Elin Jones: Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Elin Jones: Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.
Elin Jones: Ac felly, y bleidlais olaf y prynhawn yma ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Elin Jones: Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Felly, dyna ddiwedd ar y pleidleisio am y prynhawn heddiw, ond mae yna un eitem o fusnes ar ôl.
Elin Jones: Ac felly'r eitem honno fydd y ddadl fer, ac mae'r ddadl fer y prynhawn yma ar ddiogelwch tân mewn fflatiau uchel, amserlen glir ar gyfer unioni trigolion. Dwi'n galw ar Rhys ab Owen i gyflwyno'r ddadl. Rhys ab Owen.
Elin Jones: Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar y cynllun brys ar gyfer y sector bysus, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Elin Jones: Y bleidlais nesaf, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais ar y gwelliant wedi ei gymeradwyo.
Elin Jones: Dyma ni'n dod at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, fe fyddaf i yn symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Does yna neb yn gofyn am hynny, felly fe fydd y bleidlais gyntaf ar eitem 6 ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gweinidog iechyd. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn...
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, dyma ni'n gohirio'r cynnig a'r bleidlais yna tan y cyfnod pleidleisio.
Elin Jones: Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.
Elin Jones: Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Lee Waters.
Elin Jones: Ie, ie, parhewch â’ch ymyriad ar y pwnc.
Elin Jones: A wnewch chi ildio?
Elin Jones: Na.
Elin Jones: Dwi wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a dwi’n galw ar y Dirprwy Weinidog i gynnig y gwelliant yn ffurfiol.
Elin Jones: Diolch. Jenny Rathbone.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Elin Jones: Eitem 7 sydd nesaf, felly. Dadl Plaid Cymru ar y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yw'r ddadl yma, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.
Elin Jones: Dwi'n galw nawr ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl. Darren Millar.