. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws — Cyfyngiadau Mis Rhagfyr ( 1 Rha 2020)

Suzy Davies: Prif Weinidog, rydych chi wedi bod yn sôn am wneud y penderfyniad cywir. Yn syml iawn rydym ni yn anghytuno â chi. Roeddwn i'n siomedig iawn o'ch clywed chi, mewn ateb cynharach, yn cyfeirio at y rhwystredigaeth y mae pobl yn ei theimlo, sydd, yn fy marn i, yn bychanu rhai o'r effeithiau iechyd meddwl difrifol iawn y mae pobl yn eu dioddef o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud hyn. Ac rwy'n...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 1 Rha 2020)

Suzy Davies: Gweinidog, tybed a allech chi fy helpu i ar dri mater, os gwelwch yn dda. Y cyntaf yw pa un a fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i wneud datganiad clir o gyngor neu arweiniad i gyflogwyr cyflogeion sy'n rhieni sengl y mae eu plant yn cael eu hanfon adref i hunanynysu o'r ysgol. Ar hyn o bryd mae'n drosedd i blant gael eu gadael ar eu pennau eu hunain os ydyn nhw mewn perygl—nid oes terfyn...

6. Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff (25 Tach 2020)

Suzy Davies: Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth i'r cynigion hyn hefyd. Ategaf yr hyn a ddywedodd Llyr am ymrwymiadau tebyg sy'n ymddangos mewn maniffestos a dogfennau polisi ers 2016, a chyn hynny. Felly, nid wyf yn credu ei bod yn annheg i mi dynnu sylw at y ffaith nad oes penderfyniad wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd a fu yn y cyfamser. Ac er y gallai cyfranwyr eraill fod eisiau beio hyn...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Gwyliau Blynyddol (25 Tach 2020)

Suzy Davies: Diolch, Andrew. Ie, a gallwn roi'r ymrwymiad hwnnw. Wrth osod cyllideb atodol, yn amlwg, byddai'n rhaid inni egluro'r rheswm dros wneud hynny, a byddai hynny'n esbonio lefel y gwyliau cronedig a'r gwerth sydd ynghlwm wrth hynny. Ond a gaf fi ddiolch i chi am fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch, os hoffech, aelodau'r Comisiwn a'u staff, sydd, yn wir, wedi mynd y tu hwnt i'r galw, fel rydym...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Gwyliau Blynyddol (25 Tach 2020)

Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Andrew. Rheolir gwyliau blynyddol yn weithredol er mwyn sicrhau bod staff yn cymryd cymaint o wyliau â phosibl er mwyn eu llesiant eu hunain ac er mwyn sicrhau bod busnes y Senedd yn parhau i fod yn gadarn. Fodd bynnag, fel y gallech ei ddychmygu, ers mis Mawrth eleni, mae effaith y pandemig wedi cynyddu'r galw ar staff yn sylweddol, gan gynnwys drwy'r toriadau, ac mae'r...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (25 Tach 2020)

Suzy Davies: Wel, diolch am yr ymateb, ond nid oedd yn ateb fy nghwestiynau mewn gwirionedd ynghylch pam y dylech wisgo masg yn yr awyr agored. Pe baech wedi dweud wrthyf fod llawer o dystiolaeth fod disgyblion yn hel at ei gilydd ar iard yr ysgol ac yn camymddwyn, efallai y byddwn wedi bod yn barod i glywed eich tystiolaeth ynglŷn â hynny. Ond ddoe, er enghraifft, cysylltodd rhywun â mi—rhiant—i...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (25 Tach 2020)

Suzy Davies: Diolch am eich ateb. Fy nealltwriaeth i yw y byddai rhai o'r TGAU etifeddol yn cael eu sefyll, ond dim ots. Hoffwn symud ymlaen yn awr at gau ysgolion, a gallaf weld bod pob grŵp blwyddyn ond un yn fy hen ysgol yn Aberdâr wedi’u hanfon adref i hunanynysu y diwrnod o'r blaen. Mae ysgolion yng Ngheredigion, wrth gwrs, yn cau am bythefnos, gan gynnwys ysgolion cynradd, a chefais fy synnu gan...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (25 Tach 2020)

Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Clywsom neithiwr fod Cymwysterau Cymru wedi cael gwared ar arholiadau uned mis Ionawr mewn TGCh, llenyddiaeth Saesneg a llenyddiaeth Gymraeg, er y bydd arholiadau eraill—nid arholiadau sy’n cael eu hailsefyll yn unig—yn dal i gael eu cynnal. Tybed a allwch ddweud pam yr ystyrir bod cau ysgolion a cholegau yn cael llai o effaith ar ddysgu'r myfyrwyr...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Trethi Newydd (25 Tach 2020)

Suzy Davies: Weinidog, mae Aelodau, wrth gwrs, wedi codi cymorth i dwristiaeth yn amlach nag unrhyw sector arall ers mis Mawrth, ac a bod yn deg, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr heriau hynny ac wedi ceisio ymateb i sawl un ohonynt. Ond mae'n amlwg fod unrhyw ddadl y byddai treth dwristiaeth yn codi arian i'w roi yn ôl yn y sector yn chwalu nawr. Os oes gennym fusnesau’n cau a darpar ymwelwyr yn...

9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050 (2019-2020) ac Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2019-2020) (24 Tach 2020)

Suzy Davies: Diolch, Weinidog. A gaf i ddechrau trwy fynegi fy siom ein bod ni'n trafod y ddau adroddiad hyn gyda'i gilydd? Pum munud i graffu ar y ddau. Does dim digon o amser i graffu ar eich llwyddiant i gymharu â'ch gweithgaredd. Does dim amser i fynd drwy'r byd gwaith, y gymuned, y maes addysg, ac yn y blaen, a does dim digon o amser i edrych ar swyddogaethau a chyfrifon y comisiynydd, i archwilio a...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.