Steffan Lewis: Efallai nad yw offer cyfieithu’r Aelod yn gweithio neu rywbeth—.
Steffan Lewis: Nid polisi Plaid Cymru yw cyflwyno treth dwristiaeth. Rydym yn croesawu camau i archwilio pedair treth, fel yr amlinellodd Llywodraeth Cymru, i gasglu tystiolaeth am ein bod yn blaid â meddwl agored, yn barod i edrych ar syniadau newydd arloesol, oherwydd gadewch i ni ei wynebu, Dirprwy Lywydd, pryd bynnag y ceir syniad newydd mewn gwleidyddiaeth ar yr ynysoedd hyn, mae’r Blaid Geidwadol...
Steffan Lewis: Rwyf newydd ddechrau, felly rwyf am fwrw ymlaen, ond rwy’n hapus i ildio yn nes ymlaen. [Torri ar draws.] Nid yw’n bolisi Plaid Cymru. Fodd bynnag, rydym yn croesawu dull Llywodraeth Cymru o gyflwyno pedwar syniad ar gyfer ymchwil pellach a phrofi pellach, oherwydd yr hyn a oedd yn gwrth-ddweud ei hun yng nghyfraniad yr Aelod dros Fynwy oedd na chawsom unrhyw dystiolaeth er mwyn gwneud...
Steffan Lewis: Diolch, Dirprwy Lywydd. Roeddwn yn naïf efallai yn edrych ymlaen at drafodaeth aeddfed y prynhawn yma. Yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd. Roedd distawrwydd yr Aelod dros Fynwy yn siarad cyfrolau yn y Pwyllgor Cyllid y bore yma pan glywsom dystiolaeth gan arbenigwyr ar yr ardoll dwristiaeth arfaethedig. Mae’n drueni nad yw tystiolaeth yn rhywbeth y mae am ei chynnwys yn ei gyfraniadau...
Steffan Lewis: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio. A allai ddweud wrthyf beth yw ei weledigaeth gyllidol ar gyfer Cymru?
Steffan Lewis: Mae hwnnw’n bwynt pwysig iawn, wrth gwrs. Rwy’n falch o glywed yr eglurhad y bydd y neilltuo’n parhau ar ryw ffurf. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod y llinell gyllideb benodol ar gyfer y grant Cefnogi Pobl yn diflannu yn yr ail flwyddyn yn codi cwestiynau ynglŷn â sut y gallwn sicrhau y gallwn graffu’n briodol ac yn gywir fel cynrychiolwyr etholedig, ond hefyd o ran y sector yn ei...
Steffan Lewis: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Felly, er eglurder, ni fydd cael gwared ar glustnodi arian—a bydd hyn yn cael ei dreialu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf yn ôl yr hyn a ddeallaf—a’r disgresiwn mewn ardaloedd peilot yn caniatáu i awdurdodau lleol danwario, fel petai, ar y grant Cefnogi Pobl. A all egluro a chadarnhau y bydd uno gyda ffrydiau grant eraill, fel petai, yn...
Steffan Lewis: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion ei chyllideb ddrafft, gan gynnwys tablau manwl o linellau gwariant y gyllideb ar gyfer 2018-19 a 2019-20. Yn ystod y 24 awr ddiwethaf, mae nifer o sefydliadau wedi mynegi pryder ynglŷn â llinell gyllideb Cefnogi Pobl o ystyried bod y llinell gyllideb benodol honno’n diflannu yn nhabl y gyllideb ar gyfer 2019-20. Mae Plaid...
Steffan Lewis: Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am wella sut y cyflenwir gwasanaethau yn yr ardal?
Steffan Lewis: A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth ar anallu ymddangosiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i wella cylchfan heb achosi anhrefn llwyr? Mae pobl oriau'n hwyr yn cyrraedd y gwaith, plant yn hwyr yn yr ysgol, ac mae tystiolaeth bod busnesau bellach yn cael eu heffeithio gan y gwaith o wella cylchfan Pwll-y-Pant. Bwriedir i'r gwaith barhau am hyd...
Steffan Lewis: Wrth gwrs, un o'r bygythiadau mwyaf i staffio hirdymor yn GIG Cymru fyddai i ni gael un polisi mewnfudo ar gyfer y DU gyfan ar ôl gwahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Mae Prifysgol Caeredin wedi cyhoeddi papur gan yr Athro Christina Boswell, ‘Scottish Immigration Policy After Brexit: Evaluating Options for a Differentiated Approach'. Mae'n ystyried nifer o ddulliau rhanbarthol a...
Steffan Lewis: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac mae’n dilyn ymlaen o ateb a roddodd i’r Aelod dros Arfon y prynhawn yma. Gwn y bydd yn cytuno’n llwyr fod credyd cynhwysol yn fwy na llanast gwleidyddol yn unig; mae’n greulon ac mae’n achosi caledi go iawn. Mae cost ffonio llinellau cymorth wedi cael sylw yn rheolaidd, fel y mae mater allweddol amlder taliadau. Nawr, nid wyf yn amau...
Steffan Lewis: Mae’r Aelod dros Orllewin Casnewydd wedi crybwyll lefelau dyled bersonol a’r ffaith eu bod yn un o effeithiau go iawn y diwygiadau lles erchyll sy’n cael eu gorfodi arnom gan y wladwriaeth Brydeinig. Mae ymchwil a gynhaliwyd yn gynharach eleni wedi dangos mai lefelau dyled bersonol yn ardal cod post Casnewydd oedd yr uchaf yng Nghymru, ac ar draws y Deyrnas Unedig, maent yn awr yn...
Steffan Lewis: 10. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o gyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru? (OAQ51186)
Steffan Lewis: Hoffwn innau hefyd ddiolch i Simon Thomas, fel Cadeirydd y pwyllgor, am y gwaith y mae wedi’i wneud yn dod â’r Bil yma ymlaen. Yn wir, mae nifer o’r pwyntiau roeddwn i’n mynd i’w codi wedi cael eu codi eisoes gan Aelodau eraill. Ond rwy’n meddwl ei fod yn bwynt pwysig i’w wneud—mae Mike Hedges wedi sôn am hyn yn enwedig—y pwynt yma ynglŷn â chostau yn ymwneud â derbyn...
Steffan Lewis: A allwn ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr argyfwng cynllunio ym mwrdeistref sirol Caerffili? Nid oes cynllun datblygu lleol gweithredol ar gael ar hyn o bryd ac, o ganlyniad i hyn, mae'r system gynllunio wedi’i gogwyddo’n sylweddol o blaid datblygwyr ac, yn wir, datblygiad anghynaladwy ac amhriodol. Mae’r dyfarniadau diweddar gan yr arolygydd cynllunio wedi tynnu sylw at y...
Steffan Lewis: Hoffwn ategu diolch y siaradwyr blaenorol i bawb a roddodd dystiolaeth, ac i gofnodi fy niolch i’r Cadeirydd hefyd am y ffordd y cynhaliodd yr ymchwiliad hwn yn benodol. Rwy’n credu bod yr holl Aelodau’n mynd i adleisio’r un pwynt—mai un o’r rhannau siomedig o’n hymchwiliad oedd gweld mai busnes fel arfer, bron, oedd gobaith y rhai y clywsom dystiolaeth ganddynt, yn hytrach na...
Steffan Lewis: Diolch i’r Aelod am ildio. Mae’n cyfeirio’n briodol at oed y cerbydau ar fasnachfraint Cymru. Oherwydd oed y cerbydau a’r achosion o ddrysau’n mynd yn sownd a hyd yn oed tanau ar drenau, tybed a yw’n cytuno â mi y dylid cynnwys ymrwymiad yng nghontract y fasnachfraint nesaf—pwy bynnag fydd yn ei chael—i beidio torri nifer y gardiau ar fasnachfraint Cymru o safbwynt diogelwch...
Steffan Lewis: A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y rhwymedigaethau sydd gan awdurdodau lleol i gynnal priffyrdd diogel a chyflwyno mesurau gostegu traffig? Mae trigolion ardal Heol Pant Ddu yng Nghrymlyn yn gweithio'n galed, ac wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer, i sicrhau gostegu traffig yn eu hardal nhw. Mae maint y traffig wedi dyblu ac mae'r...
Steffan Lewis: Dewch, dewch. Mae'r mwgwd yn llithro eto.