Lynne Neagle: Diolch ichi am yr ymyriad hwnnw. Rwy'n ymwybodol o'r amser, Rhun, ond credaf mai prif asgwrn y gynnen, mewn gwirionedd, yw'r angen am fframwaith newydd, oherwydd gwyddom yn union lle y mae angen inni ei gyrraedd gyda gwasanaethau anhwylderau bwyta. Ceir canllawiau NICE clir y mae'n rhaid inni sicrhau eu bod yn cael eu bodloni. Rydym hefyd yn sefydlu trefniadau llywodraethu clinigol newydd, a...
Lynne Neagle: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau ac am gyflwyno'r ddadl hon ar bwnc mor bwysig. Mae llawer yn y cynnig hwn rwy'n cytuno ag ef. Rwy'n ymwybodol iawn fod angen gwneud gwelliannau i wasanaethau anhwylderau bwyta ac rwyf wedi ymrwymo'n ddiffuant i hyrwyddo hyn. Rwyf hefyd yn croesawu'r sylw y mae Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta yn ei roi i'r effaith...
Lynne Neagle: Yn ffurfiol.
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn i chi, Ken. Rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw i chi fy mod yn ymrwymedig iawn i'r blynyddoedd cynnar ym mhob agwedd. Rydych chi wedi fy nghlywed i fel Aelod y meinciau cefn yn codi pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf sawl tro. Felly, mae honno'n flaenoriaeth i mi. Fel roeddech chi'n fy nghlywed i'n esbonio i Jenny Rathbone, y siaradwr blaenorol, mae hwn yn faes...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, Jenny, am eich croeso, a diolch i chi hefyd am eich ymrwymiad parhaus yn y maes gwaith hwn. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr, ac rwy'n cydnabod bod gennym ni lawer o waith i'w wneud o ran annog plant a phobl ifanc i fwyta'n iachach. Ddoe roeddwn i yn Ysgol Gynradd Ysgol-y-Graig yng Nghefn Coed ym Merthyr ar gyfer dechrau cyfres o wersi 'Eat Them To Defeat Them' gan Veg...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, Rhun, a diolch am eich croeso i'r cynllun cyflawni yr wyf i wedi'i gyhoeddi heddiw. Fel y gwnaethoch ei ddweud yn gywir, dechreuodd y strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn sgil Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ac mae hi wedi bod yn dda gwneud y gwaith yr wyf i wedi'i wneud ar bwyllgorau ynghylch ymdrin ag anweithgarwch ac ati—mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Gwnaethoch...
Lynne Neagle: Diolch i James Evans am yr amrywiaeth yna o bwyntiau, a hefyd am gydnabod maint y broblem yr ydym ni'n ei hwynebu ac am gydnabod bod y broblem honno wedi gwaethygu'n sylweddol oherwydd y pandemig. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod atal yn well na gwella, ac mae hwn yn gynllun cyflawni, fel rhan o'n strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sydd wir wedi'i wreiddio'n mewn atal problemau. Rwy'n...
Lynne Neagle: Bydd y cynllun yn datblygu dulliau gweithredu ar draws amrywiaeth o'n hamgylcheddau, o'r ffordd yr ydym ni'n bwyta ac yn prynu bwyd, o'r cartref i'n lleoliadau addysgol a hamdden er mwyn nodi sut y gallwn ni wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fod yn glir: yr ydym ni'n ceisio newid ffyrdd sefydledig o fyw ein bywydau sydd wedi datblygu dros amser ac sy'n cael...
Lynne Neagle: Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n lansio'r ail o bum cynllun cyflawni fel rhan o'n strategaeth 10 mlynedd 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Bydd ein cynllun cyflawni ar gyfer 2022-24 yn defnyddio cyfuniad o gyllid, polisïau a deddfwriaeth i ddatblygu dulliau sy'n canolbwyntio’n gryf ar atal a gwneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Bydd y cynllun yn cefnogi adferiad o'r pandemig ac yn ymdrin â'r...
Lynne Neagle: We are fulfilling our commitment in the programme for government to prioritise investment in mental health support. As part of the draft budget planning process for 2022-23, an additional £50 million, £75 million and £90 million ring-fenced funding for mental health has been agreed for 2022‑23, 2023-24 and 2024-25 respectively.
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Darren Millar am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Mae gordewdra yn gyflwr cymhleth ac ni all y Llywodraeth na'r GIG ei ddatrys wrth weithio ar eu pen eu hunain. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai dull partneriaeth a dull system gyfan yw'r unig ffordd o sicrhau newid. Strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Llywodraeth Cymru yw'r...
Lynne Neagle: Yn ffurfiol.
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, Russell, ac a gaf i gymeradwyo eich geiriau caredig am Kaleidoscope hefyd? Rydym ni'n lwcus iawn yng Nghymru i gael sefydliadau trydydd sector gwych yn y maes hwn. O ran eich sylwadau am feirysau sy'n cael eu cludo yn y gwaed, rwy'n hapus iawn i gael golwg ar y targed. Byddai angen i mi wneud hynny, yn amlwg, mewn partneriaeth â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, John, am y pwyntiau hynny. I'ch sicrhau chi, nid dim ond un llythyr yr ydym wedi'i ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi pryderon am eu hymagwedd at y bartneriaeth â ni ar y materion pwysig iawn hyn. Yn amlwg, mae'r trafodaethau hynny'n digwydd yn rheolaidd gyda'n swyddogion. Roeddwn i'n bresennol, ar ran Llywodraeth Cymru, yn uwchgynhadledd gyffuriau'r DU, lle...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, Peredur, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddod i'r grŵp trawsbleidiol, i un o'ch cyfarfodydd yn y dyfodol, ac rwy'n cydnabod bod hwn yn faes yr ydych yn teimlo'n angerddol amdano, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda chi. Rwy'n cytuno'n llwyr eto â'ch sylwadau am yr angen i beidio â throseddoli pobl. Yn anffodus, nid yw'r ymgysylltiad a gawsom gan...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, James, am y geiriau caredig hynny, y croeso i'r datganiad ac am gydnabod y gwaith cadarnhaol, a hefyd am eich cwestiynau. Mae'n galonogol iawn eich clywed yn dweud eich bod chithau hefyd yn awyddus iawn i fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n gysylltiedig ag iechyd o ran materion sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau. Dyna'r ethos sy'n llywio ein...
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n braf iawn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith sy'n cael ei wneud o dan ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019-22, wrth i ni barhau i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Nod cyffredinol y cynllun cyflawni yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio...
Lynne Neagle: Diolch am eich cwestiwn. Mae’n ddrwg iawn gennyf glywed am yr unigolyn ifanc y cyfeirioch chi ato. Rwy'n falch iawn o weld unrhyw sefydliad sy'n gweithio i gefnogi pobl sydd naill ai wedi eu heffeithio gan hunanladdiad neu i atal hunanladdiad. Nid wyf yn gyfarwydd â'r sefydliad hwn fy hun, ond rwy’n fwy na pharod i gael golwg ar y gwaith a wnânt. Yn ddiweddar, caeodd cylch ceisiadau am...
Lynne Neagle: Diolch. Darperir cymorth iechyd meddwl yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gan y GIG ac amrywiaeth o bartneriaid. Mae rhaglen drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu manteision pellach.
Lynne Neagle: Diolch, Mark. Fel y dywedoch chi, nododd adolygiad 2018 agenda radical ar gyfer newid, ond roeddem yn glir iawn y byddai’n rhaid gwneud hynny fesul cam. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Beat; rydym yn rhoi £100,000 i Beat. Felly, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Beat am y cymorth hynod bwysig y maent yn ei ddarparu fel sefydliad trydydd sector. Ni chefais gyfle i gael mwy na...