Jayne Bryant: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu'r gwasanaeth fferylliaeth gymunedol clinigol yng Nghymru?
Jayne Bryant: Diolch, Llywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, ychydig iawn o amser a roddodd amserlen graffu'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol i bwyllgorau gasglu tystiolaeth. Ar 18 Ionawr, fe wnaethom ni, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ysgrifennu ar y cyd at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac at sefydliadau ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol plant,...
Jayne Bryant: Gwnsler Cyffredinol, mae'n hanfodol gweithio ar y cyd â Llywodraethau datganoledig eraill y DU. Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cefnogi datganoli ac wedi pleidleisio drosto ddwywaith mewn refferenda. Ni ddylai gadael yr UE olygu bod datganoli'n cael ei wanhau gan Lywodraeth y DU. Rhaid diogelu ein pwerau datganoledig. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod pob...
Jayne Bryant: 4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda llywodraethau eraill y DU mewn perthynas â chyfraith yr UE a ddargedwir? OQ57604
Jayne Bryant: Hoffwn i ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r Gweinidogion, y Dirprwy Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru a roddodd dystiolaeth i ni ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gefnogi ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft eleni. Yn ogystal ag ymddangos gerbron y pwyllgor, rhoddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth ysgrifenedig helaeth a manwl i ni. Rydym yn ddiolchgar am eu gwaith caled...
Jayne Bryant: Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo prosiectau seilwaith ynni gwyrdd?
Jayne Bryant: Rwy'n croesawu'r ddadl bwysig hon a gyflwynwyd gan Jane Dodds yn fawr, a hoffwn ddiolch i Jane am gytuno i roi munud o'i hamser i mi. Rwy'n cytuno â llawer o'r pwyntiau a gododd heddiw. Y mater yr hoffwn ganolbwyntio arno yw cludiant i'r ysgol. Yn fwyaf arbennig, hoffwn weld cludiant bws ysgol am ddim yn cael ei gyflwyno, efallai i ddechrau, er mwyn annog mwy o blant i deithio ar fws i'r...
Jayne Bryant: Diolch yn fawr, Mabon, ac rwy'n dod at bwynt lle credaf efallai y gall Llywodraeth Cymru wneud ychydig mwy ar y math hwn o faes. Mae bod mewn dyled yn aml yn teimlo fel cylch diddiwedd trallodus a rhaid rhoi blaenoriaeth i gynorthwyo trigolion i ddod allan o'r cylch hwnnw, yn hytrach na rhoi ateb dros dro yn unig i'w pryderon. O fewn yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, pe gellid rhoi...
Jayne Bryant: Ydw.
Jayne Bryant: Y peth rhwystredig i gynifer ohonom yw bod hwn yn argyfwng rydym wedi'i weld yn dod. Rydym yn gwybod bod prisiau ynni'n codi i'r entrychion, rydym wedi gwybod bod chwyddiant yn codi, ac eto beth a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol hon yn y DU? Fe wnaethant dorri credyd cynhwysol, gan ddileu achubiaeth hanfodol i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fe wnaethant ddewis codi yswiriant...
Jayne Bryant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae costau byw yn y DU yn cynyddu'n aruthrol. Mae'n destun pryder mai crib y rhewfryn yn unig yw codiadau mewn prisiau ynni gyda'r newyddion heddiw fod chwyddiant wedi cyrraedd y lefel uchaf ers 30 mlynedd, ac yn mynd i ddal i godi. Bydd pwysau ariannol yn dod yn real iawn i lawer iawn o bobl. Bydd miloedd yn rhagor yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi, yn cael eu...
Jayne Bryant: 1. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio datblygu economaidd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw DU gyfan yng Nghymru? OQ57477
Jayne Bryant: Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â chamwybodaeth am COVID-19?
Jayne Bryant: Diolch, Prif Weinidog. Mae'n galonogol iawn gweld pobl a sefydliadau â chynlluniau a mentrau i leihau eu hôl troed carbon eu hunain, ond, yn bwysicach, i leihau rhai pobl eraill hefyd. Dau sefydliad o'r fath yn fy etholaeth i yw RE:MAKE Casnewydd, sydd wedi agor y caffi trwsio parhaol cyntaf yng Nghymru, gyda chymorth llawer o wirfoddolwyr yn y gymuned, a'r fenter Sero Zero Waste arobryn,...
Jayne Bryant: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynnwys pobl leol a chymunedol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd? OQ57343
Jayne Bryant: Mae prosiect Kaleidoscope, sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i, wedi bod yn gweithredu yn y DU ers 1968. Clinig cyffuriau methadon elusennol ydyw sy'n darparu help a chlinigau cymorth i rai sy'n camddefnyddio alcohol, yn camddefnyddio cyffuriau neu'n gaeth i gyffuriau. Wrth siarad â'r cyfarwyddwr, Martin Blakebrough, ar y pwnc hwn, roedd ganddo hyn i'w ddweud: 'Yng Nghymru, fel yng ngweddill...
Jayne Bryant: Mewn cyfnod pan fo'r ymadrodd 'gwrando ar y wyddoniaeth' wedi golygu mwy nag ar unrhyw adeg mewn hanes, efallai ei bod yn briodol inni edrych eto ar ba ymchwil wyddonol sy'n flaenllaw. Er enghraifft, mae ymchwil gyfoes arloesol ar y gweill i'r defnydd o gyffuriau seicedelig mewn meddygaeth. Mae gwaith a wneir ar eu defnydd i drin cyflyrau iechyd meddwl hirsefydlog ac anhwylder straen wedi...
Jayne Bryant: Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud i James Evans a Peredur Owen Griffiths yn y ddadl hon. Mae'n 50 mlynedd eleni ers pasio Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn Senedd y DU. Er bod y polisi hwnnw wedi'i lunio i atal defnyddio cyffuriau a lleihau niwed, rydym wedi gweld cynnydd eithriadol yn y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, caethiwed a marwolaethau sy'n gysylltiedig â...
Jayne Bryant: Diolch, Prif Weinidog. Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar, canfu Carers UK fod 36 y cant o ofalwyr yng Nghymru wedi dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd; ysgrifennodd 34 y cant fod eu hiechyd meddwl yn wael neu'n wael iawn; a dywedodd 36 y cant eu bod nhw'n aml, neu bob amser, yn unig. Yn anffodus iawn, canfu hefyd fod gofalwyr yn rhoi sgôr...
Jayne Bryant: 7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gofalwyr di-dâl y gaeaf hwn? OQ57259