Laura Anne Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae rhaglenni cyfnewid dysgu yn gyfleoedd gwych i bobl ifanc. Ond gan roi'r ffaith eich bod chi wedi gwario miliynau a miliynau o'r neilltu—£65 miliwn, mewn gwirionedd—yn ailddyfeisio'r olwyn a chreu cynllun sydd ond ychydig yn wahanol i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig, mae gen i gwestiynau ymarferol yr hoffwn i eu gofyn. Fel rydych chi...
Laura Anne Jones: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ddydd Mawrth diwethaf, yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog, dywedodd y Prif Weinidog mai’r dystiolaeth yw, i’r rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio e-sigarét, eu bod yn gwneud hynny yn ogystal ag yn hytrach nag yn lle sigaréts confensiynol—nodwyd defnydd deuol gan 85 y cant mewn astudiaethau diweddar. Dyna a ddywedodd. Siaradodd fy swyddfa ag ASH Cymru yn fuan...
Laura Anne Jones: Diolch, Lywydd. A wnewch chi gymryd camau ar unwaith i sicrhau bod adnoddau addysg awdurdodau lleol, ysgolion a gwasanaethau ieuenctid yn addas i'r oedran, a chael gwared ar y rhai nad ydynt yn addas ar unwaith, a hefyd y rheini sy'n cyfeirio pobl at Mermaids? A wnewch chi ymrwymo i adolygu deunyddiau y gwelwyd eu bod yn ddiangen ar gyfer y grŵp oedran hwn, a sicrhau bod y deunyddiau’n...
Laura Anne Jones: Diolch, Weinidog. Roeddwn yn dod at hynny; rwyf ar fin darllen dyfyniad i chi o lyfr sydd i fod ar gyfer plant pump oed. Weinidog, enw’r llyfr hwn, a argymhellwyd, yw Who are you?, sy'n cynnwys y dyfyniad hwn: 'Pan fydd babanod yn cael eu geni, mae pobl yn gofyn ai merch neu fachgen ydyn nhw. Ni all babanod siarad, felly mae oedolion yn dyfalu drwy edrych ar eu cyrff.' —ar gyfer plant...
Laura Anne Jones: Weinidog, gadewch imi ddarllen dyfyniad i chi o lyfr—
Laura Anne Jones: Iawn. Weinidog, mae’n bwysig fod pawb yn gallu bod yn bwy bynnag y dymunant fod, ac mae angen inni addysgu dealltwriaeth a pharch at bawb. Ond onid ydych yn cytuno â mi fod angen i'r hyn sy'n cael ei ddysgu fod yn gwbl addas ar gyfer oedran y plentyn hwnnw, fel eu bod (1) yn deall yr iaith a ddefnyddir, a (2) yn ddigon aeddfed yn emosiynol i dreulio ei gynnwys?
Laura Anne Jones: Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf bob amser wedi bod yn gefnogol i’r syniad fod angen diweddaru addysg rhyw yng Nghymru. Roedd wedi dyddio ac roedd angen ei newid, ond yn y ffordd iawn. Mae'r methiannau amlwg a welwn mewn perthynas ag addysg cydberthynas a rhywioldeb yn peri gofid i mi. Os na chaiff pethau eu haddasu, byddwn yn colli cyfle yma i fynd ati o ddifrif i wella addysg rhyw i blant a...
Laura Anne Jones: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo e-sigaréts i ysmygwyr? OQ58526
Laura Anne Jones: Trefnydd, hoffwn i hefyd ailadrodd galwadau gan Jane Dodds yn gynharach ac eraill ar draws y pleidiau, ar draws y Siambr, i Lywodraeth Cymru fabwysiadu sefyllfa llais gryf, hyd yn oed os daw hyn o dan Lywodraeth y DU i weithredu. Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd gyda chyhoeddiad ffurfiol o'i gynlluniau i ddisodli safon uwch a...
Laura Anne Jones: Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano ar addysg gartref. Fel y gwyddoch chi, Trefnydd, dair wythnos yn ôl, gofynnais i am ddatganiad brys gan y Llywodraeth hon am gynigion ar gyfer addysgu gartref yng Nghymru. Mae'r gymuned yn awyddus iawn am atebion, felly hoffwn i roi pwysau arnoch chi am ddatganiad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach gan y Gweinidog addysg. Yn olaf, Dirprwy Lywydd,...
Laura Anne Jones: Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r gwahaniaethau rhwng y nifer a gaiff eu derbyn i brentisiaethau gradd a'r nifer a gaiff eu derbyn i brifysgolion?
Laura Anne Jones: Mae'n ddrwg gennyf am dorri ar eich traws. Hoffwn ddweud, Weinidog, onid ydych yn credu bod angen inni fanteisio cymaint ag y gallwn, yn enwedig ar ddigwyddiadau chwaraeon mawr, drwy fuddsoddi hefyd mewn cyfleusterau chwaraeon llawr gwlad? Oherwydd os ydym yn ysgogi'r holl ddiddordeb hwn mewn chwaraeon—er enghraifft, pêl-droed, neu beth bynnag—mae'n drueni mawr nad yw rhai pobl ledled...
Laura Anne Jones: Prif Weinidog, yn ddiweddar, cafodd adroddiad ei ryddhau yn llyfrgell Tŷ'r Cyffredin sy'n dangos mai gwrywod gwyn, dosbarth gweithiol sy'n lleiaf tebygol o fynd i'r brifysgol yn y DU. Ar ôl ymchwilio ychydig i ffigurau Cymru, gwelais i fod y ffigurau'n dangos bod y bwlch rhwng y rhywiau yng Nghymru yn hyn o beth, ar gyfartaledd, yn waeth na chyfartaleddau'r DU a Lloegr. Ac o fewn y bwlch...
Laura Anne Jones: Prif Weinidog, ydych chi, fel fi a gweddill fy mhlaid, yn croesawu'r pecyn ynni enfawr y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi a fydd o fudd uniongyrchol i bobl, ein hetholwyr ni, ym Mlaenau Gwent? Sut ydych chi'n mynd i gefnogi busnesau yn eu brwydr i oroesi dros fisoedd y gaeaf sydd i ddod?
Laura Anne Jones: Rwy'n credu bod hynny braidd yn rhagrithiol, Prif Weinidog—rydych chi'n sefyll yna ac yn dweud hynny, gyda'ch hanes chi o ran cyflawni yng Nghymru—[Torri ar draws.]
Laura Anne Jones: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gau'r bwlch rhwng y rhywiau ymhlith myfyrwyr addysg uwch? OQ58490
Laura Anne Jones: Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr â chi; mae ei angen arnom i gadw plant yn ddiogel ac yn iach. Yr hyn sy'n amlwg yw bod Stonewall, grŵp a gâi ei edmygu ac a dorrai dir newydd ar un adeg, yn amlwg â gafael haearnaidd ar gynghori'r Llywodraeth hon, rhywbeth sydd ynddo'i hun yn codi pryderon pan fyddant yn ystyried bod plant mor ifanc â thair oed yn gallu penderfynu eu bod yn drawsrywiol. Mae...
Laura Anne Jones: Weinidog, nid wyf yn cefnogi'r sylwadau hynny; rwy'n siarad fel rhiant fy hun i un sydd bron yn eu harddegau ac o'r hyn a glywais ar hyd a lled Cymru. Fel llawer o rieni ar hyd a lled Cymru, rwy'n teimlo siom enfawr hyd yma ynghylch yr hyn a glywaf sy'n cael ei gyflwyno ar lawr gwlad. Rwy'n ofni bod yr hyn sy'n digwydd yn cael yr effaith groes i'r hyn a fwriadwyd, ac roeddem i gyd eisiau'r un...
Laura Anne Jones: Diolch, Lywydd. Weinidog, sefais yma yn ôl yn 2021 pan ddeuthum i'r Senedd hon am y tro cyntaf, y Senedd ddiwethaf, ac er fy mod ar y pwyllgor addysg, fe ddeuthum yn hwyr i'r adolygiad, ond fe wrandewais ar y dystiolaeth a chredu'r Llywodraeth pan ddywedasant eu bod eisiau newid addysg cydberthynas a rhywioldeb er gwell, rhywbeth yr oedd ei angen yn fawr. Fe nodais fy mhrofiad fy hun o...
Laura Anne Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae gennyf i dri chwestiwn syml yr hoffwn i atebion iddyn nhw. Gweinidog, rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi bod arian ychwanegol newydd wedi bod ar gael i uwchraddio ac ehangu ceginau, ond roedd amseru'r arian a gafodd ei roi yn destun rhywfaint o bryder i mi. Meddwl oeddwn i tybed a yw wedi bod yn bosibl cyflawni'r holl uwchraddio yn ein hysgolion mewn pryd...