Sioned Williams: Diolch. Dair wythnos yn ôl, gwnaeth glaw trwm orlwytho draeniau a chwlfertau mewn nifer o gymunedau yn fy rhanbarth i a gwelais effaith hyn yn uniongyrchol, yng Nghwm Tawe a'r diwrnod canlynol yn ardal Melincryddan, Castell-nedd, a dyma'r trydydd tro yn ystod y blynyddoedd diwethaf i'r Melin ddioddef llifogydd difrifol. Roedd yn dorcalonnus siarad â thrigolion a fynegodd eu tristwch, eu...
Sioned Williams: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer cymunedau sy'n profi llifogydd yng Ngorllewin De Cymru? OQ58741
Sioned Williams: Rwy'n falch o'r cyfle i siarad yn y ddadl hon fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anableddau dysgu. Mae Plaid Cymru yn gwbl gefnogol o fesurau i wella mynediad cyhoeddus o bob math i bobl anabl a phobl sydd ag anghenion penodol, ac rŷn ni'n falch o weld bod y cynnig hwn ynghylch sicrhau argaeledd toiledau Changing...
Sioned Williams: Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, rwy'n croesawu argymhellion yr adroddiad pwysig hwn. Fel y soniodd Paul Davies, mae nifer o'r argymhellion hyn yn adleisio ac yn tanlinellu llawer o'r rhai a wnaed gan nifer o adroddiadau gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar faterion sy'n ymwneud â thlodi a'r argyfwng costau byw, yn ogystal â galwadau...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Bu menywod o bob rhan o Gymru'n gorymdeithio yn ddiweddar dros sicrhau newid mewn arferion gweithle sydd ar hyn o bryd yn creu anfantais i famau. A bydd y Gweinidog yn ymwybodol o adroddiad newydd gan Chwarae Teg sy'n dangos bod y bwlch cyflog ar sail rhywedd yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel ar 11.3 y cant eleni. Ar bron i 30 y cant, mae'r bwlch ar ei uchaf yng Nghastell...
Sioned Williams: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth y Llywodraeth ar gyfer gwella canlyniadau'r farchnad lafur i fenywod? OQ58707
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae Plaid Cymru yn falch o'r pwyslais ar hyrwyddo, ehangu a datblygu addysg gydol oes yn ein cytundeb cydweithredu gyda'r Llywodraeth a'n cydweithio ar sefydlu'r comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil. Mae'n hanfodol sicrhau nawr bod ffocws y comisiwn yn dynn ar y ffaith bod Cymru yn llwyddo'n well yn y nod o ddod yn genedl ail gyfle, wedi blynyddoedd o...
Sioned Williams: Nid mater o gydraddoldeb rhyw yn unig yw hyn, mae hefyd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar fenywod yn anghymesur, ac yn ôl arolwg diweddar gan YouGov, mae un o bob wyth o bobl yn dweud y byddant yn ei chael hi'n anodd fforddio cynnyrch mislif dros y flwyddyn nesaf. Ac wrth gwrs, nid dewis yw'r mislif, ac i lawer o fenywod, mae'n...
Sioned Williams: Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a gynhaliodd ymchwiliad i'r rhaglen Cartrefi Clyd, gan wneud argymhellion o ran dysgu gwersi a gwella fersiwn newydd y rhaglen. Wrth ymateb i'r argymhellion, fe awgrymodd y Llywodraeth y byddai diweddariad ynglŷn â'r fersiwn nesaf yn fuan wedi toriad yr haf. Mae'ch datganiad heddiw, a ninnau nawr ym mis Tachwedd, yn hwyr ac yn...
Sioned Williams: Diolch. Dros y degawd diwethaf, mae'r gwasanaethau a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedau wedi cynyddu, ond mae niferoedd y fferyllfeydd cymunedol wedi aros yn eithaf sefydlog, er gwaethaf gofynion a diwygiadau gofal iechyd cynyddol, fel y rhai yr ydych chi newydd eu crybwyll, i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i dimau fferyllfeydd cymunedol gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal. Ond mae...
Sioned Williams: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl fferyllfeydd cymunedol o ran gwella a hybu iechyd trigolion Gorllewin De Cymru? OQ58648
Sioned Williams: Yr hyn a oedd yn amlwg i ni o'r dystiolaeth a glywsom ni fel pwyllgor oedd bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mor gyffredin fel ei fod yn cael ei dderbyn fel ymddygiad normal. Hwnna oedd y peth mwyaf trawiadol i fi, yn sicr, a bod ysgolion hefyd yn cael trafferth i ddelio gyda hyn yn effeithiol. Mae'r effaith yn un sydd, mewn rhai achosion, yn effeithio'n ddifrifol ar les, cyrhaeddiad ac...
Sioned Williams: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n anodd pan ydych ar Zoom a phan fo gennych COVID. Hoffwn ddweud wrth Jenny, sy'n dymuno aros, na all teuluoedd aros. Byddai’n well gennyf wrando ar y rheini a chanddynt brofiad bywyd, yn hytrach na Gordon Brown, ynghylch yr atebion sydd eu hangen. Mark Isherwood, diolch am eich cefnogaeth. Rwy’n cytuno nad yw’r rhain yn syniadau newydd. Mae'n hen bryd...
Sioned Williams: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddar gofynnodd etholwr sy'n ei chael hi'n anodd talu ei biliau, 'Beth yw pwynt Llywodraeth Cymru os na allant ein helpu?' Mae'n gwestiwn dilys, oherwydd pa les yw datganoli os ydym yn ddi-rym i warchod ein dinasyddion mwyaf bregus fan lleiaf? Mae'r cynnig sydd o'ch blaen yn ffordd o wneud y pwerau sydd gennym, yr adnoddau y gallwn eu defnyddio, yn fwy...
Sioned Williams: Diolch. Yn dilyn cais am adolygiad barnwrol gan Rhieni dros Addysg Gymraeg, fe ddyfarnodd yr Uchel Lys ddydd Llun fod penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i agor ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe yn anghyfreithlon am iddyn nhw fod wedi methu ag asesu effaith hyn ar y Gymraeg ac yn benodol ar addysg Gymraeg. Mae'r dyfarniad wedi'i ddisgrifio fel un o bwys cenedlaethol...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Mewn llythyr diweddar, gofynnodd arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i mi bwyso am fwy o adnoddau ychwanegol er mwyn galluogi'r cyngor i barhau i gefnogi ei gymunedau drwy'r argyfyngau presennol. Mae'n cymharu'r argyfwng costau byw presennol ag argyfwng COVID, pan ddangosodd llywodraeth leol dro ar ôl tro sut y mae mewn sefyllfa unigryw i ymateb i anghenion lleol. Ond...
Sioned Williams: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllido awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58621
Sioned Williams: 1. A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys ar gynlluniau addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot? TQ670
Sioned Williams: Yn olaf, rŷch chi'n cyfeirio yn eich datganiad nad ydych chi wedi cael unrhyw ymgysylltiad ag olynydd yr Arglwydd Harrington, a oedd yn Weinidog ffoaduriaid yn Llywodraeth San Steffan, ac rwyf am roi ar gofnod farn Plaid Cymru fod hyn yn gwbl warthus ac yn gwbl anfaddeuol yng ngolau'r argyfwng sydd yn wynebu'r miloedd o ffoaduriaid yng Nghymru sydd mewn sefyllfa mor anodd wrth geisio...
Sioned Williams: Mae cynghorau Cymru yn ein rhybuddio eisoes eu bod yn mynd i fod yn wynebu diffygion enfawr yn eu cyllidebau o ganlyniad i bandemig COVID, adweithiau'r farchnad i anhrefn San Steffan, yr argyfwng ynni a phwysau chwyddiant oherwydd yr argyfwng costau byw hwn. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio bod cynghorau mewn perygl o gael eu gorfodi i wneud toriadau sylweddol i...