Canlyniadau 81–100 o 300 ar gyfer speaker:Altaf Hussain

11. Dadl Fer: Byw gyda chanser yng Nghymru: Gwella mynediad at wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu (19 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Diolch yn fawr. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Joel James. Bydd fy nadl fer y prynhawn yma'n canolbwyntio ar fyw gyda chanser.  Rydym i gyd yn gwybod beth yw'r ystadegau: bydd un o bob dau ohonom yn cael canser rywbryd yn ystod ein hoes. Roedd canser yn arfer bod yn ddedfryd sicr o farwolaeth, ond diolch byth mae mwy a mwy o bobl yn goroesi canser. Ledled y DU, mae dros 3 miliwn o...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Strategaeth Arloesi (19 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Yn ôl eich dogfen ymgynghori, rhwng 2014 a 2020 roedd dros 450 o fuddsoddiadau corfforaethol yng Nghymru ar draws ystod eang o sectorau a busnesau, nifer ohonynt yn ymwneud â gweithgarwch ymchwil a datblygu. Fe wnaethant arwain at dros 21,200 o swyddi newydd, gyda 18,300 arall yn cael eu diogelu, gan gynrychioli buddsoddiad cyfalaf o £3.8 miliwn yng Nghymru. Beth y mae hyn yn ei ddweud...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid i Drafnidiaeth Gynaliadwy (19 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Diolch. Weinidog, rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros adfer gwasanaethau bysiau mewn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr a Phen-y-fai yn dilyn penderfyniad cwmni bysiau Easyway i roi’r gorau i fasnachu. Nid oes gan bobl heb geir sy’n byw ym Mhen-y-fai a’r ardaloedd eraill yr effeithir arnynt unrhyw ffordd o fynd i siopa, ymweld â’r ysbyty neu gael mynediad at lawer o wasanaethau eraill oni bai...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid i Drafnidiaeth Gynaliadwy (19 Hyd 2022)

Altaf Hussain: 3. Pa mor llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran cael pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ58553

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (18 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Yr wythnos diwethaf, daeth cyngor Pen-y-bont ar Ogwr â'i ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ehangu Coleg Penybont yng nghanol y dref i ben. Mae'r cynllun cyffrous hwn yn cynnwys prif adeilad gydag awditoriwm 200 sedd, gan ddarparu lleoliad ar gyfer adrannau sy'n cynnwys y celfyddydau perfformio, arlwyo, celfyddydau gweledol, busnes, cosmetoleg, gwallt a harddwch, anghenion dysgu ychwanegol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rhaglenni Sgrinio Cenedlaethol y GIG (18 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Diolch Prif Weinidog, am y ffigurau yna. Prif Weinidog, yn gywilyddus, rydym yn llusgo y tu ôl i genhedloedd eraill sy'n cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn i bobl 50 oed a hŷn. Mae hwn yn warth cenedlaethol. Mae pobl sy'n byw yn Yr Alban ac yn Lloegr yn cael cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn, ac wedi cael hynny ers blynyddoedd. Mae'n gwbl anghredadwy nad ydych chi wedi...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai (12 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Diolch, Weinidog iechyd. A yw'n cynnwys ward arsylwi o 30 neu 50 o welyau ynghlwm wrth bob adran damweiniau ac achosion brys ac ysbyty dosbarth cyffredinol? Gallech ddefnyddio'r ward honno ar gyfer y cleifion ychwanegol hyn sy'n barod i'w rhyddhau, ond nad ydynt yn mynd adref.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai (12 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Diolch, Jenny. Rwyf wedi gweithio yn yr ysbyty, ac ar wahân i ofal nyrsio ac ar wahân i'r gwasanaethau cymdeithasol, nid yw adroddiad rhyddhau'r claf byth yn cael ei baratoi ar amser. A daw'r adroddiad rhyddhau'r claf gan y meddyg isaf ei statws yn yr adran pan ddylai ddod gan y meddyg ymgynghorol wrth iddo wneud rownd y ward a rhyddhau'r claf. Dylid gwneud hynny mor gynnar â phosibl. 

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Canser y Coluddyn (12 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Weinidog, gŵyr pob un ohonom ei bod yn hanfodol cael diagnosis cynnar o ganser y coluddyn. Mae'n ffaith y bydd bron pawb sy'n cael diagnosis ar y cam cynharaf yn goroesi. Serch hynny, ers blynyddoedd, rydym wedi methu canfod y salwch hwn yn ddigon cyflym yng Nghymru. Roeddem yn bumed ar hugain allan o 29 o wledydd yn Ewrop ar gyfer y gyfradd oroesi pum mlynedd. Gyda hanner y cleifion canser...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau TGAU a Safon Uwch Haf 2022 (12 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Weinidog, gwyddom fod llawer o addysgwyr, ers blynyddoedd, wedi galw am ffocws ar y pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Yn Abertawe eleni, mathemateg oedd y pwnc Safon Uwch mwyaf poblogaidd ac fe'i cydnabuwyd fel un o'r pynciau anoddaf. Fe gafodd 59.6 y cant A* neu A ac fe lwyddodd 85.7 y cant i ennill gradd C neu uwch. Mae hwn yn ganlyniad eithriadol. Beth y gallwn ei...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Lleoedd Ysgolion (12 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Weinidog, yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gylchlythyr o’r enw, 'Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru’, i gynorthwyo awdurdodau lleol i gynllunio lleoedd ysgolion, i adrodd ar leoedd gwag ac i bennu niferoedd derbyn ysgolion. Nawr, mae defnyddio data, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Sarah Murphy yn gwbl gywir—rydym yn defnyddio data i gynllunio ein lleoedd ysgolion—yn hanfodol, fel...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (11 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Mae'r GIG yn bryder mawr i bob un ohonom yma, a gallwch chi weld hynny. Gweinidog, rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi'r heriau sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd wrth ymateb i amrywiaeth o bwysau. Nid yw pobl yn gallu cael triniaeth neu lawdriniaeth yn ddigon cyflym; nid yw'r cleifion sy'n ddigon iach i adael ysbyty yn gallu mynd adref yn ddigon cyflym; ac mae rhai pobl yn canfod eu hunain yn yr...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (11 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Faint o ymweliadau ag ysbytai yng Ngorllewin De Cymru y mae'r Prif Weinidog wedi ymgymryd â hwy ers iddo ddod yn Brif Weinidog?

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effaith meigryn ar blant a phobl ifanc ( 5 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Rwyf am ddiolch i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Mae meigryn yn felltith i'r rhai sy'n dioddef ohono. Mewn oedolion, gall fod yn wanychol, ond i bobl ifanc, i'r glasoed yn arbennig, gall effeithio'n fawr ar eu haddysg, eu teuluoedd a'u bywydau cymdeithasol. Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn hollol sicr beth yw canllawiau presennol Llywodraeth Cymru i ysgolion ynglŷn â...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Blaenoriaethau Cyfiawnder Cymdeithasol ( 5 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Fel y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, chi sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod sefydliadau sy’n gweithio yn ein cymunedau gyda’r heddlu fel rhan o’n partneriaethau diogelwch cymunedol yn gwbl hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r pryderon sydd bwysicaf i bobl. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Hyd 2022)

Altaf Hussain: Gweinidog, mae ymgyrch gynyddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i adfer gwasanaethau bysiau sydd wedi dod i ben, yn dilyn penderfyniad cwmni bysus Easyway i roi'r gorau i fasnachu. Yn fy marn i, mae gan y Cyngor ddyletswydd i'w breswylwyr i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bobl sy'n byw yn Oaklands, Broadlands a Phen-y-fai, yn ogystal â chefnogi'r rhai sydd angen trafnidiaeth gyhoeddus...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol (28 Med 2022)

Altaf Hussain: Mae’r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn gwbl annigonol, fel y dywedoch chi, ac mae angen rhywbeth gwell cyn gynted â phosibl. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu ffocws hynod fanwl ar ganserau yn gyffredinol yng Nghymru a llunio strategaeth i fynd i’r afael â hwy. Bydd hyn oll yn llywio ac yn arwain nid yn unig meddygon a staff clinigol eraill, ond hefyd y rheolwyr y mae angen...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Dreth Gyngor (28 Med 2022)

Altaf Hussain: Weinidog, mae llawer o bobl yn poeni am gostau byw. Mae llawer yn ofni bellach y bydd eich ymgynghoriad ar ddyfodol y dreth gyngor yn golygu y bydd mwy o aelwydydd yn talu llawer mwy mewn treth, fel a ddigwyddodd gyda'r ailbrisio diwethaf. Y dreth gyngor, ynghyd â morgeisi neu renti a chostau ynni yw’r gwariant mwyaf y bydd teulu’n ei wynebu bellach, a rhagwelir hefyd y byddant yn arwain...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Dreth Gyngor (28 Med 2022)

Altaf Hussain: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol ar ddyfodol y dreth gyngor? OQ58421

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (27 Med 2022)

Altaf Hussain: Gweinidog, mae Cyngor Abertawe ynghyd â Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau'r amddiffynfeydd môr yn y Mwmbwls. Mae hwn yn fuddsoddiad i'w groesawu, ac rwy'n deall y bydd y rhan fwyaf o'r gost yn cael ei ddarparu drwy'r rhaglen rheoli risg arfordirol. Dylai'r cynlluniau hyn, er eu bod yn ymateb i fygythiad cynhesu byd-eang a lefelau'r môr sy'n codi, roi hyder i gymunedau a busnesau...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.