Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cyngor, Llywydd. Y mater i ni yw, os daw cynnig ar gyfer y safle, fel y dywedais yn ystod fy nghyfraniad, mae’n dal i fod ar agor i gynigion gan fusnesau eraill. Nid ydym wedi ffurfio barn sefydlog ynglŷn ag a ddylai’r carchar fynd yn ei flaen neu a ddylai math arall o fusnes fynd yn ei flaen. Mae hynny’n gwbl arferol.
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cyngor, Llywydd. O ran y materion yn ymwneud â llifogydd, mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder fyddai gwneud achos drwy asesiad o ganlyniadau llifogydd wrth i’r broses fynd rhagddi. Mae’r cynnig a’r gwelliannau, mewn gwahanol ffyrdd, yn eich gwahodd i gymeradwyo datganiadau camarweiniol ynglŷn â rôl a gweithredoedd Llywodraeth Cymru. Nid ydym wedi...
Carl Sargeant: Gyda phob parch i’r Aelod, rwy’n meddwl mai’r hyn y dylem barhau i’w wneud yw cadw at y ffeithiau. Rydym yn gwneud llawer o ragdybiaethau am yr hyn sy’n digwydd yma. Mae’r digwyddiad dau ddiwrnod a gynhelir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyda’ch cymuned yn broses bwysig lle y gallwch ofyn y cwestiynau hynny’n effeithiol, a gobeithio y cânt eu hateb yn unol â hynny gan y...
Carl Sargeant: Wel, gyda phob parch, mae’r rhain yn faterion ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nid yw yn ein perchnogaeth—[Torri ar draws.] Nid ein prosiect ni ydyw. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gwneud hyn. Yr hyn yr ydym yn ei groesawu yw bwriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder—[Torri ar draws.]
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar iawn, Llywydd. Cymerais oddeutu pump o ymyriadau. Rydym yn croesawu bwriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gynnal digwyddiad cymunedol deuddydd o hyd a fydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr a thrigolion weld a gwneud sylwadau ar y cynigion cyn i gais cynllunio ffurfiol gael ei wneud. Ac rwyf wedi clywed llawer o gyfraniadau gan Aelodau yn y Siambr y prynhawn yma, sydd i gyd yn amodau...
Carl Sargeant: Nac ydym. Rwy’n hapus i dderbyn ymyriad.
Carl Sargeant: Mae’n ddrwg gennyf, rwy’n meddwl bod y chwarae ar eiriau neu’r dehongliad o’r hyn a ddywedais—. Os caf egluro’r safbwynt hwnnw, fel rwyf newydd ei wneud heddiw, rydym wedi cynnig 20 o safleoedd ar draws rhanbarth de Cymru, fel y byddem yn ei wneud ar gyfer unrhyw fusnes neu unrhyw ddatblygwr arall. Nid yw hynny’n anarferol o ran y ffordd y mae llywodraethau’n cyflawni busnes....
Carl Sargeant: Iawn.
Carl Sargeant: Yr hyn a ddywedais oedd bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gofyn inni drafod cytundeb opsiwn mewn perthynas â’r tir, ond nid ydym wedi gwerthu’r tir na thrafod cytundeb ar werthiant neu werth y tir.
Carl Sargeant: Un eiliad. Nid yw’r Llywodraeth yn chwarae rôl yn y broses o ddatblygu’r carchar na rôl yn y gymuned. Efallai y byddwn yn gwneud sylwadau ar y cynigion pan fyddant ar gael. Llywydd, rydym wedi rhoi dwy drwydded i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wneud gwaith ar y tir hwnnw. Mae’r rhain yn cynnwys mesurau lliniaru ecolegol ac unwaith eto, mae hyn yn arfer cyffredin. Mae datblygwyr am wybod...
Carl Sargeant: Byddai’r manylion ar hynny’n dilyn egwyddor gyffredinol fod yna fesurau lliniaru y gall pob busnes ymateb iddynt o ran gorlifdiroedd a datblygiadau llifogydd, ac yn sicr nid yw’n anarferol i ni ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio tir ar gyfer pob busnes, fel y dywedais. Dewis y datblygwr yw hynny wedyn, os ydynt yn dymuno bwrw ymlaen i ddatblygu neu fel arall. Mynegodd y Weinyddiaeth...
Carl Sargeant: Diolch i chi, Llywydd. Rwyf wedi gwrando’n ofalus ar y ddadl heddiw, ond bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu’r cynnig a’r gwelliant fel y’u cyflwynwyd. Rhaid i mi ddechrau drwy gofnodi gweithredoedd a phwerau Llywodraeth Cymru’n gywir, a rhai o’r cyfraniadau a wnaed yn y Siambr heddiw. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw carchardai. Cysylltodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder â Llywodraeth...
Carl Sargeant: A wnaiff yr Aelod ildio?
Carl Sargeant: A allai gyfeirio at sut yr ydym wedi dynodi ein bod yn gefnogol i’r carchar? Pa ddogfennau sydd gan yr Aelod i’w dangos?
Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater hwn. Rwy’n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael ymateb go iawn gan bobl go iawn pan fyddwn yn datblygu strategaeth. Dyna pam fod gennyf oroeswyr ar fy mhanel ymgynghorol, i ddweud wrthyf am eu profiadau bywyd go iawn, i wneud yn siŵr y gallwn ei gyflawni mewn perthynas â’r rheini. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda llawer o’r unigolion yn y...
Carl Sargeant: Yn bersonol, rwy’n cefnogi egwyddorion yr Aelod y sy’n sail i hyn. Rwyf wedi ysgrifennu at Sarah Newton AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Drosedd, Diogelu a Bregusrwydd, er mwyn cael ei barn ar ymgyrch dros gofrestr troseddwyr. Byddaf yn ystyried y mater yng ngoleuni ei hymateb i hynny. Rwyf hefyd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol parthed cymhwysedd y Cynulliad i greu cofrestr...
Carl Sargeant: Rwy’n credu bod cymunedau ffydd yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau ein bod yn parhau i roi croeso yng Nghymru, ac rwy’n sicr yn hapus i ategu sylwadau’r Aelod a diolch iddynt yn bersonol am y gwaith y maent yn ei wneud yn ein cymunedau.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae ein strategaeth genedlaethol yn nodi’r camau rydym yn eu cymryd i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig. Bydd fframwaith cyflawni i gefnogi’r strategaeth yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ac rydym hefyd yn datblygu fframwaith cyfathrebu, fframwaith ymgysylltu â goroeswyr a model ar gyfer cyllido darpariaeth yn gynaliadwy.
Carl Sargeant: Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi hynny, a byddaf yn gofyn i fy nhîm sy’n ymdrin â’r rhan benodol hon o’r adran i roi sicrwydd i mi ynglŷn â’r cyllid a sut y caiff ei ddosbarthu a’i ddefnyddio, yn enwedig mewn perthynas â’r gŵr ifanc rydych yn sôn amdano. Os yw’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion, fe ystyriaf hynny’n benodol yn fy ymateb.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Eleni, rwyf wedi darparu £410,000 i helpu awdurdodau lleol i adeiladu capasiti ac arbenigedd i gefnogi dyfodiad plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yng Nghymru.