Canlyniadau 81–100 o 7000 ar gyfer speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian

4. Datganiadau 90 Eiliad ( 2 Chw 2022)

Siân Gwenllian: Roeddwn i am rannu efo'r Senedd wybodaeth am ffilm fer ond hyfryd sy'n rhoi bywyd newydd i un o hen chwedlau ein cenedl ni. Disgyblion Ysgol Gynradd Rhosgadfan yn fy etholaeth i sydd wedi creu'r ffilm. Fe'i dangoswyd yn uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow, a chael ymateb brwd. Cafodd y plant a'u teuluoedd gyfle i weld y ffilm ar sgrin fawr mewn dangosiad arbennig yn Galeri...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Gwasanaethau Fasgiwlar ( 2 Chw 2022)

Siân Gwenllian: Mae yna dystiolaeth bendant a chynyddol fod ad-drefnu'r gwasanaethau fasgwlar wedi arwain at ddirywiad sylweddol yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl y gogledd. Mi fyddai wedi gwneud synnwyr i leoli'r hwb newydd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor—dyna fyddai ad-drefnu synhwyrol wedi'i wneud, sef adeiladu ar yr uned o safon ardderchog oedd yno. Fel rydych chi'n ei ddweud, mae yna adolygiad arall ar y...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Gwasanaethau Fasgiwlar ( 2 Chw 2022)

Siân Gwenllian: 2. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am wasanaethau fasgiwlar i gleifion o Arfon a phob rhan o’r gogledd ers ad-drefnu’r ddarpariaeth? OQ57541

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Anghydraddoldebau Cymdeithasol (12 Ion 2022)

Siân Gwenllian: Dwi'n gobeithio y gwnaiff y cysylltiad wella wrth i fi symud ymlaen. Mae'r pandemig wedi tanlinellu'r anghydraddoldeb dwfn sydd yn bodoli yn fy etholaeth i rhwng cymunedau â'i gilydd, a rhwng teuluoedd â'i gilydd. Er enghraifft, mae problemau tai anaddas mewn rhannau o Arfon—tai sy'n rhy fach i anghenion y teuluoedd sydd ynddyn nhw, tai sydd yn damp ac yn anodd i'w gwresogi. Ac, wrth...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Anghydraddoldebau Cymdeithasol (12 Ion 2022)

Siân Gwenllian: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwersi a ddysgwyd am anghydraddoldebau cymdeithasol yn sgil y pandemig? OQ57412

1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar COVID-19 (22 Rha 2021)

Siân Gwenllian: Dwi’n deall bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bod gemau cynghreiriau Cymru—rhai adran ac ardal—yn cael eu gohirio am y tro gan nad ydy 50 o gefnogwyr yn mynd i fod yn ddigon i’r gemau fod yn gynaliadwy yn ariannol. Rŵan, mi fydd hyn yn creu rhwystredigaeth fawr i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr, ond hefyd yn creu problemau llif arian. Allwch chi egluro pa gymorth ariannol...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 7 Rha 2021)

Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer sefydlu academi ddeintyddol newydd Bangor?

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Llafaredd a Darllen Plant (16 Tach 2021)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o glywed y bydd y rhaglen rydych chi'n ei chyhoeddi heddiw yn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru lyfr ei hun i'w gadw. Mi ges i'n atgoffa yn ddiweddar o'r pleser ges i o ddarllen llyfr o'r enw Luned Bengoch pan oeddwn i'n blentyn—llyfr sydd newydd gael ei ailargraffu ac ar gael yn y siopau unwaith eto. Mi gefais i bleser o'r...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithredu carbon sero-net a’r rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif ( 2 Tach 2021)

Siân Gwenllian: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y datganiad. Fel rydyn ni'n gwybod, ac fel rydych chi wedi sôn eisoes, mae hi'n wych gallu codi adeiladau newydd sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, ond mae angen inni fod yn ôl-ffitio ein stoc bresennol ni o adeiladau er mwyn lleihau allyriadau mewn ffordd ystyrlon, fel rhan o'r ymdrech i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. A fedraf i ddim...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Recriwtio athrawon (20 Hyd 2021)

Siân Gwenllian: A wnewch chi gymryd ymyrraeth?

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Recriwtio athrawon (20 Hyd 2021)

Siân Gwenllian: Dwi'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud o ran y nifer sydd ar gyrsiau dysgu cychwynnol yn cynyddu, a da o beth ydy hynny; y broblem fawr ydy bod un o bob tri yn gadael ar ôl pum mlynedd ac mai hwnna mewn gwirionedd sydd yn creu'r broblem fawr wedyn. Cadw'r athrawon ydy'r broblem fwyaf, a hwnna, does bosib, y mae angen ichi roi sylw iddo fo.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Recriwtio athrawon (20 Hyd 2021)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Y prif reswm ddaru i ni benderfynu cyflwyno'r gwelliant i'r cynnig heddiw oedd i dynnu sylw at y ffaith bod y mater o gadw athrawon—retention—yn fwy cymhleth ac amlochrog na materion yn ymwneud â staffio a phersonél yn unig; hynny yw, yn fwy eang na chwmpawd y cynnig yma. Wrth gwrs, mae materion personél a staffio yn bwysig, a ddylen ni ddim anghofio chwaith bod ymgyrch...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Pysgota Anghyfreithlon (13 Hyd 2021)

Siân Gwenllian: Mae cymdeithas o bysgotwyr lleol wedi cysylltu efo mi ynghylch potsio honedig sy'n digwydd, a diffyg gorfodi deddfau pysgota. Yr honiad ydy bod yna ostyngiad sylweddol yn nhimau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru, gan adael tîm o ddim ond 15 i wneud y gwaith yma ar hyd a lled Cymru. Mae'r gymdeithas pysgotwyr yn teimlo bod hyn yn annigonol ar gyfer diogelu ein pysgodfeydd, ac yn adrodd bod...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Pysgota Anghyfreithlon (13 Hyd 2021)

Siân Gwenllian: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau i daclo pysgota anghyfreithlon? OQ57024

8. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21 (12 Hyd 2021)

Siân Gwenllian: Diolch am y cyfle i drafod yr adroddiad yma. Hoffwn i ganolbwyntio ar agweddau penodol o'r adroddiad, rhai sydd angen sylw buan a rhai sydd heb gael sylw hyd yma y prynhawn yma. A hoffwn i gymryd y cyfle i holi'r Gweinidog am ei sylwadau, gan dderbyn, wrth gwrs, nad ydy'r ymateb llawn swyddogol ar gael eto. Trof yn gyntaf at blant sy'n cael eu hatal neu eu diarddel o'r ysgol. Sut yn y byd ei...

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu dadl ar eitemau 5-8 ( 6 Hyd 2021)

Siân Gwenllian: Cynnig yn ffurfiol.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Hyd 2021)

Siân Gwenllian: Mi fyddwch chi'n gwerthfawrogi bod yr undebau yn benodol yn gofyn am weithredu brys ar y mater yma, ac yn gobeithio am newyddion i'r perwyl yna gennych chi yn fuan. O ganlyniad i'r pandemig, rydym ni'n gwybod bod ysgolion, staff a disgyblion wedi bod o dan bwysau anferth. Mae yna adroddiad diweddar gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru sy'n tynnu sylw at sut mae'r...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Hyd 2021)

Siân Gwenllian: Diolch. Mi fyddai hynna'n ddefnyddiol iawn, a dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo fi bod awyru yn yr adeiladau ysgol yn hollbwysig, yn enwedig rŵan, o feddwl efallai bod yna gyd-heintio yn digwydd, sy'n gwneud y broblem yn waeth. Mi fuaswn i'n licio gofyn i chi am broblem arall ynglŷn â diogelwch ysgolion, sef asbestos, a beth ydy'ch ymateb chi i'r canfyddiad diweddar bod asbestos mewn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Hyd 2021)

Siân Gwenllian: Diolch, Lywydd. Mi oeddwn i'n falch iawn o weld bod niferoedd profion COVID positif mewn ysgolion wedi gostwng yn sylweddol yn ystod yr wythnos diwethaf—dwi'n siŵr eich bod chithau yn falch o weld hynny hefyd—gostyngiad o 44 y cant. Ond mae ysgolion yn parhau i fod mewn sefyllfa fregus iawn, wrth gwrs, efo rhai dosbarthiadau efo hanner y disgyblion wedi profi'n bositif am COVID. Mae prif...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.