Mabon ap Gwynfor: Dwi'n gresynu ein bod ni unwaith eto yn cael trafodaeth ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol arall, deddfwriaeth sydd wedi'i llunio yn San Steffan ar gyfer Lloegr, heb y cyfle go iawn i ni yma ymgynghori yn ei chylch neu hyd yn oed ei chraffu yn drylwyr. Ond, ar yr egwyddor sylfaenol, dydyn ni ar y meinciau yma ddim yn gwrthwynebu'r Bil na'r hyn y mae'n trio ei gyflawni.
Mabon ap Gwynfor: Bydd llawer sydd yn clywed am y Bil arfaethedig am y tro cyntaf yn pryderu mai'r bwriad ydy i alluogi GM, fel rydyn ni wedi clywed y Gweinidog yn dweud, sef addasu genetaidd. Ond, nid dyna ydy ystyr 'golygu genetaidd' o gwbl. Ar hyn o bryd, mae’r gallu golygu genetaidd yn eistedd yn rhan o ddeddfwriaeth addasu genetaidd, ond ni ddylai fod yno, gan eu bod yn ddau beth gwbl wahanol. Bwriad y...
Mabon ap Gwynfor: Rydyn ni'n cytuno, wrth gwrs, efo datganiad olaf Janet Finch-Saunders yn fanna. Dydyn ni ddim yn gwrthwynebu mewn egwyddor cynnwys y Bil. Yn wir, wrth ystyried record dda y Senedd yma wrth hyrwyddo'r argyfwng natur, roedd yna gyfle i ni arwain yn y maes yma. Mae'n bechod, felly, ein bod ni wedi methu gweld Bil Cymreig ac yn gorfod gadael i San Steffan ddeddfu ar fater datganoledig. Ond, mi...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i Russell George am gyflwyno'r ddadl yma y prynhawn yma. Rŵan, ar y cychwn fan yma, dwi am bwysleisio ein bod ni ar y meinciau yma a, gwn, y meinciau draw hefyd yn gyfeillion i'r ambiwlans awyr. Mi ydyn ni'n dod at y mater yma fel critical friends, a'r rheswm am hynny ydy oherwydd bod yr elusen gwych yma a'r gwasanaeth rhagorol y mae'n ei ddarparu mor ofnadwy o bwysig i Ddwyfor...
Mabon ap Gwynfor: A gaf i roi datganiad diddordeb, sef fy mod i'n gyfranddalwr mewn amryw fentrau cymunedol, sydd ar y record gyhoeddus? Diolch am y cyfle i gael siarad yn y ddadl yma heddiw. Fel y gwyddoch chi, fe wnes i gyflwyno cynnig cyn yr haf y llynedd ar rymuso cymunedau—cynnig a gafodd ei basio gan y Senedd hon. Ond, er gwaethaf ein bod wedi cytuno ar y ffordd ymlaen fel Senedd, y gwir ydy nad oes...
Mabon ap Gwynfor: Soniodd y Gweinidog am brosiect adweithydd pwll agored dŵr ysgafn Awstralia. Mewn gwirionedd rwyf wedi siarad â rhai o'r arbenigwyr yn Awstralia ym maes niwclear meddyginiaethol; rwyf wedi siarad ag arbenigwyr yng Nghanada hefyd, ac mae disgwyl i mi gael cyfarfod gydag adweithydd ymchwil Jules Horowitz yn Ffrainc ac adweithydd ymchwil München cyn hir. Soniodd y Gweinidog nad oes datblygiad...
Mabon ap Gwynfor: Dwi am wneud dau bwynt a gofyn dau gwestiwn, os yn bosib. Fe ddaru'r Gweinidog ddweud ynghynt fod gan Gymru fwy o feddygon teulu yng Nghymru nag yn Lloegr. Dwi'n ofni bod hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth, mewn gwirionedd, o'r sefyllfa rydyn ni'n wynebu. Hynny ydy, mae dwysedd poblogaeth Lloegr yn llawer iawn fwy dwys na Chymru. Mae'n haws iawn cael access i feddyg pan fo gennych chi 1,000 o...
Mabon ap Gwynfor: Gaf i ofyn i'r Gweinidog addysg a'r iaith Gymraeg ddod â datganiad ger ein bron ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau asesiadau cyfrwng Cymraeg amserol i blant sydd angen asesiad awtistiaeth? Mae gen i ambell i achos yn fy etholaeth o blant sydd angen asesiadau awtistiaeth cyfrwng Cymraeg ond yn gorfod aros blynyddoedd. Er enghraifft, cafodd Rhodri—nid ei enw iawn— sy'n wyth...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A llongyfarchiadau i Peter Fox am lwyddo i ddod â'r Bil hwn mor bell, a hoffwn gymryd eiliad i fynegi fy nghefnogaeth gyffredinol i'r Bil hwn. Mae pandemig COVID-19 ac ymosodiad parhaus Rwsia ar Wcráin wedi dangos pa mor sensitif y gall cadwyni cyflenwi bwyd a nwyddau amaethyddol fod i ddigwyddiadau byd-eang, gan ein hatgoffa o beryglon dibynnu ar...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Mae nifer fawr o rieni a fferyllwyr, yn wir, wedi dod ataf i dros y dyddiau diwethaf yn pryderu nad ydyn nhw'n medru cael gafael ar penicillin, amoxicillin, clarithromycin ac erythromycin. Mae fferyllwyr yn methu rhoi gwrthfiotig hylif i blant gan nad ydy o ar gael, ac yn gorfod dangos i ofalwyr neu rieni sut mae agor capsiwls a chymysgu'r powdr efo hylif...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb, ac roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn sôn yn gynharach, gyda llaw, yn dweud diolch i weithwyr y sector iechyd, ond dydy geiriau, fel clapio, ddim yn talu biliau; mae angen i chi fynd a thrafod efo'r undebau o lan lefel eu cyflog. Ond ta waeth am hynny am y tro, mae'r straeon am gleifion yn aros oriau am ambiwlansys yn llawer rhy gyffredin, mae gen i...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hynny, ond dwi'n ofni bod y Llywodraeth yn chwilio am atebion llawer rhy simplistaidd i gwestiynau llawer iawn mwy dyrys, mewn gwirionedd. Mae yna lu o swyddi gwag gennym ni ar hyn o bryd; mae rhai yn talu'n dda iawn, rhai ddim cystal—yn feddygon, yn filfeddygon, yn ddarlithwyr, yn athrawon, yn swyddogion cynllunio, yn ofalwyr, a llawer iawn mwy. Ond, does...
Mabon ap Gwynfor: 5. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i godi'r cyfartaledd cyflog yn Nwyfor Meirionnydd? OQ58883
Mabon ap Gwynfor: 7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau ambiwlans yn Nwyfor Meirionnydd? OQ58884
Mabon ap Gwynfor: 1. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder gwrthfiotigau dros gyfnod y Nadolig? TQ699
Mabon ap Gwynfor: Mae'r rheoliadau hyn ger ein bron heddiw yn achos pryder gwirioneddol. Mae Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, wedi egluro manylion y pryderon yn huawdl ac yn bwerus ynghylch yr hyn sy'n ddarn o waith rhyfeddol o ddiffygiol. Rwy'n deall y byddwch chi'n pryderu bod yn rhaid pasio hyn cyn diwedd y flwyddyn, a byddwn yn adleisio cwestiwn y...
Mabon ap Gwynfor: Dwi hefyd am wneud ple ar ran ein pysgotwyr morol a busnesau bwyd mor. Mewn cyflwyniad i'r grŵp trawsbleidiol newydd ar bysgodfeydd a dyframaeth, mi gawson ni ddarlun trychinebus o’r sector yma, efo faint o bysgod sy’n cael ei glanio yn disgyn, incwm yn disgyn a llai o swyddi. Mae yna botensial aruthrol i'r sector, ond mae’r sector ar fin mynd i ddifancoll heb gefnogaeth sylweddol o du...
Mabon ap Gwynfor: Dwi am ddechrau fy nghyfraniad drwy sôn am dai. Ddydd Sadwrn oedd Diwrnod Hawliau Dynol y byd, ac mae’n rhaid inni sicrhau bod gan bawb yng Nghymru do uwch eu pennau. Mi oeddwn i’n falch, felly, o glywed y Gweinidog Newid Hinsawdd, mewn ymateb i gwestiwn gen i rai wythnosau yn ôl, yn dweud yn ddiamwys:
Mabon ap Gwynfor: 'Hoffwn pe bai’r hawl i gartref digonol yn fwy na syniad yn unig, ac yn hawl y gellir ei gorfodi i unigolyn'.
Mabon ap Gwynfor: Dyma gydnabyddiaeth bod angen cynyddu’r stoc tai. Felly, mae’n rhaid inni weld buddsoddiad difrifol i mewn i dai cyhoeddus.