Nick Ramsay: Prif Weinidog, tybed a gaf i eich holi am yr hyn y gellir ei ddysgu o enghraifft yr Alban. Mae cronfeydd yr UE wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol i fuddsoddi mewn seilwaith, fel y gwyddom, ac fel y mae Dave Rees newydd gyfeirio ato. A ydych chi'n rhannu fy marn i y gallai ein Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru nid yn unig ddysgu gwersi gwerthfawr o'r profiadau yn yr Alban, lle mae eu...
Nick Ramsay: Wyndham Davies, Arthur Jenkins, Richard Jones, David Lumley, Edward Meredith, Albert Metcalfe, Thomas Shelton a William Davies—enwau'r rhai a fu farw yn yr ail ryfel byd a ddarllenwyd yn y gwasanaeth coffa a fynychais yn Rhaglan y bore yma. Ac mewn trefi a phentrefi ledled y wlad, roedd nifer dirifedi'n fwy o enwau'n cael eu darllen ar yr un pryd—enwau rhai a wasanaethodd na fyddai neb...
Nick Ramsay: Rwy'n ddiolchgar am gael cyfrannu'n fyr at hyn heddiw. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond cefais i, fel llawer o Aelodau'r Senedd, lawer o ymholiadau dros y cyfnod atal byr pythefnos o hyd hwnnw, yn sicr yn ystod yr wythnos gyntaf, ynglŷn â gwahardd archfarchnadoedd rhag gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol, felly rwy'n siarad o safbwynt hynny. Gallaf ddweud yn bendant, mewn ymateb i Huw...
Nick Ramsay: Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Ers nifer o flynyddoedd, mae gan Lywodraeth yr Alban fwrdd masnach, a oedd yn un o'r ymrwymiadau yn eu strategaeth masnach a buddsoddi, gyda'r nod o nodi a chefnogi allforion i farchnadoedd newydd, gan ddod ag arbenigedd amrywiol ynghyd i gynghori Llywodraeth yr Alban. Mae'n amlwg fod Llywodraeth yr Alban wedi cymryd camau breision tuag at ddeall...
Nick Ramsay: 6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu cylch gwaith y grŵp cynghori ar bolisi masnach a gyhoeddwyd yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 3 Tachwedd 2020? OQ55839
Nick Ramsay: Weinidog, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â ColegauCymru, sy'n pryderu'n fawr am y cymorth y mae dysgwyr addysg bellach a'r sector yn ei gael. Mae addysg uwch wedi cael £10 miliwn arall ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac er bod rhywfaint o hwnnw ar gyfer myfyrwyr sydd wedi gorfod ynysu yn eu llety myfyrwyr, credaf fod rhywfaint ohono ar gyfer ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac ymdrin â...
Nick Ramsay: Diolch, Weinidog iechyd. Adroddodd nifer o bapurau newydd yn ddiweddar y gallai staff y GIG ddechrau cael brechlyn ymhen ychydig wythnosau yn unig. Mae datblygu brechlyn yn amlwg yn allweddol i fynd i’r afael â'r pandemig dros y tymor canolig a'r tymor hwy, fel rydych wedi egluro o'r blaen. Yn amlwg, bydd cryn dipyn o alw am y brechlyn hwn pan fydd ar gael. A yw Llywodraeth Cymru wedi...
Nick Ramsay: 3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda swyddogion, gan gynnwys y rhai yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghylch y cynnydd tuag at frechlyn ar gyfer COVID-19? OQ55789
Nick Ramsay: Diolch, Llywydd. Trefnydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd hyd at 15 o bobl yn cael cymryd rhan mewn digwyddiadau sydd wedi eu trefnu dan do, yn gynnwys chwaraeon, o ddydd Llun nesaf ymlaen. Rwyf wedi cael nifer o negeseuon e-bost gan rieni sy'n pryderu y gallai hyn rwystro eu plant rhag defnyddio clybiau gymnasteg, gan na fydd modd i'r clybiau weithredu gyda nifer mor fach ac fe...
Nick Ramsay: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Prif Weinidog, mae'r Ysbyty Athrofaol y Faenor newydd yng Nghwmbrân ar fin agor; rwy'n credu y bydd hynny yn ystod y mis hwn. Mae'n mynd i fod yn gyfleuster newydd gwych. Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau Cynulliad—Aelodau Senedd ydym ni erbyn hyn—wedi cael cyfle i edrych o gwmpas y cyfleuster hwnnw yn ystod cyfnod ei adeiladu. Ond mae hefyd yn...
Nick Ramsay: Diolch. Rwy'n cytuno gyda chi ar y pwynt olaf hwnnw, Weinidog; yn sicr nid yw'n sefyllfa foddhaol. Mae Ian Price, cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud ei bod yn ymddangos yn bosibl iawn fod rhai pobl yn syrthio drwy'r craciau rhwng y cynllun cadw swyddi a'r cynllun cefnogi swyddi, ac mae Ben Cottam o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi dweud mae faint o ddryswch sy'n...
Nick Ramsay: Fe wnaf yr hyn a allaf yn hynny o beth, Weinidog. Mae'n amlwg y bydd y cyfnod atal byr yn cael effaith ariannol sylweddol ar fusnesau a chyflogwyr ledled Cymru. Rydych wedi sôn am yr angen i gydweithredu â Llywodraeth y DU. Ymddengys bellach fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwybod bod cyfnod atal byr yn dod ddydd Mercher diwethaf, ac eto ni ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y Canghellor...
Nick Ramsay: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, mae'r rhain yn amseroedd pryderus i fusnesau Cymru ac i weithwyr ledled Cymru gyda'r pandemig sy'n mynd rhagddo. Pa asesiad a wnaethoch o'r costau ariannol sy'n gysylltiedig â'r cyfnod atal byr sydd ar fin digwydd, ac a ydych wedi ystyried cost unrhyw gyfyngiadau symud posibl yn y dyfodol hefyd—cyfyngiadau ar sail dreigl?
Nick Ramsay: A gaf i ofyn hefyd, Trefnydd, am eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r cyfnod atal byr? Ac efallai fod y ddadl yn ddiweddarach y prynhawn yma yn gyfle i'r Gweinidog ymateb. Mae perchnogion Canolfan Arddio Rhaglan wedi cysylltu â mi, ac maent yn pryderu'n fawr ynghylch canolfannau garddio yn gorfod cau yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros...
Nick Ramsay: Efallai nad yw ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i weld a ddylem gael proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb yn destun sgwrs yn nhafarndai a chlybiau Cymru, ond mae'n fater roeddem ni fel pwyllgor yn ei ystyried o gryn ddiddordeb o ran gweithrediad llyfn y lle hwn yn y dyfodol. Rwy'n credu y dylid rhoi clod arbennig i Alun Davies, sydd wedi bod yn codi llais o blaid hyn ers ymhell cyn bod y...
Nick Ramsay: Weinidog, siaradais yn ddiweddar ag arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, a ddywedodd wrthyf fod y pandemig, yn gwbl ddealladwy, wedi cael effaith enfawr ar adnoddau llywodraeth leol a’u bod yn poeni am gynaliadwyedd gwasanaethau statudol yn y tymor canolig, heb sôn am wasanaethau anstatudol. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweld cwymp enfawr mewn cyllid eleni, gan gynnwys ardrethi busnes, ond...
Nick Ramsay: Diolch, Lywydd. Mae gennyf Janet Finch-Saunders y tu ôl i mi, felly dyna'r holl hunanhyrwyddo sydd ei angen arnaf ar gyfer y cwestiwn hwn. [Chwerthin.] Weinidog, rydym yn sôn yn aml am ailadeiladu'n well ac ailadeiladu’n wyrddach yn y Siambr hon. Ymddengys i mi fod ehangu garddwriaeth yn un ffordd y gallwn wneud hyn. Wrth gwrs, mae garddwriaeth yng Nghymru yn cael cryn dipyn o gymorth gan...
Nick Ramsay: A gaf i gytuno'n gyntaf â sylwadau cynharach Leanne Wood yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod? Bydd fy mab i fy hun yn troi'n ddwyflwydd oed fis nesaf—anodd credu hynny—ond ni allaf ddychmygu'r tor calon y mae rhieni a theuluoedd yn ei ddioddef pan nad yw pethau'n dilyn y cynllun, yn ystod beichiogrwydd ac ar ei ôl. Rwy'n credu bod angen cymorth ar y teuluoedd hynny, a byddaf...
Nick Ramsay: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o ofidiau a phryder parhaus ynghylch trefniadau Trafnidiaeth Cymru ar gyfer myfyrwyr sy'n teithio o Dorfaen a Sir Fynwy i ac o Henffordd; mae'n fater a godais gyda'r Trefnydd ddoe, a dywedodd y byddai yn ei godi gyda chi. Er bod pob plentyn wedi talu am ei docyn tymor ymlaen llaw, mae myfyrwyr yn cael eu gwahanu oddi...
Nick Ramsay: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Thrafnidiaeth Cymru ynghylch ymbellhau cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ55645