Heledd Fychan: 8. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chynghorau yn rhanbarth Canol De Cymru ynglŷn â dyfodol gwasanaethau anstatudol yn sgil yr heriau ariannol y maent yn eu hwynebu? OQ58953
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog am y datganiad heddiw. Yn amlwg, mae yna nifer o bethau i'w croesawu fan hyn. Rydyn ni'n bendant yn cytuno o ran yr angen i uwchraddio nifer o ysgolion. Rydyn ni'n gwybod, o fynd ledled Cymru ac ymweld ag ysgolion, bod yna ysgolion sydd ddirfawr angen buddsoddiad. Mae hwn yn rhan bwysig o ran sicrhau yr amgylchedd ddysgu, sydd hefyd mor bwysig, fel rydych chi wedi amlinellu,...
Heledd Fychan: Fe hoffwn i ofyn nifer o gwestiynau, os gwelwch chi'n dda, Gweinidog, oherwydd fel rydym ni wedi dweud, mater yw hwn a fydd yn parhau i effeithio ar gymunedau ledled Cymru oherwydd yr argyfwng hinsawdd. Nid rhywbeth yw hyn sy'n peri pryder i'r dyfodol, ond tystiolaeth o newid hinsawdd a'i effaith nawr. Ac mae'n rhaid i ni wneud mwy, rwy'n credu, i gefnogi'r rhai sy'n byw mewn cymunedau sydd...
Heledd Fychan: Diolch Llywydd. Rwy'n croesawu datganiad heddiw gan y Gweinidog, ac yn arbennig, rwy'n meddwl am bob un sydd wedi dioddef difrod yn sgil lifogydd. I unrhyw rai ohonom ni sydd wedi gweld hynny'n uniongyrchol, mae'n beth cwbl ddinistriol. Ac, mae yna bobl y mae hyn wedi digwydd iddyn nhw dro ar ôl tro. Wythnos diwethaf, effeithiwyd ar ddau dŷ yn fy rhanbarth i ddwy waith—ddydd Iau a dydd...
Heledd Fychan: A gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, Trefnydd, am ddatganiad llafar gan y Gweinidog dros y celfyddydau a chwaraeon o ran dyfodol gwasanaethau sydd ddim yn statudol yn y meysydd diwylliant a chwaraeon? Yn benodol felly, rydyn ni'n gweld ar y funud nifer o awdurdodau lleol yn ymgynghori o ran newidiadau arfaethedig yn sgil y setliad ariannol, a dwi yn pryderu'n fawr o weld nifer o amgueddfeydd, ac...
Heledd Fychan: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Wrth gwrs, mae yna waith rhagorol yn digwydd bob diwrnod gan y gwasanaeth iechyd, ond mae'n bwysig inni gydnabod heddiw y pwysau aruthrol sydd ar staff. Dwi wedi derbyn cymaint o ohebiaeth torcalonnus dros y Nadolig, fel pawb yma dwi'n siŵr, gan etholwyr sydd yn gleifion, yn aelodau o deulu cleifion, ond hefyd gan weithwyr sy'n dweud, 'Fedrwn ni...
Heledd Fychan: Trefnydd, fel y gwyddoch chi, fis nesaf bydd yn nodi tair blynedd ers y llifogydd dinistriol o ganlyniad i storm Dennis, a effeithiodd yn arbennig ar Ganol De Cymru. Roedd yr adroddiad dilynol gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu mai un o'r heriau mwyaf iddyn nhw eu hwynebu wrth ymateb i lifogydd oedd gallu, a hynny oherwydd nad oedd ganddyn nhw ddigon o adnoddau o ran staff. Roedd...
Heledd Fychan: Mae mwy nag un o bob tri o blant ledled Cymru yn byw o dan y llinell dlodi—o leiaf 10 plentyn mewn dosbarth o 30—ac mewn rhai ardaloedd, mae’r gyfradd hyd yn oed yn uwch, ac yn anffodus, dim ond gwaethygu mae pethau wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar fwyfwy o bobl. Mae gan Gymru gyfradd tlodi plant uwch na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, ac er bod y Gweinidog yn iawn...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Cwestiwn penodol ydy hwn o ran yswiriant, oherwydd, ar gyfer tai preswyl, mae'r cynllun yswiriant ar gael trwy ardoll ar gwmnïau yswiriant, sef Flood Re. Nid oes cynllun cyfatebol ar gael ar gyfer busnesau, sy'n golygu bod nifer gydag yswiriant costus dros ben neu sy'n methu bellach â chael yswiriant i'w gwarchod rhag llifogydd. Gyda'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod...
Heledd Fychan: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cefnogaeth ar gyfer busnesau yng Nghanol De Cymru sy'n methu â chael neu fforddio yswiriant oherwydd risg parhaus o lifogydd? OQ58874
Heledd Fychan: Ysgrifennodd rhywun ata i yr wythnos hon: 'Does dim byd yn gwella; mae popeth yn gwaethygu o ddydd i ddydd. Nid yw hyd yn oed rhai o'r cyfraniadau a gefais yn gwneud unrhyw wahaniaeth. Beth fydd yn newid i mi a pha addewidion allwch chi eu gwneud?' Wel, mae'n anodd dros ben, oherwydd, hyd yn oed o edrych ar y gyllideb hon, nid yw'r cwestiynau a ofynnir yn mynd i gael eu datrys nac yn mynd i...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Hoffwn adleisio llawer o'r sylwadau. Nid yw yn benderfyniad hawdd, ac, mewn sawl ffordd, mae'n gyllideb drist iawn. Rydych chi'n edrych arno ac yn meddwl am y penderfyniadau anodd y mae'n rhaid eu gwneud, ond hefyd o wybod, i lawer o bobl, nad yw'n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i'w bywydau.
Heledd Fychan: Gaf i ofyn am ddiweddariad, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r adolygiad annibynnol o lifogydd, ac, yn benodol, sut y bydd Aelodau'n gallu cyflwyno tystiolaeth? Yn amlwg, mae hyn yn rhan o'r cytundeb cydweithio, a dwi'n gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo, ond mae yna elfen bwysig o ran ein bod ni fel Aelodau etholedig yn gallu rhoi tystiolaeth. Mi fyddai cael eglurder ar hynna drwy ddatganiad...
Heledd Fychan: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghanol De Cymru?
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am roddi'r ddadl yma gerbron.
Heledd Fychan: Un o'r prif ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu yw archwilio sut yr eir ati mewn modd radical i ddiwygio'r gwasanaethau cyfredol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod yna adolygiad o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru, ac rwy'n cefnogi hyn heb gytuno i'r gwelliant heddiw. Rwy'n credu ei fod yn hollbwysig. Rydym wedi trafod y...
Heledd Fychan: Ocê. Diolch yn fawr iawn. Mae'r ymdeimlad hwnnw yn eithriadol o bwysig, ond gaf i ofyn felly: beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod yr ymdeimlad cenedlaethol hwn, a'r cysylltiad efo'r iaith Gymraeg, yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fynd ati yn bwysig o ran hynny, ein bod ni ddim jest yn gadael hon yn frwydr i'r siaradwyr Cymraeg, bod hon yn rhywbeth sydd yn bwysig i...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. A hithau'n Ddiwrnod Hawliau'r Gymraeg heddiw, dwi'n meddwl ei bod hi'n addas iawn ein bod ni'n cael y drafodaeth ac, yn amlwg, mae yna fwy o ddata i'w ryddhau o ran y cyfrifiad hefyd, a dwi'n mawr obeithio, gan fod ein pleidiau ni yn cydweithio ar nifer o elfennau pwysig o ran Cymraeg 2050, y gall y deialog hwnnw barhau. Ac, yn amlwg, mae angen mwy o amser i ddadansoddi a...
Heledd Fychan: Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhaid cyfaddef, roedd hi'n wych gweld y cynnyrch yn y tai bach ers yr wythnos hon. Rwyf eisiau gofyn hefyd, pryd bydd y peiriannau talu, felly, yn cael eu tynnu o’r tai bach? Oherwydd mae'n neges gymysg ar y funud, gan ein bod ni dal efo'r peiriannau lle mae'n rhaid talu. Pryd bydd yr arwyddion yn fwy parhaol? Oherwydd arwyddion dros dro ydyn nhw. Dwi'n deall bod...
Heledd Fychan: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Mae'n gwasanaeth post, wrth gwrs, drwy'r Swyddfa Post a'r Post Brenhinol, yn wasanaeth hanfodol i gymaint o bobl yn ein cymunedau. O ran fy rhanbarth, mae nifer o swyddfeydd post wedi cau neu leihau eu horiau agor, ac mae pryderon penodol o ran dyfodol swyddfa post Pontypridd—swyddfa brysur dros ben yng nghanol tref Pontypridd, sy'n cau ar 23 Rhagfyr...