Janet Finch-Saunders: Diolch, unwaith eto, Weinidog. Ni allaf ddadlau â’r ymateb hwnnw o gwbl. Nawr, fy mhwynt olaf: yn y gyllideb ar gyfer 2023-24, mae cyllid diogelwch adeiladau ar fin cael gostyngiad o 37 y cant mewn adnoddau. Er bod y gyllideb ddangosol wedi neilltuo £9.5 miliwn ar gyfer 2023-24, mae dyraniad y gyllideb ddrafft wedi gostwng i £6 miliwn. Rwyf braidd yn ddryslyd ac efallai y gallech...
Janet Finch-Saunders: Diolch am eich ateb cynhwysfawr, Weinidog, rwy'n ei werthfawrogi'n fawr. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi, po hiraf y mae’n ei gymryd i ddatrys yr argyfwng hwn, y mwyaf yw’r pwysau meddyliol ac ariannol ar y trigolion agored i niwed hyn. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi hefyd na ddylem fod yn caniatáu i bobl eraill fanteisio ar hyn ac elwa'n ariannol. Y rheswm pam rwy'n sôn...
Janet Finch-Saunders: Diolch, Lywydd, a diolch, Weinidog, Nawr, ni ellir gwadu bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael ag adeiladau anniogel. Mae'r Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS wedi anfon contractau cyfreithiol rwymol i bob datblygwr a fydd yn eu hymrwymo i dalu i gyweirio'r adeiladau anniogel hyn. Bydd y contract hwn yn golygu bod datblygwyr yn ymrwymo oddeutu £2 biliwn neu fwy ar gyfer...
Janet Finch-Saunders: Iawn. Pa gamau y gallwch eu cymryd, Weinidog? Sut rydym yn gwneud cynnydd ar hyn? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod gennym yr amddiffynfeydd môr cywir sydd eu hangen arnom, ond y gallwn hefyd, ar ryw gam, weld ein traeth tywodlyd yn cael ei adfer yn Llandudno? Diolch.
Janet Finch-Saunders: Diolch, Weinidog. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol, yn 2014, fod oddeutu 50,000 tunnell o graig chwarel ffres a budr wedi cael ei ddympio heb unrhyw rybudd ar ein traeth tywodlyd hyfryd, traeth y gogledd yn Llandudno. Ar y pryd, fe'i gelwid yn 'raean'. Roedd y dref yn gandryll, gyda thrigolion, ymwelwyr a pherchnogion busnesau yn dal yn flin hyd heddiw. Gallaf gofio'r ewyn llaethog, gwyn...
Janet Finch-Saunders: 2. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu ar gyfer cymunedau arfordirol sy'n wynebu bygythiad o lifogydd? OQ59079
Janet Finch-Saunders: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Janet Finch-Saunders: Diolch, Mabon. Diolch, Mabon, yn fawr iawn. Mae yna rywfaint o eironi yma, onid oes? Y rhesymau pam y mae'r niferoedd sy'n ddigartref yn cynyddu, mewn gwirionedd, yw o ganlyniad i lawer o landlordiaid preifat—ac rwy'n datgan buddiant—mewn gwirionedd yn cyflwyno ffurflenni adran 21. Rydych chi wedi cefnogi'r holl feichiau rheoleiddio ychwanegol hynny sydd wedi'u gosod ar landlordiaid...
Janet Finch-Saunders: Iawn. Pum miliwn ar hugain o bunnoedd mewn arian cyfalaf tuag at gostau gwaith adferol i wneud eiddo yn arferadwy. Mae angen i Lywodraeth Cymru amlinellu sut mae'n ceisio hybu tai gwag. Yn rhy aml, rydyn ni'n gweld y blaenoriaethau anghywir yn cael arian. Beth bynnag, dyna fy marn i ar hyn. Rwy'n credu bod y gyllideb hon yn wael iawn. Rwy'n credu nad yw'n uchelgeisiol o gwbl. Rydyn ni'n...
Janet Finch-Saunders: Gwnaf.
Janet Finch-Saunders: Wel, rwy'n anghytuno bod diffyg llwyr o'r cyllid hwn. Ar ddiwedd y dydd, rydym ni wedi bod â datganoli yma yng Nghymru ers 25 mlynedd. Mae gennym ni boblogaeth o ychydig dros 3 miliwn. Y biliynau sy'n dod i mewn i Gymru—£18 biliwn? Chi sy’n amhriodol yn hyd yn oed gofyn cwestiwn fel yna. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru egluro sut mae hyn wedi'i leihau, er gwaetha'r targed i ddiwallu...
Janet Finch-Saunders: Yn amlwg, hoffwn fynd i'r afael â fy mhryderon am y gyllideb o ran y portffolio. Os ydym ni ond yn edrych ar Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr anwybyddu llawer o rybuddion rydyn ni wedi'u gweld mewn adroddiadau pwyllgorau ac ymchwiliadau nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei ariannu'n ddigonol, ac eto, maen nhw wedi dewis cynnal ei lefel bresennol o...
Janet Finch-Saunders: Iawn. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau y gall fy etholwyr, a chleifion ar draws y gogledd, dderbyn eu triniaeth feddygol mewn cyfleusterau diogel? Diolch.
Janet Finch-Saunders: Diolch, Trefnydd. Nawr, yn syfrdanol, mae tua 74 y cant o'r adeiladau sy'n eiddo i'r bwrdd hwn yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch statudol, dim ond 64 y cant sy'n cydymffurfio â gofynion diogelwch tân statudol perthnasol, a dim ond 62 y cant sy'n weithredol ddiogel. Ac mae hynny'n bryder mawr iawn i fy etholwyr a hefyd i gleifion ar draws y gogledd. Yn Ysbyty Gwynedd, mae'r...
Janet Finch-Saunders: 2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddiogelwch adeiladau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn berchen arnynt? OQ59098
Janet Finch-Saunders: Hoffwn ddiolch yn fawr i'n cyd-Aelod Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw, ac rwy'n falch iawn o roi fy nghefnogaeth iddo. Wrth gwrs, fel Gweinidog yr wrthblaid dros newid hinsawdd, rydym yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn croesawu technolegau newydd oherwydd y ffordd y gallant wella ein systemau lleihau allyriadau, ac mae hwn yn rhywbeth y gall Cymru arwain...
Janet Finch-Saunders: Diolch. Yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru, cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r Bil at bwyllgor cyfrifol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1. Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Busnes, un o'r rhesymau pam y gwnaethoch ofyn am amserlen gyflymach ar gyfer gwaith craffu'r Senedd oedd, ac rwy'n dyfynnu, 'oherwydd ei fwriad i ddefnyddio'r Bil fel enghraifft ymarferol i gefnogi ei achos mewn...
Janet Finch-Saunders: 8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar weithredu'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)? OQ58984
Janet Finch-Saunders: Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i pholisi ynglŷn â statws cyfreithiol hunanadnabod rhywedd?
Janet Finch-Saunders: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Rydym i gyd yn cytuno mai cyflenwad lleol o ynni adnewyddadwy diogel, fforddiadwy o fewn cyd-destun rhwydwaith Brydeinig gref yw'r sylfaen i gymdeithas ddi-garbon ffyniannus. Mae angen i ni fod yn uchelgeisiol i gyflawni'r gymuned honno yr ydym eisiau i Gymru fod, felly rwy'n croesawu eich penderfyniad, Gweinidog, i osod targed i Gymru gynhyrchu...