Canlyniadau 81–100 o 300 ar gyfer speaker:Cefin Campbell

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi Tanwydd (28 Meh 2022)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Mae'n dda clywed bod y mater hwn ar yr agenda, achos fel rŷch chi'n gwybod, mae costau tanwydd wedi codi ym mhob rhan o Gymru, ond yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Wrth deithio o sir Gaerfyrddin y bore yma i Gaerdydd, roedd hi'n amlwg bod pris petrol a disel rhyw 5c neu 6c y litr yn fwy yn y gorllewin o gymharu â fan hyn yn y brif ddinas.  Mae pobl...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi Tanwydd (28 Meh 2022)

Cefin Campbell: 7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58268

4. Datganiadau 90 Eiliad (15 Meh 2022)

Cefin Campbell: Diolch, Llywydd. Dwi eisiau talu teyrnged i Phil Bennett, a fu farw dros y penwythnos yn 73 oed. Roedd Phil yn un o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed i gynrychioli Cymru, y Llewod a'r Barbariaid. I'r rhai ohonom a gafodd y fraint o'i weld yn chwarae yng nghrys coch Llanelli neu Gymru, roedd yn wledd i'r llygaid. Disgrifiwyd y ffordd roedd Benny yn rhedeg ac yn ochrgamu fel poetry in motion....

9. Dadl: Darlledu (14 Meh 2022)

Cefin Campbell: Felly, i gloi, yn wyneb y diffyg hwn o ran plwraliaeth a thegwch, gadewch i ni felly gymryd cam arall heddiw i sicrhau democratiaeth iach a hyfyw yng Nghymru drwy gefnogi'r cynnig sydd ger bron, fel bod ein llais ni yn cael ei glywed a'n stori ni fel pobl yn cael ei hadrodd ar yr holl ystod o gyfryngau posibl. Diolch yn fawr.

9. Dadl: Darlledu (14 Meh 2022)

Cefin Campbell: Mae'r pandemig wedi ein gweld yn newid ein harferion dyddiol, gan gynnwys ein gwaith, ein bywydau teuluol a'n bywydau cymdeithasol, cyfnod lle bu aelwydydd ledled Cymru yn ymuno â chynadleddau wythnosol Llywodraeth Cymru i'r wasg, yn awyddus i wybod mwy am y pandemig yng Nghymru a'n hymateb iddo. Mae'r gair 'ein' yn arwyddocaol yma. Rwy'n credu nad gor-ddweud o bell ffordd yw dweud bod...

9. Dadl: Darlledu (14 Meh 2022)

Cefin Campbell: Gaf i ddatgan diddordeb ar y dechrau fel Aelod dynodedig a, digwydd bod, mae'r maes hwn yn un o'r cyfrifoldebau sydd gen i fel rhan o'r cytundeb cydweithio? Rwy’n hynod o falch fy mod i'n gallu cyfrannu at y ddadl hon, dadl sy’n bwysig iawn, yn fy marn i, i’n democratiaeth ni fel cenedl ac un sydd â’r potensial i fod yn hanesyddol, wrth i ni baratoi’r tir ar gyfer datganoli...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus (25 Mai 2022)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i Jack Sargeant am ddod â'r ddadl bwysig hon ger bron y prynhawn yma. Hoffwn i ddechrau drwy adleisio geiriau pobl ifanc Cymru o neges heddwch ac ewyllys da Urdd Gobaith Cymru yr wythnos diwethaf:  'Mae'r cloc yn ticio ac mae'n byd ni ar dân'. Ac yn wir, yn y datganiad pwysig hwn gan ein pobl ifanc, cawsom oll ein hatgoffa o'r perygl enbyd y...

6. Dadl Plaid Cymru: Iechyd menywod (18 Mai 2022)

Cefin Campbell: Wel, hanner munud, os caf i.

6. Dadl Plaid Cymru: Iechyd menywod (18 Mai 2022)

Cefin Campbell: Ocê. Dwi'n dod â hyn i ben.

6. Dadl Plaid Cymru: Iechyd menywod (18 Mai 2022)

Cefin Campbell: Wrth restru ei phryderon am y gofal sydd ar gael i'r rheini sy'n dioddef o'r cyflwr, roedd mam Emily yn glir ei barn fod angen mwy o ganolfannau endometriosis ar draws Cymru er mwyn darparu gofal arbenigol sydd yn hollol angenrheidiol i gleifion. Er bod yna un yng Nghaerdydd, mae hi o'r farn bod angen gwella'r gofal yno yn fawr iawn. Yn ail, a dwi'n gorffen gyda hyn, codwyd pryderon gan y...

6. Dadl Plaid Cymru: Iechyd menywod (18 Mai 2022)

Cefin Campbell: Wel, diolch ichi am hynny, ac rwy'n credu ein bod eisoes wedi clywed sut yr ymdrinnir â'r symptomau yn hytrach na gwraidd y broblem. Os caf ddyfynnu Emily unwaith eto? Fe'ch atgoffaf mai dim ond 23 oed yw hi: 'Rwy'n byw mewn poen bob dydd ac yn ceisio ymdopi gystal ag y gallaf. Nid yw pethau'n edrych yn wych gyda fy ffrwythlondeb. Rwy'n gobeithio drwy'r amser am ryw fath o ryddhad. Ond...

6. Dadl Plaid Cymru: Iechyd menywod (18 Mai 2022)

Cefin Campbell: Hoffwn rannu stori un o fy etholwyr, Emily o sir Gaerfyrddin, gyda chi. Mae hi bellach yn 23 oed, ond roedd Emily yn gwybod nad oedd pethau'n iawn pan ddechreuodd gael ei mislif yn 12 oed. Bob mis, câi boen annioddefol. Fodd bynnag, am flynyddoedd, nid oedd ei meddyg yn credu pa mor ddifrifol oedd ei chyflwr. Nid tan i Emily lewygu a chael ei chludo i'r ysbyty gyda sepsis ym mis Awst 2019 y...

6. Dadl Plaid Cymru: Iechyd menywod (18 Mai 2022)

Cefin Campbell: Mae iechyd menywod yn rhywbeth mae angen i ni gyd ddeall. Mae yna ddyletswydd arnon ni i sicrhau gwell ymwybyddiaeth, a bod gwell darpariaeth gofal ar gael i'r amryw o gyflyrau mae menywod o bob oedran yn eu dioddef, a hynny yn aml yn dawel a heb gymorth digonol, fel y clywon ni'n gynharach gan Sioned Williams. Yn y misoedd diwethaf, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â fi ynglŷn ag un...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cronfa Ddŵr Llyn Clywedog (18 Mai 2022)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Wel, yn ddiweddar iawn, ces i gyfarfod gyda nifer o ffermwyr yn ardal Llanidloes ym Mhowys, gan drafod pryderon gyda nhw am sut mae lefelau dŵr yn cael eu rheoli yng nghronfa ddŵr Clywedog a'r effaith mae hyn yn ei chael ymhellach lawr y dyffryn, gyda thir amaethyddol ac eiddo yn cael eu heffeithio gan lifogydd, a hynny mor ddiweddar â mis Chwefror eleni. Nawr, mae fy...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cronfa Ddŵr Llyn Clywedog (18 Mai 2022)

Cefin Campbell: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar reolaeth lefelau dŵr yng nghronfa ddŵr Llyn Clywedog, Powys? OQ58059

4. Datganiadau 90 eiliad (11 Mai 2022)

Cefin Campbell: Hoffwn ddymuno'n dda i ddigwyddiad deuathlon aml-chwaraeon ColegauCymru sydd yn cael ei gynnal heddiw ym Mharc Gwledig Pen-bre, ger Llanelli, a hynny yn dilyn absenoldeb o dair blynedd, wrth gwrs, yn sgil y pandemig. Bydd y digwyddiad yn gweld dros 250 o ddysgwyr a staff addysg bellach o wyth coleg o bob rhan o Gymru yn dod ynghyd i'r digwyddiad cynhwysol hwn, gyda chyfranogwyr yn mentro unai...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Economi Cymru ( 4 Mai 2022)

Cefin Campbell: Gadewch inni daflu—i gloi, Llywydd—Brexit i'r pair. Gwnaeth y Prif Weinidog sicrhau cytundeb Brexit gwan iawn i'r gwledydd hyn, sydd wedi golygu bod Cymru ar ei cholled o dros £1 biliwn dros y tair blynedd nesaf, ac mae effaith hyn ar ein sector amaethyddol a'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn sylweddol iawn, iawn. Ie, yn sicr, gallai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy i dyfu economi...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Economi Cymru ( 4 Mai 2022)

Cefin Campbell: Mae poblogaeth Cymru yn 4.7 y cant o boblogaeth y DU, ond yn 2020, 2 y cant yn unig o gyllideb ymchwil a datblygu'r DU a gawsom, cyllideb sy'n hanfodol ar gyfer twf ein heconomi. Yn ychwanegol at hyn, rydym wedi gweld tanfuddsoddi cronig yn hanesyddol, gan olygu nad ydym wedi paratoi'n ddigonol ar gyfer argyfwng fel yr argyfwng costau byw presennol, ac yn methu rheoli'r sefyllfa drosom ein...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Economi Cymru ( 4 Mai 2022)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cyn fy mod i'n mynd at y cyfraniad, dwi eisiau gwneud datganiad o ddiddordeb am y tro olaf, gan fy mod i'n gynghorydd sir am un diwrnod arall. Mae braidd yn eironig bod y Torïaid wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, gan fod eu plaid, nid yn unig yn erbyn caniatáu i Gymru gael y levers economaidd ac ariannol priodol sydd eu hangen arnom ni i wir drawsnewid a...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Rhyfel yn Wcráin (27 Ebr 2022)

Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Wel, fel rŷch chi'n gwybod, does dim dwywaith fod y cyfnod hwn yn gyfnod difrifol iawn ac anodd i ffermwyr, gyda phrisiau ynni, tanwydd a nwyddau ar gynnydd, a hyn ynghyd â'r toriadau i gyllideb y sector amaeth gan y Torïaid yn Llundain a hefyd y cytundebau masnach sy'n mynd i wneud niwed mawr iawn i'r sector yn ogystal. Ac mae'r golygfeydd trychinebus yn...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.