I want to write to Samuel Kurtz

Canlyniadau 81–100 o 400 ar gyfer speaker:Samuel Kurtz

11. Dadl Fer: Rasio ceffylau: Ased economaidd ac ased chwaraeon i Gymru (16 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am roi amser i mi yn ei ddadl, oherwydd mae'n hanfodol bwysig, fel rhywun a fagwyd yn marchogaeth ceffylau—nid mor fedrus ag un Aelod Seneddol sydd ar ei wyliau mewn jyngl benodol ar hyn o bryd—roeddwn i'n un o'r rhai a oedd allan yn carthu stablau ceffylau ac ati, ac rwy'n deall y diwydiant; mae'n gwbl fywiog ac iach yn rhannau gwledig ein hetholaethau. A thrwy...

7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig — 'Pwysau costau byw' (16 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd tuag at ffurfio adroddiad y pwyllgor hwn. Fel y clywsom eisoes y prynhawn yma, mae hwn yn fater eithriadol o berthnasol i deuluoedd ac aelwydydd ledled Cymru. Ond fel y mae'r adroddiad hwn yn nodi'n briodol, mae'r cynnydd mewn costau byw i'w deimlo hyd yn oed yn fwy difrifol yng nghymunedau gwledig Cymru, fel y rhai yn fy etholaeth fy hun, Gorllewin...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (16 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i Cefin Campbell am gyflwyno'r cwestiwn hwn, yn benodol mewn perthynas ag arwyddocâd cysylltiadau rhynglywodraethol cryf rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wrth gwrs. Weinidog, ar bwnc trafodaethau rhynglywodraethol, rwy'n siŵr y byddwch chi a'ch cyd-Aelodau yn ymwybodol o'r cais trawsnewidiol ar gyfer y porthladd rhydd Celtaidd. Os caiff ei...

8. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2021-22 (15 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i'r Llywodraeth am sicrhau amser i drafod yr adroddiad pwysig hwn, a hoffwn ailadrodd geiriau'r Gweinidog a thalu teyrnged i Aled Roberts. Roedd Aled yn berson gwych, nid yn unig yn wleidydd medrus ond hefyd yn was cyhoeddus caredig a oedd yn barod i sefyll ar ei draed a churo'r drwm dros ein cymunedau Cymraeg. Roedd yn deall beth sydd gan ein hiaith i’w chynnig i’r Gymru...

6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (15 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Roeddwn yn wir yn arbennig o falch o glywed y cyfeiriad at nifer y mentrau cyfredol, gan gynnwys yr un yng Nghyngor Sir Gâr a'r gyfrifiannell maethynnau newydd ei datblygu ac adfer cynefinoedd critigol. Fel y dywedwch chi, mae dyfroedd ffyniannus yn hanfodol ar gyfer cefnogi cymunedau iach, busnesau ffyniannus a...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 Tach 2022)

Samuel Kurtz: A gaf i ofyn am ddatganiad gennych chi fel Gweinidog Materion Gwledig a'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y cynnydd syfrdanol i ffioedd rheoleiddio a thaliadau Cyfoeth Naturiol Cymru? Yn unol ag ymgynghoriad CNC ar drwyddedau, bydd y cynnydd yn cael ei nodi ledled sawl cyfundrefn codi tâl o fis Ebrill 2023 ymlaen, ac mae'n cynnwys cynnydd o ddeng gwaith yng nghost ceisiadau newydd ar gyfer...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rhandiroedd Cymunedol (15 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Diolch i haelioni Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, rhoddwyd dros erw o dir yn rhodd i'r gymuned leol i dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain, gan alluogi tua 40 o drigolion sir Benfro o bob cenhedlaeth i edrych ar ôl eu darn nhw eu hunain o dir. Arweiniwyd y prosiect gan Grŵp Resilience, ymgyrch a arweinir gan y gymuned, sy'n ceisio meithrin hunanddibyniaeth ac ysbryd cymunedol trwy...

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig — 'Codi’r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu' ( 9 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy adleisio sylwadau fy nghyd-aelodau pwyllgor drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd a'r tîm clercio am lunio'r adroddiad hwn. Daw ar adeg hynod bwysig i'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth, yn enwedig yng nghyd-destun deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, felly rwy'n falch ein bod yn cael cyfle i adolygu economi ymwelwyr Cymru a gosod set...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi Tanwydd ( 9 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am gyflwyno’r cwestiwn hwn, gan fod llawer o’r amgylchiadau a ddisgrifiodd hefyd yn berthnasol i fy etholaeth innau, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Ond mae hefyd yn bwysig nodi, i lawer o aelwydydd gwledig, fod eu cartref hefyd yn gweithredu fel man busnes, ac mae hyn yn hynod o bwysig i’r rheini yn y gymuned...

8. Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog ( 8 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Mae gan fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro hanes milwrol balch sy'n dyddio'n ôl dros ganrifoedd. Mae tref Doc Penfro wedi bod yn gartref i'r tri rhan cyfansoddol o'n lluoedd arfog. Am 113 o flynyddoedd, o 1815, bu'n gartref i iard ddociau brenhinol a adeiladodd bum cwch hwylio brenhinol a 263 o longau'r Llynges...

5. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ffliw adar ( 8 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y cyfle i weld datganiad y prynhawn yma ymlaen llaw, yn enwedig gan ei bod wedi cael diwrnod prysur iawn ar y fainc flaen. Mae'r straen hwn o ffliw adar, H5N1, yn briodol yn fater o bryder difrifol. Yn wir, rydym yn dyst i heintiau ar draws ein poblogaethau adar, o adar gwyllt i adar caeth. Nid yw'r clefyd hwn yn parchu ffiniau, ac nid yw'n glynu wrth lawer o...

4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Polisi Ynni ( 8 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma, ac un pwynt penodol a dynnodd fy sylw oedd yr eglurhad ynghylch defnyddio hydrogen glas fel ffordd o bontio tuag at ddefnyddio hydrogen gwyrdd. A bydd y Gweinidog yn ymwybodol, yn gynharach heddiw yn fy nghyfraniad i'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, siaradais am wynt arnofiol ar y môr a phosibiliadau hynny oddi ar arfordir de sir...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ynni Adnewyddadwy ( 8 Tach 2022)

Samuel Kurtz: Diolch, Trefnydd. Wythnos neu ddwy yn ôl, nododd RenewableUK Cymru wythnos ynni'r gwynt Cymru trwy gynnal derbyniad yma yn y Senedd. Trefnydd, rwy'n siŵr y byddwch chi wedi diflasu arnaf i'n manteisio ar bob cyfle ers gael fy ethol i dynnu sylw dro ar ôl tro at y cyfle cyffrous a'r potensial sydd oddi ar arfordir de sir Benfro yn y môr Celtaidd o ran ynni adnewyddadwy, ac ynni gwynt ar y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ynni Adnewyddadwy ( 8 Tach 2022)

Samuel Kurtz: 9. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo cynhyrchu ynni adnewyddadwy? OQ58642

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Strôc (26 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r cynnig hwn, yn enwedig o gofio ei bod yn Ddiwrnod Strôc y Byd 2022 ddydd Sadwrn. Fel y soniodd Mark Isherwood yn ei sylwadau agoriadol, ar gyfartaledd, bydd 7,400 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn yng Nghymru, a dyna yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yn y wlad hon. Felly, ni ellir bychanu pwysigrwydd gwasanaethau strôc cyflym o ansawdd...

6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod — Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) (26 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n llongyfarch Sam Rowlands ar ei lwyddiant yn y bleidlais ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon ar ei Fil Addysg Awyr Agored (Cymru). Fel rhywun a oedd yn ddigon ffodus i dyfu i fyny mewn ardal wledig yn sir Benfro gyda chefn gwlad y tu allan i ddrws y tŷ, roeddwn bob amser yn ddigon ffodus i allu mwynhau ein byd natur yn llawn. Yn wir, mae'r...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (26 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Byddwn yn dweud wrthych chi a'ch swyddogion fod y dystiolaeth a roddwyd gan yr Aelod a oedd yn cynrychioli tir comin yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf yn eithriadol. Byddwn yn eich annog chi a'ch tîm i edrych ar hynny fel man cychwyn i bryderon y rhai sy'n gysylltiedig â thir comin. Ac yn olaf, Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn rhannu fy llawenydd wrth weld twf sector gweithgynhyrchu bwyd a...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (26 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar am hynny. Yn ail, wrth graffu ar y Bil amaethyddiaeth, mae'r pwyllgor rwy'n rhan ohono wedi cymryd tystiolaeth gan undebau ffermio a sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, ac er bod gwahaniaeth barn, ceir consensws a chytundeb cyffredinol. Ond ar ôl derbyn tystiolaeth gan Gymdeithas y Ffermwyr Tenant a Chymdeithas Cominwyr Mynydd Eglwysilan, Mynydd Meio a Chraig Evan...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (26 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Christianne Glossop, a wasanaethodd fel prif swyddog milfeddygol Cymru am 17 mlynedd cyn iddi roi'r gorau iddi yn gynharach y mis hwn? Mae hi wedi gwasanaethu dan nifer o Weinidogion materion gwledig, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i gofnodi ein diolch am ei gwasanaeth a dymuno'r gorau iddi ar gyfer y dyfodol. Hefyd, hoffwn gyfeirio'r...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Perchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn (26 Hyd 2022)

Samuel Kurtz: Diolch. Cefais gyfle yn ddiweddar, a phleser yn wir, o ymweld â Dogs Trust Cymru yn eu canolfan ailgartrefu o'r radd flaenaf yma ym Mae Caerdydd. Mae'r tîm yn gwneud gwaith rhyfeddol o adsefydlu, cysuro ac ailgartrefu'r cŵn, sydd, am amryw o resymau wedi'u gadael gan eu perchnogion blaenorol. Tra oeddwn yn y ganolfan, cyfarfûm â nifer o gŵn da a oedd, yn anffodus, wedi dioddef...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.