Julie James: Diolch, Janet. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £293 miliwn mewn lleihau perygl llifogydd i gymunedau arfordirol ledled Cymru drwy ein rhaglen rheoli risgiau arfordirol. Bydd hyn yn lleihau’r perygl o lifogydd i dros 15,000 eiddo, ac mae’n cynnwys, er enghraifft, mwy na £19 miliwn o fuddsoddiad yn Aberconwy. Mae map rhyngweithiol yn dangos ein buddsoddiad wedi'i gyhoeddi ar-lein.
Julie James: The UK Government did not consult or discuss the content of EIP prior to its publication. I welcome an opportunity to discuss areas where we must work together on our mutual goals to protect habitats, ensure clean and plentiful water supplies, improve air quality and ensure sustainable land management.
Julie James: Diolch, Llywydd. Ar y pwynt ymgynghori a gododd Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, fe wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedais: mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y rheoliadau drafft yn adlewyrchu'n glir newidiadau i gyfraith mewnfudo, sy'n faterion a gedwir yn ôl. Mae'r newidiadau'n eithaf cyfyngedig, gan adael ychydig neu ddim effaith ar wasanaethau cyhoeddus, o'u cymharu â'r...
Julie James: Diolch, Llywydd. Rydym wedi gwneud y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 er mwyn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014, a elwir yn rheoliadau 2014, fel bod dioddefwyr a goroeswyr caethwasiaeth a masnachu pobl a gafodd ganiatâd dros dro i aros yn y DU yn gallu cael mynediad at dai neu at gymorth tai yng...
Julie James: Diolch yn fawr, Joyce. Mae'n bwynt da iawn. Rydyn ni wedi bod yn gweithio ers cryn amser nawr gydag ystod o randdeiliaid—ac rwy'n gwybod eich bod chi'n gwybod hyn—i sicrhau ein bod ni'n gwneud ystod lawn o bethau. Yn gyntaf oll, rydyn ni'n denu'r math cywir o fuddsoddiad, ac mae problemau enfawr gyda hynny. Dydyn ni ddim eisiau gwyrddgalchu, er enghraifft, ond rydyn ni eisiau buddsoddiad...
Julie James: Diolch, Mabon. Byddem, hoffem gael llawer mwy o reolaeth dros y grid cenedlaethol, yn hollol, oherwydd yr holl faterion rydym ni wedi'u trafod yn ddiddiwedd—yr angen i gynllunio, yr angen am fuddsoddiad gwell, ac ati. Felly, credaf fod hynny wedi ei gymryd yn ganiataol, mewn gwirionedd. Y gwir broblem gyda nifer o brosiectau o amgylch Cymru—ar y tir, ar y lan, ar y môr—fu cysylltiad...
Julie James: Diolch, Alun. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt olaf. Y broblem fawr yn y fan yna yw sicrhau bod gan y gymuned yr ynni adnewyddadwy y mae hi ei heisiau a'i hangen, ond hefyd mae elfen enfawr yn y fan yna am nid dim ond buddion cymunedol, ond perchnogaeth gymunedol briodol. Felly, rydym ni'n awyddus iawn yn wir i hwyluso unrhyw gwmni sy'n adeiladu fferm wynt ar y tir—rwy'n gobeithio y gallwn...
Julie James: Diolch, Delyth. Rwy'n credu bod llawer i gytuno arno yna, ac wedyn fe alla i egluro ychydig o ran y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Felly, dim ond o ran y grid ei hun, mae'r grid cenedlaethol yn un o'r darnau ohono a gafodd ei enwi waethaf, mewn gwirionedd, oherwydd nid yw'n ddim o'r fath; mae'n gyfres o wahanol sefydliadau sy'n defnyddio darnau gwahanol o'r grid. Bu'n ymatebol iawn yn y...
Julie James: Diolch, Janet. Gobeithio y bydd eich gwddf yn gwella yn fuan; mae gen i bob cydymdeimlad. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cael problem debyg iawn fy hun, felly mae gen i lawer o gydymdeimlad yn hynny o beth. Dim ond o ran Ystad y Goron, yn amlwg, rydyn ni o blaid datganoli Ystad y Goron, ac mae manteision hynny yn amlwg iawn. I ddechrau, mae'r refeniw ei hun yn werth ei gael, dim ond i ddweud...
Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rydw i'n cyhoeddi ein hymgynghoriad ar ddiwygio targedau ynni Llywodraeth Cymru. Ochr yn ochr â hyn, rwyf hefyd yn falch iawn o gyhoeddi rhywfaint o fuddsoddiad pwysig yr ydym ni'n ei wneud i ysgogi'r gadwyn gyflenwi adnewyddadwy, gan ysgogi twf economaidd ochr yn ochr â lleihau allyriadau a diogelwch ynni. Roedd ein targedau presennol yn arwydd o...
Julie James: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl ddiddorol iawn hon, a diolch i chi, Janet, am ei chyflwyno. Ac mae pawb yn hollol gywir: mae'r argyfwng hinsawdd yn mynnu ein bod yn defnyddio'r holl arfau sydd ar gael i ni i gyflymu cynnydd tuag at system ynni sero net. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i symud ein system ynni oddi wrth danwydd ffosil a thuag at ynni adnewyddadwy,...
Julie James: Yn sicr. Nid wyf yn credu y dylech chi fod mor nawddoglyd â hynny tuag at Aelodau eraill o'r Senedd hon.
Julie James: Fel roeddwn i'n dweud, mae Llywodraeth y DU yn dibynnu llawer gormod ar fecanwaith RAB ar gyfer ariannu'r pethau hyn, sy'n ychwanegu costau at filiau cwsmeriaid yn hytrach nag ar drethiant cyffredinol. Mae'n anflaengar ac mae'n gosod baich anghymesur ar y rhai lleiaf abl i'w ysgwyddo, sydd ynddo'i hun yn arafu cynnydd tuag at y system ynni sydd ei hangen arnom. Mae dirfawr angen model...
Julie James: Wrth gwrs.
Julie James: Y gwahaniaeth yno, wrth gwrs, yw bod hwnnw'n bryder damcaniaethol, a'r pryder go iawn oedd na fyddai Llywodraeth y DU yn ei gefnogi. Yn ddiweddar, rydym wedi cynnal adolygiad o'i ddechrau i'w ddiwedd ar drwyddedu morol yng Nghymru, oherwydd ein bod eisiau cael y system fwyaf effeithiol ac effeithlon. Ddoe ddiwethaf fe fûm yn trafod y peth gyda thîm trwyddedu morol CNC. Felly, rydym yn...
Julie James: Fe eisteddoch chi gyferbyn â mi ac fe wnaethoch chi gytuno â mi y dylid adeiladu morlyn bae Abertawe. Cytunodd eich AS Ceidwadol eich hun, a edrychodd ar yr adroddiad, y dylid ei adeiladu—Charles Hendry. A ydych yn cofio hynny? A beth wnaeth y Llywodraeth? Dywedodd 'na'. Dywedodd na fyddai'n cael ei adeiladu, er iddo gael ei alw'n 'ddewis cwbl amlwg'.
Julie James: Yn sicr.
Julie James: Oherwydd gallent fod wedi cael y chweched, seithfed, wythfed, nawfed a'r degfed pe baent wedi bod ychydig yn gyflymach yw'r ateb hawsaf i hynny. [Torri ar draws.] Nid yw eich cynnig heddiw yn sôn—dim sôn o gwbl—am gyfrifoldebau Llywodraeth y DU. Nid yw’n sôn o gwbl am gyfrifoldebau Llywodraeth y DU. Rwyf am ddweud hyn wrthych: rydych yn credu y dylem fod yn rhan o undeb yn y Deyrnas...
Julie James: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r cynnig hwn heddiw. Rwy'n croesawu'n llwyr y consensws cyffredinol fod ynni'r môr yn un o bileri’r economi yng Nghymru, ac y bydd yn dod yn bwysicach fyth dros y degawdau nesaf, a chytunaf yn llwyr â llawer o’r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau yn y ddadl hon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig. Mae...
Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Dim ond i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau penodol iawn—a diolch i'r pwyllgor, Huw, am ei waith cyflym ar hyn, fel bob amser—mae gen i ofn nad ydw i'n derbyn yr argymhelliad na'r casgliad y byddai cymal 3 y Bil yn gyfystyr â darpariaeth berthnasol at ddibenion Rheol Sefydlog 29. Ar wahân i gymal 3(5), mae...